Mae prynu car ymhlith y pethau mwyaf costus a brynwch yn eich bywyd. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi prynu’ch car, rhaid i chi dalu i’w gadw ar y ffordd. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried beth fydd cost hyn yn yr hirdymor. I roi cymorth i chi gadw trefn ar eich cyllideb, gallwch ddefnyddio ein hoffer syml ar-lein i gyfrifo faint allwch chi fforddio ei wario ar brynu’r car a’r costau rhedeg.
Cyfrifwch eich cyllideb ar gyfer prynu car
Bydd eich cyllideb yn penderfynu a allwch brynu car newydd neu ail-law a faint y gallwch ei fforddio o ran costau rhedeg.
Mae’n allweddol eich bod yn realistig am eich cyllideb. Gall gor-ymestyn eich hun arwain at broblemau yn y pen draw – yn arbennig os mai prin iawn yw’ch cynilion neu ddim cynilion o gwbl.
Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb syml i gyfrifo faint y gallwch fforddio ei wario wrth brynu car. Mae’n cymryd ychydig o funudau’n unig.
Defnyddiwch ein hofferyn Canfod arian parod yn gyflym i ganfod faint y gallech ddechrau ei gynilo tuag at eich car newydd. Mae’n cymryd pum munud yn unig.
Cyfrifwch y costau rhedeg
Unwaith eich bod wedi cyfrifo faint y gallwch fforddio ei wario wrth brynu car, gwnewch yn siŵr y gallwch fforddio ei redeg hefyd.
Mae’n werth cofio bod modurwyr y Deyrnas Unedig yn gwario £1,726.40 y flwyddyn ar gyfartaledd ar gostau rhedeg. (Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2018). Fodd bynnag, nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys cost dibrisiant, sef swm y gwerth ailwerthu mae car yn ei golli bob blwyddyn.
Fel cymhariaeth sylfaenol, dyma enghraifft o gostau rhedeg ar gyfer car newydd sy’n werth £14,000 a char ail-law cymharol sydd bum mlynedd yn hŷn yn y flwyddyn gyntaf wedi ei brynu.
Cost |
Car newydd |
Car ail-law |
Tanwydd |
£850 |
£900 |
Yswiriant |
£500 |
£500 |
Gwasanaeth a chynnal a chadw |
£300 |
£600 |
Treth cerbyd |
£10 |
£20 |
Amcangyfrif o ddibrisiant blynyddol |
£7,600 |
£2,450 |
Cost rhedeg |
£1,660 |
£2,020 |
Cyfanswm Cost, yn cynnwys dibrisiant |
£9,260 |
£4,470 |
Dim ond i roi syniad i chi o’r gwahaniaeth mewn costau rhedeg rhwng car newydd ac un sydd tua phum mlynedd yn hŷn mae’r ffigurau hyn.
Felly, er bod y car ail-law yn costio mwy i’w redeg, bydd y car newydd yn colli mwy o’i werth yn ystod y flwyddyn, gan effeithio ar faint o arian fyddwch chi’n gallu ei gael pan fyddwch am ei werthu.
Cofiwch hefyd fod ceir gydag injan fwy yn dueddol o gostio mwy i’w rhedeg, a hefyd yn colli mwy o’u gwerth oherwydd dibrisiant.
Mae dibrisiant yn effeithio’n fwy ar geir newydd na cheir hŷn, felly po hynaf yw’r car, y lleiaf fydd y cwymp yn ei werth. Mae hyn yn golygu os ydych chi’n gwybod y byddwch yn debygol o werthu’r car yn fuan, bydd car hŷn yn cael mwy o’r arian yn ôl i chi pan fyddwch chi’n ei werthu.
Os gwyddoch am y gwahanol fathau o gostau rhedeg y dylech ganiatáu amdanynt ac rydych ond angen cymorth i’w cyfrifo, ceisiwch ddefnyddio’r gyfrifiannell ar y wefan This is Money.
Ymchwiliwch i’ch helpu i ddod o hyd i’r car cywir
?
Awgrym da
Peidiwch â gadael i’ch calon reoli’ch pen. Os na allwch fforddio car newydd eich breuddwydion, ystyriwch gar sydd bron yn newydd neu gar ail-law. Darllenwch ragor am geir bron yn newydd ar wefan Money Saving Expert.
Oni bai eich bod eisoes yn ystyried car penodol, dylech ddechrau trwy chwilio:
- mewn cylchgronau ceir
- ar geir ar y ffordd
- ar wefannau moduro
- ·yn eich gwerthwyr ceir lleol.
Hefyd gallech ofyn i ffrindiau, teulu a chydweithwyr am argymhellion.
Y 10 cwestiwn pwysicaf i ofyn i chi’ch hun
Nawr eich bod wedi sicrhau y gallwch fforddio car, mae’n amser i ganfod beth y gallwch ei brynu o fewn eich cyllideb.
Ond yn gyntaf, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun fel nad ydych yn diystyru unrhyw un o’ch anghenion ymarferol hanfodol wrth ddewis eich car:
- A oes angen imi gadw costau rhedeg fel treth, yswiriant, a thanwydd at isafswm?
- A ydw i eisiau car a fydd yn cadw ei werth yn dda?
- Faint o ofod sydd arnaf ei angen ar gyfer teithwyr, gan gynnwys ci efallai?
- A hoffwn i brynu un o’r ceir mwyaf dibynadwy?
- Fel arfer a fyddaf yn gyrru pellteroedd byr neu deithiau hwy?
- A ydw i eisiau i fy nghar fod yn ecogyfeillgar ac rhad i’w redeg?
- A ydw i eisiau un o’r ceir diogelaf ar y ffyrdd?
- A oes angen imi fod yn siŵr y bydd y car yn mynd i mewn i’m garej?
- Pa hyd ar y warant ydw i’n chwilio amdano?
- A oes angen i’m car allu tynnu carafán?
Cymharu ceir
I’ch helpu i benderfynu pa gar fyddai orau i chi, mae’r gwefannau dilynol yn cyhoeddi adolygiadau rheolaidd o:
Eich cam nesaf
Dysgwch am y ffyrdd gwahanol y gallwch dalu am gar
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?