Sut mae rhoi prawf gyrru a gwirio car newydd
Mae dewis car newydd yn gyffrous, ond mae’n bwysig peidio â gwirioni. Cyn gwneud penderfyniad, rhowch brawf gyrru trwyadl i’r car i sicrhau ei fod yn teimlo’n iawn i chi a’ch anghenion gyrru. Darllenwch ein hawgrymiadau prawf gyrru isod, a rhestr wirio o’r hyn y dylech ei wneud yr eiliad y bydd eich car newydd yn cyrraedd.
Awgrymiadau wrth brofi car newydd
?
Awgrym da
Cymerwch eich amser – efallai y bydd y gwerthwr yn gadael i chi gadw’r car dros nos neu dros y penwythnos.
Byddwch yn canolbwyntio yn well yn ystod y prawf gyrru os na fydd pwysau arnoch oherwydd bod y gwerthwr wrth eich ochr.
Os byddwch yn bwriadu prynu car newydd neu gar ail-law, mae’n hanfodol rhoi prawf gyrru trwyadl iddo. Dyma eich cyfle i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn y car ac yn mwynhau ei yrru – cyn gwneud penderfyniad y gallech fod yn edifar amdano.
Dyma sut i wneud y gorau o’ch prawf gyrru:
- Rhowch awr o leiaf i’ch prawf gyrru – yn y dref, ar y ffordd agored ac ar draffordd os yn bosibl.
- Os byddwch ar draffordd neu ffordd ddeuol, ceisiwch oddiweddyd – gan wirio am allu i gyflymu yn dda ac unrhyw fannau na allwch eu gweld.
- Peidiwch ag anghofio rhiwiau – gall y modd y bydd car yn mynd i fyny rhiw ddatgelu llawer iawn.
- Rhowch gynnig ar ffordd heriol i weld pa mor dda y mae’r car yn cadw at y ffordd wrth gornelu.
- Cofiwch geisio brecio yn galed i brofi sefydlogrwydd y car mewn argyfwng.
- Ewch â theithiwr i ganfod sut mae’r car yn teimlo iddo ef neu hi.
- Os yw’r car gennych am amser hir, ceisiwch ei yrru â’r cefn yn llawn hefyd.
- Os oes sat nav yn rhan o’r car, gofynnwch i’r gwerthwr roi gwers fer i chi. A yw’n syml?
- Byddwch yn bendant, ond yn gwrtais os bydd y gwerthwr yn ceisio defnyddio’r prawf gyrru i werthu’r car i chi.
- Hyd yn oed os byddwch chi’n meddwl eich bod wedi penderfynu, rhowch gynnig ar gar tebyg i gymharu – efallai y cewch chi eich synnu.
Pwyntiau eraill i’w gwirio
- A yw’n hawdd mynd i mewn ac allan o’r car?
- A yw’n gyfforddus y tu mewn? Ceisiwch addasu’r seddi a’r llyw.
- A ydych yn gallu gweld yn dda? Chwiliwch am fannau na allwch eu gweld a cheisiwch facio’r car.
- Gwiriwch fod digon o le yn y cefn. Cofiwch, os oes gennych blant, maen nhw’n tyfu’n gyflym!
- Os yw’r seddi ôl yn plygu i lawr - a yw hynny’n hawdd?
- A oes digon o le yn y gist? A yw’r sil yn ddigon isel i lwytho – neu ar gyfer eich ci!
Cynllunio ar gyfer derbyn eich car
?
Awgrym da
I gael cymorth wrth gyfrifo holl gostau rhedeg eich car newydd, rhowch gynnig ar ein hofferyn Cyfrifiannell costau car.
Maen annhebygol y byddwch yn medru gyrru o’r modurdy yn eich car newydd ar y diwrnod y byddwch yn ei brynu. Os yw’n cael ei adeiladu yn ôl eich manyleb chi, efallai y bydd raid aros am wythnosau, misoedd hyd yn oed. Mae’r un peth yn wir os byddwch ar restr aros.
Cytunwch ar ddiwrnod dosbarthu gyda’r gwerthwr, yna cadwch mewn cysylltiad i sicrhau eu bod yn cadw ato.
Yn y cyfamser, bydd raid i chi sicrhau fod eich car wedi ei yswirio cyn ei dderbyn. Os oes gennych yswiriant yn barod, fe allech fanteisio ar y cyfle i chwilio am fargen rhag ofn y gallech chi gael yswiriant am bris gwell.
Beth i’w wirio ar y diwrnod y bydd y car yn cyrraedd
Dyma restr wirio o’r hyn y dylech ei wneud yr eiliad y bydd eich car newydd yn cyrraedd. Os byddwch yn darganfod unrhyw wendidau neu fod rhywbeth ar goll, cysylltwch â’r gwerthwr cyn gynted ag sy’n bosibl.
- Gwiriwch fod gennych chi holl lawlyfrau’r car, y llyfryn hanes gwasanaeth a’r ddogfen gofrestru cerbyd V5C (llyfr log).
- Gwiriwch y car y tu mewn a’r tu allan, gan nodi unrhyw beth nad yw’n iawn ar bapur – hyd at y sgriffiadau lleiaf.
- Gwiriwch y paent, yna edrychwch ar y llinellau a’r bylchau o gwmpas y paneli i sicrhau eu bod wedi eu gosod yn iawn.
- Pan fyddwch yn gwirio tu mewn y car, cofiwch edrych ar bob manylyn – o’r semau ar y seddi i’r modd y mae’r fascia wedi ei osod.
- Cadwch gofnod o’r milltiroedd. Dylai unrhyw beth mwy na 25 milltir ar y cloc fod yn rhybudd, oni bai fod eich car wedi cael ei yrru at y gwerthwr.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall amserlen gwasanaeth y car, fel eich bod yn gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol i’w gadw o fewn y warant ac i gael hanes gwasanaeth llawn pan fyddwch yn ei werthu.
- Os oes gan eich car ychwanegion dewisol technegol, mae’n syniad da cael y gwerthwr i ddangos i chi sut y maen nhw’n gweithio.
- Cofiwch ddweud wrth y gwerthwr am unrhyw ddiffygion yn syth.
Eich cam nesaf
Holwch am warantau i geir newydd
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?