Gall y teimlad o fod allan o reolaeth gyda’ch arian fod yn un dychrynllyd, yn enwedig os nad ydych yn sicr fod gennych ddigon i fyw arno. Mae’n bosib fod cael un taliad Credyd Cynhwysol misol yn eich gwneud yn fwy pryderus fyth ynglŷn â chadw dau ben llinyn ynghyd. Yr unig ffordd i reoli’ch arian yw llunio cyllideb cartref.
Pam cyllidebu – pam nawr?
?
Byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban?
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Dysgwch fwy ar wefan nidirect.
Yn yr Alban, efallai y byddwch yn cael cynnig rhai dewisiadau o ran sut y telir eich Credyd Cynhwysol. Darllenwch ein canllaw ar Gredyd Cynhwysol yn yr Alban.
Mae llunio cyllideb o holl incwm a chostau eich cartref yn allweddol os ydych eisiau sicrhau y gallwch dalu’ch holl filiau ac ymdopi hyd at ddiwedd y mis.
Hyd yn oed os ydych chi eisoes yn creu cyllideb, bydd newidiadau i’r system fudd-daliadau yn debygol o olygu fod angen i chi wneud rhai newidiadau i sut ydych yn mynd ati i wneud hyn.
I’ch atgoffa, mae’r budd-daliadau canlynol yn cael eu dirwyn i ben yn raddol i bobl o oed gwaith a bydd y Credyd Cynhwysol yn cymryd eu lle:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Budd-dal Tai.
Yn Lloegr a Chymru, bydd y Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu mewn un taliad misol i bob cartref.
Felly os ydych yn cyfrifo eich cyllideb yn wythnosol neu bob pythefnos ar hyn o bryd, bydd angen i chi ddechrau edrych ar eich incwm a gwariant i gyd dros fis cyfan.
Ac os ydych chi’n defnyddio taliadau gwahanol fudd-daliadau i dalu am gostau penodol, bydd angen i chi ddod i arfer â chael un taliad i dalu am bopeth.
Cewch amcangyfrif o faint o Gredyd Cynhwysol y bydd gennych hawl i’w gael – yn cynnwys faint yn well eich byd fyddwch chi mewn gwaith – gyda’r gyfrifiannell hon ar
wefan Policy in Practiceopens in new window.
Llunio’ch cyllideb – ble i ddechrau
Er y gallai hyn fod yn syniad brawychus, yr oll yw cyllideb yw dwy restr:
- Arian sydd gennych yn dod i mewn (o bethau fel taliadau budd-daliadau a’ch cyflog os ydych yn gweithio).
- Taliadau a wneir gennych (megis eich rhent neu forgais, biliau gwresogi ac yswiriant, yn ogystal â chostau byw a gwariant rheolaidd ac afreolaidd).
Sut i gyfrifo’ch incwm
-
Budd-daliadau: Edrychwch ar y gwaith papur yn ymwneud ag unrhyw fudd-daliadau a chredydau treth a gewch ar hyn o bryd. Nodwch faint ydych yn ei gael. Sicrhewch eich bod yn gwneud nodyn a yw’r taliadau hyn yn wythnosol, bob pythefnos, pob pedair wythnos neu’n fisol.
-
Cyflog: Os ydych chi’n gweithio, gwiriwch eich slipiau cyflog a nodi’ch cyflog (ar ôl treth a didyniadau eraill).
-
Incwm arall: Os oes gennych unrhyw incwm arall yn dod i mewn, er enghraifft, o bensiwn neu gynhaliaeth plant gan eich cyn bartner, nodwch y symiau a pha mor aml fyddwch chi’n eu cael.
Peidiwch â phoeni os bydd yr arian a ddaw i mewn yn newid o bryd i’w gilydd. Bydd y gyllideb y byddwn yn helpu i’w llunio yn hawdd i’w haddasu heb i chi orfod dechrau o’r dechrau bob tro.
Sut i gyfrifo’ch costau
-
Biliau’r cartref: Casglwch yr holl filiau y byddwch yn eu talu ynghyd fel eich bod yn gallu gweld yr union symiau. Os yw’ch rhent yn cael ei dalu i chi ar hyn o bryd, byddwch yn barod i ddechrau cynnwys hyn yn eich cyllideb yn fuan.
-
Costau byw: Gorau oll os gallwch fod yn fanwl gywir yma. Ar gyfer pethau fel siopa bwyd, mae’n debygol o fod yn ddigon i edrych ar faint fyddwch yn ei wario dros nifer o wythnosau a chyfrifo’r cyfartaledd. Ond ar gyfer pethau fel gwisg ysgol a chostau untro eraill, bydd angen i chi edrych ar faint ydych chi’n ei wario dros flwyddyn a rhannu gyda 12 i gael swm misol cyfartalog.
-
Taliadau yswiriant a benthyciadau: Chwiliwch am unrhyw beth fyddwch yn ei dalu’n rheolaidd fel yswiriant cartref, taliadau catalog a thaliadau cardiau credyd a gwneud nodyn ohonynt.
-
Plant ac anifeiliaid anwes: Mae hyn yn cynnwys pethau fel gofal plant, clybiau ar ôl ysgol, a theithiau ysgol. Bydd rhai o’r costau hyn yn rheolaidd ac eraill yn achlysurol, felly bydd angen cyfrifo’r cyfartaledd. Os oes gennych anifeiliaid anwes, cyfrifwch bopeth y byddwch yn ei wario ar eu bwyd, biliau milfeddyg ac ati.
-
Teithio: Os oes gennych gar, sicrhewch eich bod yn cynnwys y costau i gyd (gan gynnwys rhai fel treth car – a elwir yn dreth ffordd hefyd – y byddwch yn eu talu’n flynyddol neu bob chwe mis yn unig). Os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, bydd angen i chi naill ai gynnwys cost eich tocyn tymor neu gyfrifo faint ydych chi’n ei wario ar gyfartaledd pob wythnos neu fis.
-
Hamdden: Os ydych chi’n byw ar incwm isel, mae’n fwy na thebyg mai dyma’r rhan o’ch cyllideb sy’n teimlo’r wasgfa fwyaf, ond cofiwch gynnwys digwyddiadau untro fel Nadolig a phenblwyddi fel bod cyllideb ar gyfer y rhain hefyd.
Defnyddiwch ein cynllunydd cyllideb
?
Wyddech chi?
Mae pedwar o bob pump o bobl sy’n gosod cyllideb yn glynu ati fel arfer. Drwy gadw at gyllideb cewch dawelwch meddwl ac mae’n eich helpu i gadw’ch arian dan reolaeth.
Ffynhonnell: Ymchwil y Gwasanaeth Cynghori Ariannol 2014
Nawr eich bod wedi casglu’r holl waith papur a ffigurau sydd eu hangen arnoch, y peth hawsaf i’w wneud yw rhoi’r cyfan i mewn i’n cynllunydd cyllideb ar-lein. Bydd yn cymryd o leiaf hanner awr i’w lenwi, ond bydd yn werth gwneud oherwydd:
- gallwch gynnwys ffigyrau ar gyfer taliadau wythnosol neu flynyddol, er enghraifft, ac mae’n cyfrifo’r taliadau misol drosoch
- hyd yn oed os na fyddwch yn llwyddo i wneud y cyfan mewn un ymgais, gallwch ei gadw a dychwelyd ato’n hwyrach
- os bydd pethau’n newid, er enghraifft, os cewch chi waith shifft ychwanegol neu os bydd eich bil nwy yn codi, gallwch fynd yn ôl a gwneud newidiadau heb orfod ailadrodd y cyfan eto
- cyn gynted ag y byddwch yn cael gwybod faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn mynd i’w gael, gallwch roi’ch taliad misol i mewn a gweld sut mae hynny’n effeithio ar eich cyllideb
- mae’r holl ffigurau a roddwch yn gyfrinachol – ni fyddwn yn gallu eu gweld na’u rhannu gyda neb – a does dim modd i ni wybod pwy ydych chi, hyd yn oed os ydych chi’n cofrestru gyda ni.
Beth os nad yw’ch cyllideb yn mantoli?
Os ydych yn gwario mwy bob mis nag sy’n dod i mewn, y cam nesaf yw edrych yn fanylach ar ble mae eich arian yn mynd a ble y gallwch gwtogi.
Efallai y gallech gael cynnig gwell ar eich pecyn ffôn neu deledu. Neu efallai y byddwch yn gweld eich bod yn talu mwy nag sydd angen i chi wneud am eich nwy a thrydan. Un o fanteision symud i gyllideb fisol yw y gallwch gofrestru i gael prisiau is yn aml os byddwch yn talu gyda Debyd Uniongyrchol misol.
Awgrymiadau i gadw ar y trywydd iawn
Wrth gwrs, dim ond y dechrau yw llunio cyllideb i’ch cartref. Nawr mae’n rhaid i chi gadw ato, sy’n haws dweud na gwneud pan fydd prisiau yn mynd i fyny o hyd a chost untro fel pâr newydd o sgidiau ysgol yn bygwth y cyfan.
Y peth pwysig yw eich bod wedi cymryd y cam cyntaf tuag at gael rheolaeth ar eich arian. Nawr rydych yn gwybod yn union ble rydych yn sefyll. A hyd yn oed os bydd pethau’n dod ar eich traws nad ydych wedi cynllunio amdanynt, gallwch fynd yn ôl at eich cyllideb, ei haddasu, a chanfod ffordd o ddelio â’r mater.
Darllenwch drawsgri fiad y fideo
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?