Tâl dileu swydd

Os ydych chi wedi bod yn yr un swydd am o leiaf dwy flynedd mae’n rhaid i’ch cyflogwr dalu arian dileu swydd i chi. Gelwir y lleiafswm cyfreithiol yn ‘dâl dileu swydd statudol’, ond edrychwch ar eich cytundeb – fe allech gael rhagor.

A oes gennych hawl i unrhyw beth?

Os ydych wedi gweithio’n barhaol i’ch cyflogwr am ddwy flynedd neu fwy ac maent yn dileu eich swydd, mae gennych chi’r hawl i dâl dileu swydd.

Edrychwch ar eich cytundeb

Y lleiafswm cyfreithiol yw tâl dileu swydd statudol. Ni chaiff eich cyflogwr dalu llai na hyn i chi.

Ond efallai bydd yn rhaid iddynt dalu rhagor i chi os yw cytundeb eich cyflogaeth yn dweud hynny. Gallai hyn olygu cyfandaliad mwy neu gael taliad hyd yn oed os ydych wedi gweithio yno am lai na dwy flynedd.

Os nad oes unrhyw sôn am dâl dileu swydd yn eich cytundeb neu lyfryn staff, dylech gymryd yn ganiataol y byddwch yn cael y lleiafswm cyfreithiol.

Edrychwch ar eich contract cyflogaeth neu eich llawlyfr staff i gael gwybodaeth am eich ‘tâl dileu swydd cytundebol’.

Felly beth yw’r lleiafswm cyfreithiol?

Mae’r hyn a gewch o ran tâl dileu swydd statudol yn dibynnu ar:

  • Faint yr ydych wedi bod yn y swydd
  • Yr oedran yr oeddech ym mhob blwyddyn y buoch yn gweithio yno, a hefyd
  • Eich cyflog presennol – hyd at fwyafswm o £479 yr wythnos (£500 yng Ngogledd Iwerddon)

Mae yna uchafswm cyffredinol o dâl diswyddo a gewch sydd wedi’i gapio ar £14,370 (£14,700 yng Ngogledd Iwerddon), hyd yn oed os yw’ch gwir enillion yn uwch neu hyd eich gwasanaeth yn hirach na hynny. Dim ond blynyddoedd llawn o wasanaeth sy’n cyfrif, ac mae’n rhaid i wasanaeth fod yn ddi-dor.

Dyma beth y dylech ei gael:

Eich oedran Tâl dileu swydd
O dan 22 mlwydd oed Hanner wythnos o dâl am bob blwyddyn o wasanaeth
22 a 40 Wythnos o dâl am bob blwyddyn o wasanaeth
Dros 41 mlwydd oed Wythnos a hanner o dâl am bob blwyddyn o wasanaeth

Enghraifft

Mae Sally (31 mlwydd oed) wedi gweithio’n rhan-amser fel dynes trin gwallt i ‘Curl Up and Dye’ am ddeng mlynedd a dau fis gan ennill £200 yr wythnos. Mae ei swydd hi newydd gael ei dileu.

Mae hi’n cael:

  • Hanner wythnos o dâl am y flwyddyn yr oedd hi’n gweithio pan oedd hi dan 22 = £100
  • Naw wythnos o dâl am y naw mlynedd y bu’n gweithio rhwng 22 a 40 = £1,800

Felly y cyfanswm mae hi’n ei gael yw £1,900.

Tâl yn lle rhybudd a thâl gwyliau

Tâl yn lle rhybudd

Pan fydd eich swydd yn cael ei dileu, mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi lleiafswm o un wythnos o rybudd am bob blwyddyn yr ydych wedi gweithio iddynt (hyd at fwyafswm o 12 wythnos o rybudd). Ond edrychwch ar eich cytundeb – efallai bod cyfnod hwy o rybudd wedi ei gynnwys ynddo.

Efallai bydd disgwyl i chi ddal i weithio yn ystod eich cyfnod o rybudd, ond yn aml fe gewch eich talu yn lle rhybudd a byddwch yn gallu gadael yn gynt, weithiau yn syth.

Edrychwch ar eich cytundeb cyflogaeth neu’ch llawlyfr staff i gael gwybodaeth am eich cyfnod o rybudd.

Tâl gwyliau

Peidiwch ag anghofio tâl gwyliau! Os oes gennych wyliau’n ddyledus i chi mae’n rhaid i’ch cyflogwr dalu i chi amdano neu adael i chi ei gymryd cyn gadael.

Edrychwch a oes gennych wyliau’n ddyledus i chi.

£30,000 yn ddi-dreth

Pan fydd eich swydd yn cael ei dileu, byddwch yn debygol o dderbyn cymysgedd o dâl dileu swydd (sydd yn iawndal am i chi golli eich swydd) a symiau eraill sy’n ddyledus i chi.

Mae’r £30,000 cyntaf o’ch tâl dileu swydd yn ddi-dreth – pa un a ydych yn cael y lleiafswm cyfreithiol neu dâl mwy hael gan eich cyflogwr. Ni fydd raid i chi dalu Yswiriant Cenedlaethol arno ychwaith.

Ond mae tâl gwyliau, tâl yn lle rhybudd ac unrhyw swm sy’n dâl am eich gwaith yn hytrach na iawndal am golli eich swydd yn cael eu trethu fel tâl. Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am dreth pan fydd eich swydd yn cael ei dileu.

Beth os yw’r hwch wedi mynd drwy’r siop o ran eich cyflogwr?

Os yw busnes eich cyflogwr wedi dod i ben yna byddwch yn dal i gael tâl dileu swydd statudol a thâl gwyliau sy’n ddyledus i chi, ond bydd yn rhaid i chi eu hawlio gan y Wladwriaeth yn hytrach na’ch cyflogwr.

I wneud hyn, bydd arnoch angen cael ffurflen RP1 sydd ar gael gan y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd. Bydd arnoch angen hawlio tâl gwyliau ac unrhyw gyflog sy’n ddyledus i chi yr un pryd.

Ffoniwch y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd ar 0845 015 0010 i gael RP1 – Ffurflen Hawlio Taliadau Dileu Swydd.

Nid yw eich cyflogwr am dalu i chi – beth allwch chi wneud?

Os ydych chi’n meddwl bod eich cyflogwr yn talu’r swm tâl dileu swydd anghywir i chi neu os ydych chi’n anhapus ynglŷn â’r ffordd rydych chi’n cael eich trin, dechreuwch trwy siarad â nhw amdano. Gallech hefyd siarad â’ch cynrychiolydd undeb llafur os oes gennych chi un.

Os na fydd hyn yn gweithio, gallwch wneud cwyn gan ddefnyddio trefn gwyno’ch cyflogwr. Fel arall, mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) a’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yn cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol rhad ac am ddim. Os na ellir datrys y materion dylech ystyried gwneud cais i’r tribiwnlys cyflogaeth.

Siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf ynglŷn ag unrhyw broblemau.

Ewch i wefan Acas (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu ffoniwch hwy ar 0300 123 1100.
Ewch i wefan yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (Gogledd Iwerddon)yn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch hwy ar 028 9032 1442.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?