Efallai bod gennych ddyledion gyda’ch cynbartner, neu efallai bod gennych ddyledion yn eich enw eich hun. Mae’n bosibl y bydd arian yn brin tra byddwch yn cael trefn ar eich arian ar ôl gwahanu, ond peidiwch ag anwybyddu problemau dyled. Cyntaf yn y byd y byddwch yn ymdrin â nhw, hawsaf yn y byd fydd hi.
Penderfynu pa ddyledion i’w talu gyntaf
Os nad oes gennych ddigon o arian i ddal i dalu’r taliadau ar eich benthyciadau, cardiau credyd, biliau neu gostau tai fel morgais neu rent, mae’n bwysig blaenoriaethu pa rai y gallwch eu talu. Mae’r dyledion y dylech eu talu yn gyntaf yn cynnwys eich rhent neu forgais, trethi neu ôl-ddyledion y Dreth Gyngor a biliau nwy a thrydan.
Y rheswm pam y dylech dalu’r dyledion â blaenoriaeth yma yn gyntaf, yw, os na fyddwch yn gwneud hynny, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol. Gallwch gael eich dwyn ger bron y llys neu golli eich cartref.
Cael trefn ar fenthyciadau a dyledion cardiau credyd
Ar ôl i chi drefnu i dalu eich dyledion â blaenoriaeth, dylech gyfrifo faint allwch chi ei dalu tuag at ddyledion eraill, fel arian sy’n ddyledus ar eich cardiau credyd neu siop, ar fenthyciadau banc neu hur bwrcas a dyledion catalog.
Cysylltwch â’r darparwr benthyciadau a dweud faint y gallwch chi ei dalu. Os yw’n well gennych, gallwch gael cyngor am ddim gan elusen cyngor ar ddyledion. Efallai y byddant yn gallu gofyn i’r cwmnïau rewi’r llogau tra byddwch yn penderfynu ar gynllun ad-dalu, ond nid oes unrhyw sicrwydd y bydd hyn yn digwydd.
Defnyddiwch ein
offeryn lleolwr i ganfod sut i gael cyngor am ddim ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Dyledion ar y cyd – beth ddylech chi ei wneud?
Wrth ystyried unrhyw ddyledion ar y cyd, fel benthyciad banc, gorddrafft neu forgais ar y cyd, rydych eich dau fel arfer yn atebol am ad-dalu’r swm cyfan.
Mae hynny’n golygu, os nad yw eich cynbartner yn talu ei gyfran, y gallai’r banc neu gymdeithas adeiladu ofyn i chi dalu’r cyfan. Cysylltwch â nhw i ddweud eich bod wedi gwahanu a gweld os gallwch chi:
- osod rhai cyfyngiadau ar y cyfrif fel na all eich cynbartner fynd i fwy o ddyled, neu
- ddod i gytundeb fel eu bod yn derbyn taliadau is os na allwch ad-dalu yn llawn.
Canfyddwch fwy am Amddiffyn rhag cam-drin ariannol yn ein canllaw.
Wneud trefniant gyda’ch cynbartner
Os oes gennych fenthyciad neu forgais ar y cyd gyda’ch cynbartner ac na fydd y banc yn gadael i chi wahanu’r benthyciad, dylech geisio cytuno gyda’ch cyn bartner sut y byddwch yn ei ad-dalu.
Oherwydd eich bod eich dau yn atebol am dalu unrhyw fenthyciadau ar y cyd, gall effeithio ar eich sgôr credyd a’ch gallu i fenthyca yn y dyfodol os na fydd un neu’r ddau ohonoch yn cadw at y patrwm talu. Efallai yr hoffech chi:
- gytuno gyda’ch cynbartner y byddwch yn parhau i dalu o gyfrif ar y cyd
- sefydlu trefniant fel bod un ohonoch yn cytuno i dalu’r banc neu gwmni benthyciadau ond yn derbyn cyfraniad gan y llall. Os byddwch yn mynd am y dewis hwn, ceisiwch gytuno i sefydlu archeb sefydlog ar gyfer y taliadau i’ch cynbartner neu gan eich cynbartner. Fe fyddwch yn gwybod wedyn y byddant yn cael eu talu yn gyson
- talwch eich benthyciad ar y cyd a chymryd un newydd yn enw un ohonoch. Dim ond os bydd gan y partner sy’n cymryd y benthyciad sgôr credyd da y bydd hyn yn debygol o weithio a’i fod ef/ei bod hi yn gallu fforddio talu.
Mae rhagor o wybodaeth am sgoriau credyd yn Sut mae eich sgôr credyd yn effeithio ar gost cael benthyg arian
Beth i’w wneud os na fydd eich cynbartner yn cydweithredu
Weithiau, mae cyplau sy’n gwahanu yn gwneud trefniadau ar gyfer eu materion ariannol gyda’r bwriadau gorau, ond fyddan nhw ddim yn para.
Gall hyn ddigwydd os bydd sefyllfa ariannol eich cynbartner yn newid, er enghraifft os bydd un ohonoch yn colli eich swydd, neu oherwydd bod y gwahaniad yn mynd yn fwy chwyrn.
Os yw hynny’n wir, ceisiwch roi digon o wybodaeth i’r banc neu’r darparwr benthyciadau. Os nad ydych yn meddwl bod y banc neu ddarparwr benthyciad yn ymdrin yn deg â chi, gallwch anfon cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannolopens in new window.
Eich cam nesaf
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?