Gall gwefannau cymharu fod yn ddefnyddiol i’ch helpu i ddod o hyd i’r cerdyn credyd cywir. Ond yn gyntaf bydd angen i chi wybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng tabl bargen orau a chwilio ‘ar sail y farchnad gyfan’. Hefyd, byddwch yn ymwybodol ei bod yn bosibl nad yw’r tabl bargen orau yn dangos y cardiau gorau sydd ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod.
Cyn ichi ddefnyddio gwefan gymharu
Dyma rai cwestiynau pwysig y dylech eu hystyried cyn i chi ddechrau chwilio am y cerdyn credyd cywir.
?
Defnyddiwch wirwyr cymhwyster cardiau credyd cyn i chi fynd ati i wneud cais am gerdyn credyd. Maent yn rhoi gwell syniad i chi o ran a ydych chi’n debygol o gael eich derbyn ar gyfer cardiau penodol neu beidio, ac nid ydynt yn effeithio ar eich statws credyd.
- Ydych chi’n chwilio am gerdyn i wario arno ac, os felly, fyddwch chi’n gallu talu eich balans yn llawn bob mis?
- Efallai bod gennych chi ddyled heb ei chlirio yn barod ac yn edrych i drosglwyddo balans, ond a ydych chi eisiau gwario ar y cerdyn hefyd?
- Allwch chi fforddio ad-dalu unrhyw falansau cyn i’r cyfnod llog 0% orffen?
- Ydych chi’n gwybod pa mor dda yw eich statws credyd a sut i’w wella er mwyn i chi gael gwell cardiau credyd a gwell llog? Dysgwch fwy ar ein tudalen Sut i wella’ch statws credyd.
Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau pwysig a fydd yn helpu i ddod o hyd i’r cerdyn credyd gorau ar gyfer eich anghenion chi ac i weld ai cerdyn credyd yw’r opsiwn gorau ichi.
Defnyddio gwefannau cymharu i ddod o hyd i’r cerdyn credyd gorau
Gall y detholiad eang o wefannau cymharu fod yn ddefnyddiol iawn gan ddarparu rhestr gyflym o gardiau credyd ac yn eich helpu i benderfynu pa un sydd orau i chi.
Er ei bod yn well chwilio yn uniongyrchol gyda chyflenwyr i sicrhau’r fargen orau wedi i chi fireinio eich chwiliad, mae gwefannau cymharu yn gwneud y gwaith yn haws ac yn gyflymach. Mae gan wahanol wefannau cymharu hefyd wahanol gynigion, felly mae’n syniad i edrych ar lond llaw.
Tablau bargen orau
Pan fyddwch chi’n mynd i wefan gymharu am y tro cyntaf, mae’n bur debyg y gwelwch chi’r hyn a elwir yn ‘dabl bargen orau’. Mae tabl bargen orau yn tynnu sylw at y cardiau credyd mwyaf cystadleuol ar y farchnad, yn ôl y wefan benodol honno.
Ond efallai na fydd y tablau bargen orau hyn yn rhestru’r holl gynnyrch a allai fod ar gael ar y farchnad. Cofiwch, mae hi bob amser yn syniad da defnyddio mwy nag un tabl cymharu i roi cymorth i chi wneud penderfyniadau call.
Bydd y wybodaeth yn y tabl bargen orau fel arfer yn cynnwys:
- Enw’r cerdyn.
- Yr APR (cyfradd ganrannol flynyddol) – cyfradd sengl ar gyfer y cerdyn fydd hon ond bydd fel arfer yn seiliedig ar bryniannau yn unig gan anwybyddu unrhyw gyfnod rhagarweiniol.
- Unrhyw gynnig rhagarweiniol o 0% ar bryniannau a wneir ar y cerdyn.
- Unrhyw gynnig rhagarweiniol o 0% ar drosglwyddiadau balans i’r cerdyn.
- Pa mor hir mae’r cyfnod rhagarweiniol yn para (mae’n debyg o fod yn hwy ar gyfer trosglwyddiadau balans na phryniannau).
- Y ffi a godir ar gyfer pob trosglwyddiad balans.
- Unrhyw ffi flynyddol neu fisol am gael y cerdyn.
- Unrhyw fanteision sy’n gysylltiedig â’r cerdyn, fel arian yn ôl neu bwyntiau teyrngarwch.
- Unrhyw feini prawf cymhwyso sylfaenol ar gyfer cael eich derbyn ar gyfer y cerdyn - er enghraifft cyflog blynyddol o fwy na £15,000.
Dylai’r wybodaeth yn y tabl eich helpu chi i gyfrifo pa gerdyn sy’n fwyaf addas i’ch anghenion. Ond efallai na fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi - er enghraifft, efallai na fydd yn nodi’n glir pa gyfraddau llog sy’n gymwys ar ôl cyfnod rhagarweiniol, neu faint a godir wrth godi arian parod neu drafodion tramor.
Fe allai’r wefan gynnig arwydd o’r cymhwyster tebygol ar gyfer y cerdyn (a fydd wedi’i seilio ar fwy na dim ond incwm), nid yw’n warant y cewch eich derbyn.
Nid yw’r cynnyrch ‘gorau’ i gyd yn ymddangos mewn tablau bargen orau
Er y bydd tabl bargen orau yn dangos ystod o gardiau i chi ddewis ohonynt, mae’n bwysig gwybod na fyddant bob amser yn cynnwys y rhai gorau sydd ar gael ar y farchnad.
Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o wefannau cymharu yn gwneud eu harian wrth i bobl glicio a gwneud cais am gardiau drwy gyfrwng tablau bargen orau’r safle. Bob tro y bydd rhywun yn dilyn y ddolen am gerdyn i’r darparwr cerdyn ac yn gwneud cais am un, telir ffi i’r safle.
Nid yw pob darparwr cardiau yn fodlon talu i wefannau cymharu er mwyn ymddangos yn eu tablau bargen orau.
O ganlyniad i hynny efallai na fyddant yn ymddangos, a dim ond i ddeiliaid cyfrif cyfredol y mae rhai cardiau ar gael beth bynnag. Ond mae’r rhan fwyaf o safleoedd cymharu mwy yn cynnwys darparwyr sy’n talu ffi iddynt ynghyd â’r rheini nad ydynt.
Gwiriwch a ydynt wedi eu rhestru mewn trefn, yn ôl pris er enghraifft. Weithiau gall cwmnïau dalu er mwyn cael arddangos ar ben y rhestr neu yn fwy amlwg. Peidiwch â mynd am gerdyn ar dop y rhestr yn unig - gwiriwch y manylion i weld a yw’n addas ar eich cyfer chi.
Chwilio ‘ar sail y farchnad gyfan’
Mae rhai gwefannau cymharu, ond nid pob un, hefyd yn rhoi cynnig ichi chwilio ‘ar sail y farchnad gyfan’. Bydd hyn yn eich galluogi i edrych ar yr holl gardiau credyd sydd ar gael bron, gan gynnwys y rheini nad ydynt wedi’u cynnwys mewn tablau bargen orau.
Yna mae rhai safleoedd yn rhoi’r cyfle i chi ddewis categori cardiau i edrych arnynt, e.e. y rheini gyda chynigion trosglwyddo balans 0% neu wobrau. Fel arfer gallwch ddidoli’r rhain yn ôl meini prawf eraill hefyd, a rhestru cardiau, yn ôl APR neu gyfnod di-log.
Cardiau credyd arbennig
I wneud pethau’n fwy cymhleth byth, bydd rhai gwefannau cymharu yn gwneud bargeinion arbennig gyda darparwyr cardiau credyd. Bydd hyn yn golygu mai dim ond ar wefan benodol y bydd rhai cardiau credyd ar gael, ac fe allai fod ychydig yn wahanol i’r cerdyn cyfatebol ar wefan y darparwr ei hun.
Defnyddio tablau cymharu
Dylech bob amser edrych ar ddwy neu dair gwefan gymharu a gwneud llawer o ymchwil marchnad er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cynnig gorau a’r cynnyrch cywir i chi.
Mae hefyd yn syniad da i wirio gwefannau darparwyr cardiau unigol.