Sut i ymdrin â bwlch yn eich cynilion pensiwn
Mae llawer o bobl yn gweld bod ganddynt ddiffyg pan maent yn gwirio eu cynilion pensiwn. Os yw hyn yn wir amdanoch chi, defnyddiwch ein canllaw cyflym isod i amcangyfrif faint yn fwy y mae angen i chi ei gynilo. Os nad ydych yn gwybod a oes gennych ddiffyg, defnyddiwch y dolenni a ddarperir i wirio.
Sut i wirio a oes gennych ddiffyg incwm pensiwn
Os nad ydych yn gwybod a oes gennych ddiffyg pensiwn i’w lenwi, dilynwch y dolenni hyn:
Os oes gennych ddiffyg, faint sydd ei angen i lenwi’r bwlch?
Mae cost llenwi diffyg yn eich incwm pensiwn a ragwelir yn dibynnu’n bennaf ar eich oed. Y pellaf yr ydych o oed ymddeol, y mwyaf o amser sydd gennych i roi hwb i gynilion eich pensiwn, a’r mwyaf o amser sydd gan eich cynilion i dyfu.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell bensiwn i amcangyfrif faint o gynilion misol y bydd angen i chi eu cyfrannu er mwyn cynhyrchu incwm cyfforddus ar ôl ymddeol.
Eich prif ddewisiadau
Ar ôl i chi gyfrifo faint yn fwy y mae angen i chi ei gyfrannu at eich cynilion pensiwn bob mis, bydd gennych nifer o ddewisiadau. Byddem yn awgrymu ystyried y canlynol, yn y drefn hon.
- Rhaid i bob cyflogwr nawr gynnig pensiwn gweithle i gyflogeion cymwys a gwneud cyfraniadau iddo. Os ydych chi’n gyflogedig, ymuno â chynllun pensiwn eich gweithle yw’r ffordd orau i helpu llenwi eich bwlch incwm ar ymddeol.
- Os ydych eisoes yn aelod o gynllun gweithle, efallai mai cynyddu eich cyfraniadau ato fydd y dewis mwyaf cyfleus i chi. Mae nifer o gyflogwyr yn gwneud cyfraniadau cyfatebol i’r hyn mae eu cyflogeion yn ei dalu, felly os ydych chi’n talu mwy, byddant hefyd yn talu mwy.
- Os ydych chi’n hunangyflogedig neu ddim yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn gweithle, gallwch sefydlu eich cynllun pensiwn personol eich hun. Mae’r opsiynau yma yn cynnwys cynlluniau rhanddeiliaid (sydd â ffioedd wedi’u capio) a SIPPs (sy’n gallu cynnig mwy o ddewis o fuddsoddiad, ond yn aml gyda ffioedd uwch).
Ble i gael mwy o wybodaeth a chyngor
Os byddwch chi angen rhagor o gymorth, yn arbennig os ydych chi’n buddsoddi arian, gallwch siarad gyda chynghorydd ariannol wedi’i reoleiddio a fydd yn trafod eich opsiynau ac yn eich helpu i ddewis yr un gorau i chi.
Bydd yn rhaid i chi dalu am gyngor ariannol, ond rhaid i gynghorwyr fynd trwy eu ffioedd a thaliadau gyda chi cyn i chi ymroi. Gallwch ddod o hyd i gynghorydd ariannol wedi’i reoleiddio trwy ein Cyfeirlyfr Cynghorwyr Ymddeoliad.
Siaradwch gydag o leiaf dri chwmni a holi am eu taliadau ar gyfer y math yma o gyngor.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?