Efallai y byddwch yn teimlo dan straen ynglŷn â’r syniad o gael sgwrs anodd am arian. Yn aml mae’r sgyrsiau hyn yn llawn emosiwn ac efallai y byddwch yn anghofio am y pethau pwysig yr oeddech am eu crybwyll.
Ond wyddoch chi beth? Does dim rhaid i chi aros am sefyllfa ddifrifol sydd angen sylw ar frys i gael trafodaeth agored. Trwy gydol eich bywyd, byddwch yn cael llawer i sgwrs anodd gyda gwahanol bobl – a bydd rhai yn anodd. Felly bydd meddwl beth ydych chi eisiau ei ddweud yn effeithiol nawr yn gwneud eich bywyd yn llawer haws.
Awgrymiadau ar sut i baratoi ar gyfer y sgwrs
Efallai y bydd paratoi eich hun gydag ambell bwnc trafod yn eich helpu. A dweud hynny, dim arholiad ysgol yw hyn, felly does dim angen mynd dros ben llestri i baratoi – ond gall meddwl am y pethau hyn ymlaen llaw helpu cryn dipyn:
-
Pa bryd i siarad - mae’n amhosib dewis yr adeg ddelfrydol. Soniwch eich bod yn dymuno trafod rhywbeth yn nes ymlaen, sy’n rhoi amser iddynt neilltuo amser yn eu diwrnod.
-
Ble i siarad - gorau oll i chi ddod o hyd I rywle lle na fydd neb yn tarfu arnoch. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i aros adref ble efallai y bydd gennych chi waith papur defnyddiol, ond a dweud hynny, bydd mynd am dro, i ffwrdd o’r cartref, yn haws i eraill. Dewiswch yr hyn sy’n gweithio orau i chi.
-
Pwy ddylai fod yno - mae hyn yn dibynnu’n helaeth ar y sefyllfa, ond dylid cynnwys pawb sy’n berthnasol i’r sgwrs.
-
Ymarferwch y sgwrs - dim perfformiad theatrig yw hyn, felly does dim angen i chi wybod eich llinellau i’r dim, ond meddyliwch am y pethau yr hoffech ddweud a rhoi cynnig ar eu hynganu. Ewch gam ymhellach a meddwl beth allai’r person arall ei ddweud, ac yna meddyliwch am eich ateb i hynny. Ceisiwch feddwl am wahanol fathau o sefyllfaoedd, nid dim ond yr hyn y dymunwch iddynt ei ddweud! Os oes gennych chi aelod o’r teulu neu ffrind nad yw’n rhan o’r sefyllfa, gallech roi cynnig ar actio ychydig o’r sgwrs.
Wedi i chi lwyddo i roi trefn ar y paratoadau, mi fyddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i wybod sut I gychwyn y sgwrs.
Awgrymiadau ar sut i ddechrau sgwrs
Weithiau gall fod o fudd i ddechrau’r sgwrs mewn dull llai uniongyrchol yn hytrach na gofyn iddynt eistedd i lawr a chodi’r pwnc yn syth.
Dyma rai awgrymiadau ar gychwyn y sgwrs:
- Os yw ffrind i chi yn profi problemau tebyg, beth am drafod yr hyn sy’n digwydd iddo ef neu hi wrth ddechrau’r sgwrs.
- Efallai bod eich sefyllfa chi neu rywbeth tebyg wedi codi mewn rhaglen deledu yr ydych yn ei gwylio, mewn llyfr neu ar y newyddion. Soniwch pa mor debyg yw hyn i’r hyn yr ydych chi’n ei brofi.
- Defnyddiwch beth bynnag sydd o’ch cwmpas i ysgogi’r sgwrs – biliau, dodrefnyn newydd yr ydych yn dal i dalu amdano, neu rywbeth rydych yn ei wylio ar y teledu.
Fodd bynnag, mae yna adegau pan fyddwch chi angen trafod y pwnc yn fwy uniongyrchol, yn arbennig os yw’n fater brys ac na allwch chi aros am y cyfle perffaith i gychwyn y sgwrs.
Weithiau, os gwyddoch beth fydd eich brawddeg gyntaf, yna gall hynny roi mwy o hyder i chi. Dyma rai brawddegau posib:
- ‘Mae gen i rywbeth yr hoffwn ei drafod a fydd, dw i’n meddwl, yn ein helpu i gyrraedd ein nod yn well.’
- ‘Hoffwn siarad am [rhywbeth], ond hoffwn gael dy farn di yn gyntaf.’
- ‘Dwi angen dy help efo beth sydd newydd ddigwydd. Oes gen ti ychydig o funudau i’w sbario i siarad?’
- ‘Dwi ddim yn meddwl ein bod ni’n cytuno’n union ar [rhywbeth]. Hoffwn gael dy farn ar hyn.’
Cofiwch fod dwy ochr i bob sgwrs, felly gwnewch yn siŵr fod yr unigolyn arall yn cael chwarae teg ac nid yn gwrando’n unig.
Awgrymiadau da ar gyfer pan fyddwch chi’n cael y sgwrs
Byddwch yn ofalus gyda’ch emosiynau, yn ogystal ag emosiynau’r sawl sydd ar ochr arall y sgwrs
Does dim byd o’i le â bod yn emosiynol ond gallai gwylltio neu fynd yn rhy ofidus amharu ar y canlyniad a fwriadwyd gennych. Dywedwch wrthych eich hun y gallwch fynegi’r sgwrs hon rhyw dro arall, ond mae’r sgwrs hon yn gofyn bod eich meddwl yn glir a rhesymegol. Os ydych chi’n teimlo’n arbennig o emosiynol, efallai yr hoffech roi amser a lle i chi’ch hun i drafod yr emosiynau hyn yn uniongyrchol. Wrth wneud hynny gallwch barhau i fedru canolbwyntio ar y sgwrs bwysig hon, gan wybod y rhoddir sylw i’ch teimladau yn ddiweddarach.
Ceisiwch beidio â thorri ar draws eich partner
Os byddwch yn siarad ar draws eich gilydd, gall y cyfan droi’n ffrae. Gallai hyn fod yn anodd i chi gan fod gennych gymaint i’w ddweud, ond y ffordd orau i ddatrys hyn yw fel tîm. Os gwelwch fod un ohonoch yn torri ar draws y llall, efallai yr hoffech godi hyn yn bwyllog fel problem ac awgrymu amser neilltuol i’r ddau ohonoch gael siarad heb unrhyw dorri ar draws gan y naill a’r llall. Peidiwch â beio’r un ohonoch am dorri ar draws; nodwch fod hwn yn bwnc emosiynol ac felly byddai’n syniad da gosod rhai rheolau trafod i sicrhau bod y ddwy ochr yn cael siarad.
Y cwbl fydd bod yn feirniadol yn ei wneud fydd achosi i’r unigolyn arall i wrthod cydweithredu
Ceisiwch osgoi cychwyn brawddegau gyda chyhuddiadau, fel ‘ti’ gan osgoi hefyd cyfeirio at eich hunan yn ddi-baid gyda ‘Dwi’n meddwl’ neu ‘Dwi’n credu’. Mae eich ystumiau a’r geiriau a ddefnyddiwch (nid geiriau sarhaus!) yn gwneud gwahaniaeth hefyd.
Cadwch at y pwnc dan sylw
Ni fydd codi problemau a chwynion eraill yn helpu i ddatrys y sefyllfa. Os teimlwch y gallai hyn fod yn broblem, gwnewch restr o bethau y cewch ac ni chewch eu trafod yn ystod y sgwrs. Er enghraifft, nid yn ystod y sgwrs hon y dylid dweud wrth eich partner y dylai dreulio mwy o amser efo chi yn hytrach nag eistedd o flaen y cyfrifiadur. Nod y sgwrs hon yw trafod eich sefyllfa ariannol. Drwy lynu at y pwnc hwn a’r pwnc hwn yn unig, bydd y sgwrs yn llawer iawn haws i chi.
Ceisiwch edrych ar eich gilydd fel nad oes un yn edrych i lawr ar y llall
Mewn geiriau eraill, y ddau yn eistedd neu’r ddau yn sefyll. Ni ddylai un unigolyn fod wedi ei osod yn uwch na’r llall yn gorfforol.
Meddyliwch am bwy arall allai helpu hefyd
Efallai y bydd elusennau neu sefydliadau yn ddefnyddiol, felly cadwch y rhifau neu wefannau wrth law i’w pasio ymlaen.
Sut i ddelio ag ymatebion negyddol
Ni fydd popeth yn rhedeg yn esmwyth, felly os gwelwch eich bod yn cael ymateb negyddol, rhowch gynnig ar yr ymatebion canlynol:
Os… |
Rhowch gynnig ar… |
Nid yw’r unigolyn yn cytuno â’r ffeithiau a awgrymir gennych |
Gofynnwch pam felly a gwrando gyda meddwl agored. Os credwch fod ganddo ef neu hi safbwynt dilys, dywedwch hynny. Os byddwch yn anghytuno ag ef neu hi, awgrymwch sut allwch chi symud ymlaen. |
Mae’r unigolyn yn eich beio chi |
Gwrandewch gyda meddwl agored, heb fynd yn amddiffynnol a thaflu’r bai yn ôl canfyddwch beth sy’n achosi iddo ef neu hi fod mor rhwystredig. A oes sail i’w sylwadau? Os felly, sut fyddwch chi’n delio â’r sylwadau hynny? Ai taflu’r bai yn unig mae’r sylwadau hyn? Os felly, gofynnwch iddo ef neu hi beth all y DDAU ohonoch ei wneud i ddatrys y problemau |
Mae’r unigolyn yn ddiamynedd neu’n ceisio newid y pwnc |
Pwysleisiwch beth yw nod y sgwrs a gadewch iddo ef neu hi wybod pa ddewisiadau sydd ar gael. Gwrandewch a nodwch ei sylwadau er mwyn ymdrin â nhw yn ddiweddarach. Eglurwch eich bod yn deall bod hon yn sgwrs anodd, gan amlygu hefyd mai nawr yw’r adeg gorau i’w chynnal yn hytrach na rhyw dro eto. |
Mae’r unigolyn yn siarad yn ddi-baid |
Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser ar gyfer y sgwrs, ond eto cadwch ef neu hi ar y trywydd pwnc cywir drwy gyfeirio at yr hyn a ddywedodd a gofyn cwestiynau perthnasol. |
Mae’r unigolyn yn cytuno’n oddefol i bopeth a ddywedwch ac a benderfynwch |
Caniatewch ddigon o amser i ddatblygu amgylchedd ymlaciol. Ymgeisiwch yn galed I gael barn ef neu hi a phan ddaw’r farn honno, ailadroddwch hynny yn ôl. Peidiwch â bod ofn tawelwch a rhowch ddigon o amser iddo ef neu hi i feddwl. |
A oes unrhyw senarios eraill posibl yr ydych yn meddwl allai ddigwydd? Os felly, nodwch nhw ynghyd â’r ateb.
Sut i ddod â’r sgwrs i ben yn gadarnhaol
Ar ôl sgwrs anodd, fel arfer y teimlad arferol yw, ‘Ffiw! Dw i’n falch fod hynny drosodd. Dw i’n gobeithio na fydd raid i fi gael y sgwrs yna eto!’ ond mewn gwirionedd mae’n bwysig cynnal rhyw fath o ddilyniant ar ôl sgwrs anodd.
Felly dyma rai awgrymiadau ar sut allwch chi wneud hynny:
-
Cydnabyddwch fod y sgwrs wedi digwydd. Cydnabyddwch ei bod yn sgwrs anodd ac amlygwch y pethau cadarnhaol a ddaeth ohoni. Mae gwerth aruthrol mewn gwerthfawrogi bod y ddau ohonoch wedi dod ynghyd, trafod pwnc anodd a hyd yn oed cynnal sgwrs yn y lle cyntaf.
-
Canfyddwch ffyrdd i yrru’r sgwrs yn ei blaen. Byddwch yn rhagweithiol wrth ddangos eich bod wedi nodi’r datrysiadau. Mae cyfathrebu clir o ran y camau nesaf yn helpu symud y sgwrs ymlaen.
-
Gall fod o fudd ysgrifennu hynny i lawr. Efallai mewn e-bost neu ar bapur fel bod y ddau ohonoch yn gallu cyfeirio ato wedyn. Mae’n beth cyffredin i ddau unigolyn ddehongli gwybodaeth mewn ffyrdd hollol wahanol a gall hynny arwain at y naill a’r llall yn dod I gasgliad cwbl wahanol am y canlyniad. Gall ysgrifennu pethau i lawr fod o gymorth i chi egluro’r pwyntiau a drafodwyd.
Sut i siarad am arian
Os ydych chi angen siarad gyda rhywun am arian ond ddim yn siŵr sut fydd pethau’n mynd, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gychwyn arni, yn cynnwys awgrymau ar sut i gael canlyniad da, rhannu nodau ariannol a beth i’w wneud os ydych chi’n amau y bydd y sgwrs yn un anodd neu os na fydd yn mynd fel y bwriadwyd.