Treth flynyddol yw Treth Cyngor yr ydych yn ei thalu i’ch cyngor lleol. Pennir y gost gan eich cyngor ac aiff yr arian at ariannu gwasanaethau lleol. Darganfyddwch fwy am Dreth Cyngor, sut i wneud yn siŵr nad ydych yn talu mwy nag sydd raid a beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth talu.
Beth yw Treth Cyngor?
Treth flynyddol yw Treth Cyngor y mae’r cyngor lleol yn ei chodi arnoch chi am y gwasanaethau a ddarperir ganddo, fel casglu sbwriel a gwasanaeth llyfrgelloedd. Fel arfer rydych yn talu 10 rhandaliad misol, gyda dau fis ar ôl hynny lle na fyddwch yn gwneud taliad.
Bydd faint o Dreth Cyngor fyddwch chi yn ei dalu yn dibynnu ar:
- eich amgylchiadau personol
- gwerthusiad band Treth Cyngor eich eiddo
- faint o arian sydd ei angen ar y cyngor i ariannu ei wasanaethau.
Beth mae’r Dreth Cyngor yn ei dalu amdano?
?
Os ydych wedi bod yn talu gormod ar eich Treth Cyngor ers blynyddoedd, efallai y gallwch hawlio ad-daliad sy’n werth miloedd o bunnoedd.
Mae Treth Cyngor yn ariannu gwasanaethau lleol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gwasanaethau heddlu a thân
- prosiectau hamdden fel cynnal a chadw parciau a chanolfannau hamdden
- llyfrgelloedd a gwasanaethau addysg
- casglu a gwaredu ysbwriel
- gwasanaethau trafnidiaeth a phriffyrdd gan gynnwys golau stryd a glanhau a chynnal ffyrdd
- Iechyd yr amgylchedd a safonau masnach
- gweinyddu a chadw cofnodion, fel priodasau, marwolaethau a genedigaethau, ac etholiadau lleol.
Ni ddefnyddir y Dreth Cyngor i dalu am wasanaethau iechyd.
Faint yw fy Nhreth Cyngor?
Mae faint o Dreth Cyngor dalwch chi yn dibynnu ar werth eich cartref a ble rydych yn byw.
Dewch o hyd i’ch awdurdod lleol a faint sydd angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio’r dolenni isod:
Bydd pob un o’r dolenni uchod yn eich cyfeirio at wefan eich cyngor lleol.
O’r fan honno gallwch gael gwybodaeth ar y Dreth Cyngor.
Efallai y bydd modd i chi gysylltu â nhw yn uniongyrchol a holi.
A allaf i gael gostyngiad?
Gallech gael gostyngiad ar eich Treth Cyngor:
- os ydych ar incwm isel
- os ydych yn fyfyriwr neu’n byw gyda myfyrwyr
- os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref
- fe gewch rai budd-daliadau penodol, fel Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cynhwysol
- os oes gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi anabledd ac o ganlyniad yn gorfod byw mewn cartref mwy
- mae gennych amhariad meddyliol difrifol neu’n byw gyda rhywun sydd â chyflwr o’r fath.
- os oes gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi anabledd ac o ganlyniad yn gorfod byw mewn cartref mwy
- mae gennych amhariad meddyliol difrifol neu’n byw gyda rhywun sydd â chyflwr o’r fath
- rydych yn adawr gofal yn yr Alban, lle byddwch wedi’ch eithrio rhag talu Treth Cyngor o 18 oed hyd nes i chi gyrraedd 26 oed
- rydych yn byw yn rhai siroedd penodol yng Nghymru a Lloegr ac yn adawr gofal
- rydych yn aelod o’r lluoedd arfog, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau
- rydych wedi symud i gartref gofal neu ysbyty
- rydych mewn carchar – oni bai eich bod yn treulio dedfryd o garchar am fethu â thalu Treth Cyngor.
Dysgwch ragor am gael gostyngiad yn y Dreth Cyngor yng
Nghymru a’r
Alban.
Talu’ch Treth Cyngor dros 12 mis yn lle 10
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn caniatau i chi ledaenu’ch taliadau Treth Cyngor dros 12 mis yn lle’r 10 arferol. Gallai talu’r un swm bob mis ei gwneud hi’n haws i chi gyllidebu.
Gofynnwch i’ch cyngor a ydynt yn cynnig y dewis hwn.
Ym mha fand Treth Cyngor ydw i?
Mae gan Loegr a’r Alban wyth o fandiau prisio ar gyfer y Dreth Cyngor yn amrywio o A (y rhataf) i H. Mae band Treth Cyngor tŷ yn seiliedig ar ei werth ardrethol – po ddrutaf yw’r eiddo, po uchaf yw band y Dreth Cyngor.
Yng Nghymru mae naw band – o 1 (yr uchaf) i 9.
Os yw’ch cartref wedi’i osod mewn band uwch nag y dylai, mae’n debyg eich bod yn talu mwy o Dreth Cyngor nag sydd raid.
Sut i gael band eich Treth Cyngor wedi’i adolygu
?
Mae hyd at 400,000 o gartrefi yn Lloegr a’r Alban yn y bandiau Treth Cyngor anghywir. Gwerthuswyd cartrefi yng Nghymru yn fwy diweddar ac maent yn llai tebygol o fod yn y band anghywir.
Os credwch eich bod yn talu gormod ar eich Treth Cyngor gan fod eich tŷ yn y band treth anghywir, yna gallech fedru hawlio ad-daliad.
I gael yr ad-daliad hwn bydd angen i chi ofyn am adolygiad.
Ond cofiwch: gallai’r adolygiad olygu y bydd y cyngor yn gosod eich eiddo mewn band uwch.
Cwynion am y Dreth Cyngor
Os oes gennych chi gŵyn am eich Treth Cyngor, fel arfer bydd rhaid i chi gwyno i’r cyngor yn gyntaf. Ni ddylent gymryd mwy na 12 wythnos i ddatrys y broblem.
Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon â’r canlyniad, neu os ydynt yn cymryd yn rhy hir i ddatrys eich cwyn, gallech gwyno i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Os methwch chi daliad Treth Cyngor
Gall peidio â thalu’n brydlon – hyd yn oed un taliad misol – fod yn fater difrifol gyda Threth Gyngor. Os na weithredwch yn gyflym gallech orfod talu taliad blwyddyn gyfan ymlaen llaw.
Felly, os oedd eich Treth Cyngor yn £167 y mis, ond methoch chi daliad cyntaf y flwyddyn, yna byddai’r swm yn troi’n ddyled o £1,671 ar unwaith.
Y peth pwysicaf yw cysylltu â’ch cyngor cyn gynted ag y tybiwch y gallech fethu taliad, gan fod hynny’n gwella’r tebygolrwydd y byddant yn medru dod i drefniant â chi.
Bydd rhai yn caniatáu i chi wneud y taliad ychydig yn hwyr, er mwyn i chi fedru parhau i dalu’r taliadau o hynny ymlaen yn unol â’r drefn wreiddiol. Efallai y bydd cynghorau eraill yn cynyddu’ch taliadau nesaf i unioni’r taliadau a fethwyd.
Os ydych ar incwm isel, efallai y cewch ostyngiad ar eich bil. Mae’n amrywio o un cyngor i’r llall ac o un achos i’r llall. Os cysylltwch â’ch cyngor yn syth ar ôl i chi fethu taliad, byddant yn aml iawn yn barod i’ch helpu.
Beth sy’n digwydd os nad wyf yn delio â fy nyled Treth Cyngor?
Os byddwch yn osgoi talu’r Dreth Cyngor ac yn anwybyddu llythyrau a anfonwyd atoch, gall y cyfan droi’n broblem ddifrifol.
Yn gyntaf fe gewch nodyn atgoffa gan y cyngor rhyw bythefnos ar ôl i chi fethu taliad. Os talwch o fewn saith diwrnod, nid oes angen i chi wneud dim byd pellach. Bydd y ddyled wedi’i chlirio a byddwch yn medru parhau i dalu eich Treth Cyngor mewn rhandaliadau.
Os na thalwch o fewn saith diwrnod ers derbyn y nodyn atgoffa neu os mai dyma’r trydydd tro i chi fod yn hwyr gyda thaliadau’r Dreth Cyngor yn ystod y flwyddyn hon, fe gewch ‘rybudd terfynol’ gan y cyngor.
Bydd y rhybudd terfynol yn dweud wrthych am dalu’r cyfan o’ch Treth Cyngor ar gyfer gweddill y flwyddyn o fewn saith diwrnod.
Os na thalwch o fewn saith diwrnod o’r rhybudd terfynol yna bydd y cyngor fel arfer yn cyflwyno cais i’r llysoedd am ganiatâd i gasglu’r ddyled gennych - ‘gorchymyn dyled’ yw’r enw a roddir ar hwn.
Ar ôl hynny gall eich cyngor fynnu bod eich cyflogwr yn talu’ch Treth Cyngor ddyledus o’ch cyflog yn uniongyrchol. Gallant hefyd gyflwyno cais i dynnu arian o rai budd-daliadau penodol, gan gynnwys
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol.
Os nad yw hyn yn bosib, gallai’r cyngor yrru beili i’ch cartref. Bydd yn rhaid i chi dalu costau llys a hanner ffi’r beili o bosib yn ogystal â’ch dyled, a all ychwanegu cannoedd o bunnoedd i’ch bil.
Os ydych yn Lloegr, mae’n dal yn bosibl hefyd cael eich carcharu am fynd i ddyledion gyda Threth Gyngor.