Sut i ddelio gyda dyledion benthyciad myfyrwyr a chardiau credyd wedi graddio
Wedi i chi raddio, efallai y byddwch yn wynebu llawer o ddyled myfyrwyr. Mae rhai camau ymarferol y gallwch eu cymryd i roi trefn ar eich ad-daliadau dyled myfyrwyr. Dysgwch pa ddyledion y dylech chi eu blaenoriaethu a ble i gael cymorth am ddim.
Symud ymlaen wedi cyfnod fel myfyriwr
Gall gymryd amser i addasu wedi i chi orffen bod yn fyfyriwr. Gall gymryd mwy o amser i gychwyn gyrfa nag a ragweloch neu efallai y bydd angen i chi symud yn ôl at eich teulu i arbed arian.
Bydd y sefyllfa’n gwella i’r rhan fwyaf o raddedigion ond efallai y bydd angen i chi gyfaddawdu ar hyd y daith. Mae gosod cyllideb a glynu wrthi er mwyn ymdopi â biliau mawr a dyledion myfyrwyr yn ffordd ddoeth o ymdopi â’r cyfnod hwn.
Awgrymiadau da ar reoli’ch dyledion myfyriwr:
Talwch eich biliau olaf fel myfyriwr
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi blaenoriaeth i dalu’ch biliau olaf fel myfyriwr cyn gadael prifysfgol neu goleg gan y bydd biliau sydd heb eu talu’n effeithio ar eich statws credyd. Gall ein hofferynnau awgrymiadau ariannol da i raddedigion fod o gymorth i chi lunio cynllun.
Ceisiwch gyngor dyledion rhad ac am ddim
Os nad yw torri’n ôl yn ddeallus i gwrdd â’ch ad-daliadau yn llwyddo i’ch helpu, dylech geisio cyngor ar ddyledion fel y cam nesaf. Mae llawer o wasanaethau rhad ac am ddim a chyfrinachol a all eich helpu. Gwiriwch ble gallwch chi gael cyngor am ddim ar ddyledion.
Rhowch flaenoriaeth i ddyledion ar gardiau credyd a benthyciadau
Neilltuwch ychydig o’ch incwm i gychwyn lleihau dyledion sydd â chyfraddau llog uchel o gardiau credyd a benthyciadau o’r banc. Talwch yr isafswm o leiaf a gwnewch yn siŵr nad ydych yn methu unrhyw randaliadau. Os methwch unrhyw rai, gallai effeithio ar eich statws credyd a’ch gallu i fenthyca yn y dyfodol ar gyfer cartref neu gar.
Newidiwch i gyfrif ar gyfer graddedigion
Eich cam nesaf yw trosglwyddo i gyfrif graddedigion er mwyn rhoi amser i chi ad-dalu’ch gorddrafft myfyriwr. Dysgwch faint o amser y bydd eich banc yn ei roi i chi ad-dalu’ch gorddrafft a pha bryd y bydd y trothwy awdurdodedig yn cael ei leihau. Nid yw’n ofynnol i chi aros gyda’r un banc, felly chwiliwch am y fargen orau. Dyma amser da i osod cyllideb a glynu wrthi er mwyn i chi roi trefn ar bethau.
Ad-dalu eich benthyciad myfyriwr
Nid yw’n ofynnol i chi gychwyn ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr hyd nes i’ch incwm gyrraedd lefel benodol. Codir llog ar y ddyled sy’n weddill ond nid oes raid i chi ad-dalu os na fydd eich cyflog yn cyrraedd trothwy penodol. Os digwydd rhywbeth, fel colli’ch swydd, yna bydd eich ad-daliadau’n stopio hyd nes i’ch incwm gyrraedd lefel benodol unwaith eto. Cofiwch, gall eich lefel incwm olygu ei bod hi’n ofynnol i chi ad-dalu benthyciadau myfyriwr yr un pryd ag y byddwch yn ceisio ad-dalu dyledion cerdyn credyd neu fenthyciadau banc i fyfyriwr.
Dysgwch ragor am ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.
Dyledion myfyrwyr a phensiynau gweithle
Os ydych yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn, byddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig ar gynllun pensiwn gweithle ac mae’n ofynnol i’ch cyflogwr wneud hynny. Gall dyled myfyrwyr eich temtio i stopio taliadau i bensiwn gweithle. Serch hynny, mae cynilo ar gyfer ymddeoliad yn hanfodol ar gyfer eich lles i’r dyfodol, felly ni ddylech ystyried rhoi’r gorau i bensiwn gweithle oni bai bod sefyllfa eich dyled wedi mynd allan o reolaeth.
Gall ein cyngor ar Gofrestru awtomatig os oes gennych ddyledion roi cymorth i chi benderfynu.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?