Os oes gennych blant, mae disgwyl i’r ddau riant dalu tuag at gostau eu magu nes byddant yn 16 oed o leiaf. Mae ffyrdd gwahanol i chi drefnu cynhaliaeth plant i bob un ohonynt.
Dewisiadau ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant
Mae pedwar dewis i drefnu gyda’ch cynbartner sut y bydd cynhaliaeth plant yn cael ei dalu:
-
Trefniant yn seiliedig ar y teulu: chi a’ch partner yn trefnu cynhaliaeth plant rhyngoch
-
Talu’n Uniongyrchol: mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn cyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu, ond chi a’ch cynbartner sy’n trefnu sut y bydd yn cael ei dalu rhyngoch chi
-
Casglu a Thalu: mae’r CMS yn cyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu, yn casglu’r arian gan un rhiant ac yn ei drosglwyddo i’r rhiant arall
-
Trefniant trwy orchymyn llys: defnyddir hyn, er enghraifft, pan fydd gan y rhiant sy’n talu incwm mawr iawn; i drefnu i ffioedd ysgol gael eu talu; neu i benderfynu faint o gynhaliaeth y dylid ei dalu am lysblant neu blant anabl. Gellir ei ddefnyddio hefyd os yw’r rhiant sydd i fod i dalu cynhaliaeth yn byw dramor
Yn yr Alban, gall plant wneud cais am gynhaliaeth plant os byddan nhw’n 12 oed neu hŷn.
Defnyddio trefniant yn seiliedig ar y teulu
Yma, byddwch chi a’ch cynbartner yn penderfynu faint o gynhaliaeth plant fydd yn cael ei dalu ac yn gwneud trefniadau i’w dalu.
Ni fydd raid i chi siarad â chyfreithiwr nag unrhyw weithiwr proffesiynol arall yn gyntaf, er y gallwch ddefnyddio cyfryngwr (sy’n rhywun annibynnol) i’ch helpu i lunio cytundeb.
Mae’n well os bydd y rhiant sy’n talu cynhaliaeth plant yn sefydlu archeb sefydlog fel bod arian yn cael ei dalu i’r rhiant arall yn gyson bob wythnos neu fis.
Manteision
- Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf i drefnu cynhaliaeth plant.
- Gallwch gytuno ar wahanol fathau o gymorth, fel prynu gwisg ysgol yn hytrach na thalu.
- Mae’n hyblyg – gallwch gytuno i newid y trefniadau os bydd eich amgylchiadau’n newid.
- Mae’n cynnal llinellau cyfathrebu rhyngoch chi a’ch cynbartner.
- Nid oes raid i chi dalu am drefnu un.
- Yn gweithio’n dda os yw’r ddau riant yn ymddiried yn ei gilydd ac felly mae’r rhiant sy’n derbyn yn hyderus bod y rhiant sy’n talu wedi datgelu ei incwm yn llawn.
Anfanteision
- Nid yw’n gyfreithiol rwymol – nid oes neb i gasglu taliadau coll nac i orfodi cytundebau a dorrwyd.
Os oes arnoch angen help i gytuno faint i’w dalu, neu sut i’w dalu, gallwch ddod o hyd i gyfryngwr:
Gwneud trefniant seiliedig ar y teulu yn rhwymol yn gyfreithiol
Efallai y gallwch chi droi trefniant seiliedig ar y teulu yn gytundeb rhwymol yn gyfreithiol naill ai trwy ofyn i’ch cyfreithiwr neu trwy fynd i’r llys a chael caniatâd neu orchymyn llys (yn yr Alban rhaid i chi gael ‘Cofnod o Gytundeb’).
Gallwch ei ddefnyddio i ffurfioli trefniadau ariannol eraill, fel pwy sy’n talu’r morgais, yr un pryd. Rhaid i chi a’ch cynbartner gytuno beth sydd yn y gorchymyn.
Manteision
- Mae’n rhoi sylfaen gyfreithiol i’r trefniant – os bydd y taliadau’n dod i ben, gallwch ofyn i’r llys orfodi’r gorchymyn.
- Efallai y bydd eich cyfreithiwr yn cynnig dewis ffi osodedig am lunio’r gorchymyn caniatâd a’i gyflwyno i’r llys os byddwch chi a’ch cynbartner wedi cytuno ar lefel y taliadau cynhaliaeth plant.
Anfanteision
- Gall fod yn ddrud os bydd anghytundeb mawr a byddai’n rhaid i chi dalu biliau cyfreithiol eich hun oni bai eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol am ffioedd cyfreithiol. Dim ond pan fydd trais domestig neu gipio plant wedi digwydd y gallwch wneud hyn yng Nghymru neu Loegr. Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, mae cymorth cyfreithiol ar gael o hyd ond mae prawf modd ar ei gyfer ym mhob achos.
- Ni allwch wneud cais i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am gytundeb statudol nes bydd blwyddyn wedi mynd heibio ers i chi drefnu gorchymyn caniatâd neu lys, neu Gofnod o Gytundeb yn yr Alban.
- Efallai y byddwch yn ei chael yn anodd cael yr un lefel o hyblygrwydd â chytundeb anffurfiol yn seiliedig ar y teulu, gan y byddai’n rhaid i chi fynd yn ôl i’r llys i amrywio’r gorchymyn caniatâd neu Gofnod Cytundeb, gan greu risg y bydd ôl-ddyledion yn cronni yn y cyfamser.
Defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Os na fyddwch chi a’ch cynbartner yn gallu cytuno ar daliadau cynhaliaeth plant rhyngoch, gallwch gysylltu â’r https://childmaintenanceservice.direct.gov.uk/public/ Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS).
Bydd yn cyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu i chi a gall drefnu i’r arian gael ei dalu, os bydd arnoch eisiau iddo. Mae tâl am ddefnyddio’r CMS fel arfer.
Mae dwy ffordd wahanol i chi dalu os byddwch yn defnyddio’r CMS: Talu’n Uniongyrchol a Chasglu a Thalu.
Defnyddio Talu’n Uniongyrchol
Mae Talu’n Uniongyrchol yn golygu bod y CMS yn cyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu ac mae’r rhiant sy’n talu yn trefnu sut a phryd y bydd yn talu.
Manteision
- Nid oes raid i chi gyfrifo faint o gynhaliaeth plant sy’n deg i chi ei dalu neu ei dderbyn.
- Os na fydd eich cynbartner yn talu gallwch ofyn am gael symud at Gasglu a Thalu, sy’n golygu bod y CMS yn gallu gweithredu i wneud iddo/iddi dalu.
- Gall y trefniant barhau nes bydd eich plentyn yn cyrraedd 20 oed, ar yr amod ei fod mewn addysg amser llawn hyd at lefel A, Lefel Uwch neu gyfatebol.
Anfanteision
- Ar ôl i chi dynnu’r CMS i mewn i’r achos gall gynyddu unrhyw ddrwgdeimlad gan eich cynbartner.
- Bydd raid i chi dalu ffi (£20 ar hyn o bryd) am wneud cais i’r CMS. Ond, ni fyddwch yn talu’r ffi hon os byddwch yng Ngogledd Iwerddon, dan 19 oed, neu wedi dioddef trais domestig.
- Os bydd arnoch angen i’r CMS orfodi’r taliadau, fe fydd costau eraill.
Rhaid i chi siarad ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant os dymunwch ddefnyddio’r CMS.
Defnyddio Casglu a Thalu
Os bydd eich cynbartner yn gwrthod talu cynhaliaeth plant gallwch ofyn i’r CMS gasglu arian ganddo neu ganddi a’i drosglwyddo i chi. Gallwch hefyd ddefnyddio hyn os byddwch yn sefydlu trefniant Talu Uniongyrchol na fydd eich cynbartner yn cadw ato. Mae tâl yn ddyledus gan y ddau riant.
Manteision
- Nid oes raid i chi gyfrifo faint o gynhaliaeth plant sy’n deg i chi ei dalu neu ei dderbyn.
- Nid y chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cynbartner yn talu cynhaliaeth plant.
- Os na fydd ef neu hi yn talu, gall y CMS gymryd camau gorfodi, fel cymryd arian yn uniongyrchol o’r cyflog neu orfodi i eiddo neu feddiannau gael eu gwerthu. Bydd raid i’r rhiant sy’n talu hefyd dalu taliadau ychwanegol os bydd, er enghraifft, arian yn cael ei gymryd o’i gyflog.
Anfanteision
- Bydd raid i chi dalu ffi (£20 ar hyn o bryd) am wneud cais i’r CMS. Ond, ni fyddwch yn talu’r ffi hon os byddwch yng Ngogledd Iwerddon, dan 19 oed, neu wedi dioddef trais domestig.
- Bydd raid i’r rhiant sy’n derbyn cynhaliaeth plant dalu 4% o’r swm y mae’n ei dderbyn i’r CMS fel taliad. Mae’n rhaid i’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth plant dalu 20%. Mae hwn yn arian allai fod wedi mynd i gynnal y plant.
- Nid oes gennych unrhyw hawl i ddweud pa fath o gamau gorfodi y mae’r CMS yn eu cymryd na phryd y dylent eu cymryd.
Gwneud cais i’r llys am gynhaliaeth plant
Dan amgylchiadau cyfyng y gallwch chi neu eich cynbartner wneud cais yn uniongyrchol i’r llys am gynhaliaeth plant.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- os yw’r rhiant sy’n talu yn byw dramor
- i gyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu i lysblant neu blant anabl
- i drefnu i dalu ffioedd ysgol breifat
- pan fydd gan y rhiant sy’n talu incwm mawr iawn (mwy na £156,000 y flwyddyn) – gall y llys benderfynu a ddylai un rhiant dalu cynhaliaeth plant ychwanegol i’r llall, yn ychwanegol at yr hyn a benderfynwyd gan y CMS
Eich cam nesaf
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?