Treth a chyflog ail swydd

Mae llawer o bobl yn cymryd ail swydd i greu arian ychwanegol, neu fel cam ar y ffordd i ddechrau eu busnes eu hunain. Ond efallai na fyddan nhw’n ymwybodol o’u hawliau yn ymwneud â chymryd ail swydd a sut y byddan nhw’n talu treth ac Yswiriant Gwladol. Yn yr arweiniad hwn by gwybodaeth am dreth ac Yswiriant Gwladol ail swydd, eich hawliau wrth gymryd cyflogaeth arall a sut y gallai effeithio ar eich budd-daliadau a chyfraniadau pensiwn.

A all fy nghyflogwr fy atal rhag cael ail swydd?

Un o’r cwestiynau cyntaf sydd angen i chi ofyn i’ch hunan yw, a yw’ch cytundeb cyflogaeth presennol yn caniatáu i chi gymryd ail swydd.

Dylech chi fod wedi derbyn copi o’ch cytundeb pan ddechreuoch chi weithio i’ch cyflogwr. Os nad oes gennych chi un, dylai’ch cyflogwr neu adran Adnoddau Dynol allu rhoi copi i chi.

Mae’n bosibl y gallai eich cyflogwr eich atal rhag cymryd swyddi ychwanegol mewn sefyllfaoedd lle:

  • gallai gwrthdaro buddiannau godi, er enghraifft, gweithio i gwmni sy’n cystadlu
  • gallai’ch ail swydd ddwyn anfri ar eich cyflogwr.

Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch eich cytundeb. Os nad oes unrhyw beth am ail swyddi wedi’i nodi ynddo, ni all eich cyflogwr eich atal chi rhag cymryd swydd arall.

Beth yw fy hawliau wrth weithio mewn ail swydd?

Hawliau a chytundebau

Gan ddibynnu ar eich statws cyflogaeth, mae gennych hawliau yn y gwaith, p’un ai dyma’r swydd gyntaf neu ail swydd.

Beth bynnag yw’ch statws cyflogaeth, os ydych chi’n cael eich cyflogi gan rywun arall, dylech gael cytundeb cyflogaeth. Dylai hyn amlinellu, ymhlith pethau eraill, eich teitl swydd, cyfrifoldebau, cyflog, oriau gwaith a pha fuddion sydd gennych chi’r hawl iddynt.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan bron bob un gweithiwr yn y DU hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol - neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol os ydych yn 25 neu’n hŷn.

Oriau gwaith

Yn ôl y gyfraith, ni all eich cyflogwr ofyn i chi weithio mwy na chyfartaledd o 48 awr yr wythnos mewn unrhyw un swydd.

Serch hynny, os ydych chi dros 18 gallwch ddewis gweithio mwy o oriau na hyn ac mae’n bosibl y bydd angen i chi os ydych chi’n dymuno cymryd ail swydd.

Treth Incwm ar ail swyddi

Os ydych chi’n gweithio, mae gennych chi yr hawl i ennill swm penodol o arian heb dalu Treth Incwm. Gelwir hyn yn Lwfans Personol ac mae’n £12,500 ar gyfer y flwyddyn dreth 2019/20.

Dim ond un Lwfans Personol a gewch chi, felly mae’n well ei gymhwyso i’r swydd sy’n talu’r mwyaf.

Os ydych chi’n gweithio dwy swydd ac nad yw’r naill incwm na’r llall yn uwch na £12,500 gallwch rannu’ch Lwfans Personol.

Enghraifft 1: Os oes gennych ddwy swydd

Mae Jane yn gweithio dwy swydd. Mae ei phrif swydd yn talu £14,000 y flwyddyn a’r ail yn talu £6,000.

Mae ei Lwfans Personol cyfan yn cael ei gymhwyso i’w phrif swydd. Os yw’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, mae’n talu treth incwm ar Radd Sylfaenol o 20% ar yr £1,500 o’i chyflog sydd uwchlaw’r lwfans ar gyfer ei phrif swydd ac ar ei holl incwm ar ei hail swydd.

Enghraifft 2: Dwy swydd islaw’r Lwfans Personol

Mae gan Richard ddwy swydd, mae ei brif swydd yn talu £10,000 y flwyddyn a’i ail swydd yn talu £9,000.

Mae’r ddwy islaw’r Lwfans Personol, felly gall rannu ei lwfans rhwng y ddwy swydd.

Gall gysylltu â CThEM a gofyn iddynt drosglwyddo £2,500 o lwfans heb ei ddefnyddio o’i brif swydd i’w ail swydd, neu fe all aros hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth a gofyn i CThEM am ad-daliad.

Dim ond os yw’ch incwm o bob swydd yn rhagweladwy ac yn sefydlog y dylech chi ofyn i’ch Lwfans Personol gael ei rannu. Os nad ydyw a bod un swydd yn talu mwy na’r disgwyl, fyddwch chi ddim wedi talu digon o dreth.

Enghraifft 3: Os yw’ch enillion cyfun dros £50,000

Mae prif swydd Recbecca yn talu £45,000 y flwyddyn iddi, ond mae ganddi swydd ran amser hefyd sy’n talu £12,000 y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod ganddi gyfanswm incwm o £57,000, gyda’i holl Lwfans Personol yn cael ei gymhwyso i’w phrif swydd.

Oni bai bod Rebecca yn dweud wrth CThEM, bydd ei hail swydd yn cael ei threthu yn gyfan gwbl ar y Gyfradd Sylfaenol, pan y dylai rhan ohoni gael ei threthu ar Gyfradd Uwch.

Os nad yw’n dweud wrth CThEM am hyn, bydd angen iddi dalu treth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Codau Treth ar gyfer ail swyddi

Er mwyn sicrhau eich bod chi’n talu’r swm cywir o dreth ac nad ydych chi’n cael eich taro â biliau treth annisgwyl, taliadau cosb a llog, dylech wirio’ch codau treth.

Dylai’ch prif swydd, gan gymryd ei fod yn talu mwy na’r Lwfans Personol, fod yn 1250L ar gyfer y flwyddyn dreth 2019/20.

Dylai’ch ail swydd fod â chod treth BR, D0 neu D1, gan ddibynnu ar a ydych chi’n cael eich trethu ar y Gyfradd Sylfaenol, Uwch neu Ychwanegol.

Mae eich cod treth i’w weld ar eich slipiau cyflog a gallwch hysbysu CThEM am ddechrau ar ail swydd gan ddefnyddio’r rhestr wirio dechreuwr newydd gan eich cyflogwr newydd.

Yswiriant Gwladol ar ail swydd

Os ydych chi’n ennill mwy na £166 yr wythnos yn y flwyddyn dreth 2019/20, bydd angen i chi dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Os byddwch chi’n ennill mwy na hyn yn eich dwy swydd, byddwch chi’n talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y ddwy swydd.

Sut y bydd cael ail swydd yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Gall cymryd ail swydd effeithio ar eich credydau treth neu fudd-daliadau eraill, felly rhaid i chi gyfrifo faint yn ychwanegol y byddwch chi’n ei ennill.

Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol, ac nad ydych chi’n derbyn y lwfans gwaith, bydd eich taliad yn gostwng 63c am bob £1 a enillir.

Os ydych chi’n dal i hawlio Credyd Treth Gwaith, bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os bydd eich incwm yn newid gan fwy na £2,500. Ond gallai hyn gyfrif fel newid mewn amgylchiadau ac fe allai olygu y gallai fod angen i chi wneud hawl newydd am Gredyd Cynhwysol.

Ail swydd a phensiynau

Gallai cymryd ail swydd roi cyfle i chi dalu i gynllun pensiwn gweithle arall ond cofiwch olrhain unrhyw bensiynau bychain yr ydych chi wedi talu iddynt.

Os ydych yn talu cyfanswm bychan i mewn i bensiwn yn eich ail swydd, efallai y byddai o fudd ei uno gyda phensiwn mwy pan fyddwch chi’n gadael.

Os ydych yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth eisoes, neu fod gennych bensiwn personol neu alwedigaethol, a’ch bod yn gweithio hefyd, mae’n bosibl y bydd goblygiadau treth.

Unwaith eto, mae’n bwysig iawn sicrhau eich bod yn talu’r cyfanswm cywir o dreth a bod gennych chi’r cod treth cywir.

Hunangyflogedig fel ail swydd

Os ydych chi’n gweithio’ch ail swydd yn hunangyflogedig, yna bydd angen i chi:

  • gofrestru yn hunangyflogedig gyda CThEM
  • ffeilio ffurflen dreth Hunangyflogedig erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn
  • talu eich treth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun.

Gan eich bod chi’n hunangyflogedig, ni fyddwch chi’n derbyn slip cyflog, felly bydd angen i chi fod yn ofalus am eich cod treth ar eich swydd arall.

Fel arfer, dylech ystyried y swydd sy’n talu’r cyflog uchaf fel eich prif swydd. Serch hynny, os mai hunangyflogedig yw’ch ail swydd efallai na fyddwch chi’n gwybod faint yn union yr ydych chi’n ei ennill. Mae hyn o bosibl yn ei gwneud hi’n anodd sicrhau eich bod yn cymryd eich Lwfans Personol llawn.

Os yw’r ddwy swydd yn talu islaw’r Lwfans Personol, mae gennych yr hawl o hyd i rannu’ch lwfans rhyngddynt.

Os yw un o’ch swyddi yn hunangyflogedig, byddwch chi’n talu treth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol blwyddyn mewn ôl-ddyled. Er enghraifft, ar gyfer yr arian y byddwch chi’n ei ennill yn y flwyddyn dreth 2018/19, bydd angen i chi dalu’r dreth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol dyledus erbyn 31 Ionawr 2020.

Golyga hyn ei bod hi’n bwysig iawn i chi ystyried sut y gallwch chi dalu’r hyn a allai fod yn fil sylweddol. Y newyddion da yw y dylai fod gennych syniad faint o dreth sy’n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol, sy’n rhoi naw mis i chi baratoi.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?