P’un ai a yw’n swydd ran-amser yn ystod eich astudiaethau, neu’ch swydd lawn-amser gyntaf, mae ennill eich arian eich hunan yn deimlad braf. Gall y ffordd y cewch eich talu am eich gwaith, a pha bryd y cewch eich talu, amrywio’n sylweddol – edrychwn ar y gwahanol ffyrdd mae cyflogwyr yn talu eu staff.
Sut y cyfrifir fy nghyflog?
Gellir cyfrifo’r arian a delir i chi am eich gwaith mewn sawl gwahanol ffordd gan eich cyflogwr.
Math o gyflog |
Ystyr |
Cyflog |
Swm o arian y byddech chi’n ei ennill mewn blwyddyn. Seilir hyn fel arfer ar weithio nifer penodol o oriau bob wythnos. |
Cyfradd fesul awr |
Byddwch yn ennill swm penodol am bob awr yr ydych chi’n gweithio. Po fwyaf o oriau rydych yn eu gweithio po fwyaf o arian y byddwch yn ei dderbyn. |
Gwaith am dasg |
Gyda rhai swyddi telir swm penodol i chi am bob uned y byddwch yn ei chynhyrchu. Po fwyaf o unedau rydych chi’n eu cynhyrchu po fwyaf o arian y byddwch chi’n cael eich talu. |
Comisiwn |
Yn bennaf yn gysylltiedig â swyddi gwerthu. Byddwch yn derbyn cyfran o’r gwerthiannau y byddwch yn eu gwneud. Telir comisiwn yn aml yn ychwanegol at gyflog neu gyfradd bob awr. |
Isafswm Cyflog a Chyflog Byw Cenedlaethol
Isafswm cyflog yw’r cyflog isaf yr awr y dylai unrhyw weithiwr ei gael.
Bydd y swm yn amrywio gan ddibynnu ar eich oed a ph’un a oes gennych brentisiaeth neu beidio. Nid oes isafswm cyflog ar gyfer gweithwyr sy’n iau na’r Oed gadael ysgol gorfodol.
Cyflog byw cenedlaethol
Os ydych yn gyflogedig ac yn 25 oed neu hŷn a ddim yn eich blwyddyn gyntaf o brentisiaeth, mae gennych hawl cyfreithiol i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol.
O Ebrill 2021, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei dalu i’r mwyafrif o weithwyr sy’n 23 oed neu drosodd.
Dewch o hyd i restr ddiweddar o’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar
wefan GOV.UK.
Sut ydych chi’n cael eich talu yn y gwaith
Hwyrach y bydd rhai cyflogwyr yn eich talu gydag arian parod, ond y ffordd fwyaf cyffredin o dderbyn eich cyflog yw trwy eich cyfrif banc. Mae mantais fawr i hyn gan ei fod yn saff ac yn ddiogel.
Un fantais fawr arall o gael eich talu yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc yw y dylai’ch cyflogwr eich cofrestru ar gynllun o’r enw Talu wrth Ennill (neu PAYE yn fyr). Mae hyn yn golygu y bydd eich cyflogwr yn tynnu unrhyw dreth incwm neu gyfraniadau yswiriant gwladol o’ch cyflog yn awtomatig cyn ei anfon i’ch cyfrif banc, gan olygu nad oes yn rhaid i chi boeni am wneud taliadau treth.
Pa bryd y cewch chi’ch talu
Mae pa bryd a pha mor aml y cewch eich talu yn cael ei gytuno fel arfer rhyngoch chi a’r cyflogwr cyn i chi gychwyn y swydd. Er y telir cyflogau yn fisol fel arfer, gall fod yn wythnosol neu hyd yn oed yn ddyddiol a dylai’ch cytundeb cyflogaeth nodi hynny.
Buddion gwaith eraill
Gall cyflogwyr ddarparu buddion eraill ar ben eich cyflog, er enghraifft:
- yswiriant iechyd
- llety
- car cwmni
- bod yn aelod o gampfa
Yr enw ar y rhain yw ‘buddion mewn da’ gan nad ydych yn cael arian parod ychwanegol, ond rydych yn cael rhywbeth y byddech yn gorfod talu amdanynt fel arfer. Rhaid i chi dalu treth ar nifer o fuddion mewn da hefyd.
Pensiwn
Os byddwch chi’n cymryd pensiwn y gweithle, bob mis bydd rhan fechan o’ch cyflog yn cael ei thalu i’ch pensiwn.
Mantais pensiwn y gweithle yw y bydd eich cyflogwr yn gwneud taliad bob mis hefyd. Yn ychwanegol i hyn, bydd unrhyw daliadau a wnewch i’ch pensiwn yn ddi-dreth.
Mae’r llywodraeth wedi cyflwyno rheol newydd sy’n golygu y bydd cyflogwyr yn gosod gweithwyr ar gynllun pensiwn y gweithle yn awtomatig.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?