Mae pawb yn gwybod bod symud o’ch cartref a byw yn annibynnol yn golygu cymryd cyfrifoldeb am gostau byw o ddydd i ddydd, ond beth yn union yw’r costau? Yma rydym yn cael golwg ar faint mae’n ei gostio i dalu drosoch eich hun.
Costau byw blynyddol
Costau byw |
Costau blynyddol aelwyd ar gyfartaledd |
Llety |
£7,930 |
Bwyd |
£2,896 |
Nwy |
£510 |
Trydan |
£593 |
Dŵr |
£390 |
Rhedeg car |
£1,726 |
Ffôn a’ch band llydan |
£900 |
Cyfanswm |
£14,945 |
(Ffynhonnell: Office for National Statistics, 2018)
Peidiwch â dychryn: Ffigyrau blynyddol aelwyd ar gyfartaledd sy’n cael eu darlunio yn y ffigyrau uchod. I’r rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n symud i’w lle cyntaf, bydd y costau yma’n llawer llai.
Llety
Mae ar bawb angen lle diogel i fyw.
Mae faint y bydd hynny’n costio yn dibynnu ar nifer o bethau, megis:
- math o dai
- lle y mae yn y wlad
- a ydych chi’n rhannu’r gost
- a ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais.
Mewn mannau lle bydd llawer o bobl am fyw, fel dinasoedd mawr, gall costau llety fod yn llawer uwch nag ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Ar gyfer eich cartref cyntaf efallai y byddwch am ystyried rhannu gydag eraill i geisio rhannu’r costau.
Bwyd
Mae’n llawer rhy hawdd prynu’r bwyd y bydd arnoch ei angen pan fyddwch ei angen, bob dydd yn aml iawn.
Er y gall ymddangos yn ddrutach ar y pryd, yn aml iawn mae’n rhatach siopa unwaith yr wythnos. Felly gallwch osod cyllideb wythnosol i chi’ch hun a chadw ati.
Er bod gan yr holl archfarchnadoedd mawr gynigion a bargeinion, gwnewch yn siŵr bod arnoch wirioneddol angen y pethau y byddwch yn eu prynu cyn i chi wario mwy nag sydd raid, neu wastraffu bwyd.
Gallwch hefyd geisio prynu brand yr archfarchnad ei hun neu’r dewis rhataf bob tro a all fod yn llawer rhatach na’r enwau cyfarwydd.
Cyfleustodau
Mae cyfleustodau yn golygu nwy, trydan a dŵr. Nid yw costau eich gwasanaethau dŵr yn newid llawer o un cwmni i’r llall, ond mae prisiau nwy a thrydan, felly sicrhewch eich bod yn chwilio am y fargen orau.
Mae pob cwmni nwy a thrydan yn cynnig ystod o dariff, yn yr un modd â ffonau symudol, felly treuliwch amser yn sicrhau eich bod ar y tariff gorau i chi.
Mae newid cyflenwr yn hawdd a gall eich helpu i arbed llawer iawn o arian.
Rhedeg car
Gall hyn fod yn llawer mwy nag yr ydych yn ei ddisgwyl ar ôl ystyried y petrol, yr yswiriant, a’r biliau trwsio.
Trwydded deledu
Mae hyn yn costio £154.50 am flwyddyn os prynwch ef cyn 1 Ebrill 2020. Bydd trwydded du a gwyn yn costio £52.
Mae’r ffi nawr yn mynd i fyny yn unol â chwyddiant, gyda’r pris newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill bob blwyddyn.
Gallwch dalu amdano bob blwyddyn, ond os dewiswch dalu’n chwarterol, bydd hyn yn costio £5 yn ychwanegol.
Os talwch yn wythnosol neu’n fisol, rydych yn talu am drwydded y flwyddyn gyntaf mewn chwe mis.
Byddech wedyn yn talu am eich trwydded nesaf dros 12 mis, ac felly byddwch wedi talu chwe mis ymlaen llaw.
Rhaid i chi fod â Thrwydded Deledu:
- i wylio neu recordio rhaglenni teledu ar unrhyw sianel
- i lawrlwytho neu wylio rhaglenni BBC ar iPlayer
Gallai hynny fod ar unrhyw declyn, gan gynnwys teledu, cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, ffôn symudol, tabled, consol gemau, blwch digidol neu recordiwr DVD/VHS.
Gallech wynebu erlyniad a dirwy hyd at £1,000 os cewch eich dal yn gwylio heb drwydded.
Treial Cynllun Talu Syml Trwyddedu Teledu
O 1 Ebrill 2018, mae yna dreial Cynllun Talu Syml newydd ar gael.
Dan y cynllun hwn, byddwch yn gallu talu am Drwydded Deledu mewn 12 taliad misol cyfartal neu 26 o daliadau bob pythefnos.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2018.
Mae’r Cynllun Talu Syml hefyd yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd. Os byddwch yn methu taliad, gellir ei ledaenu ar draws y taliadau sy’n weddill. Ond os byddwch yn methu tri thaliad yn olynol, bydd y cynllun yn cael ei ganslo.
Ffonau symudol a band eang
Yn yr un modd â biliau cyfleustodau, gallwch arbed swm sylweddol o arian wrth newid darparwr band eang neu newid eich cytundeb ffôn symudol.
Felly, pan fyddwch chi’n derbyn cytundeb newydd, neu pan fydd eich hen un yn dod i ben, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cymharu’r bargeinion y gallwch eu cael i arbed arian.
Biliau annisgwyl
Atgyweirio’r car, biliau milfeddyg, atgyweirio’r cartref ar frys - gall y math hwn o gostau effeithio ar unrhyw un ar unrhyw bryd, felly nid yw hi fyth yn rhy gynnar i baratoi ar eu cyfer.
Y peth gorau i’w wneud yw cynilo arian yn rheolaidd i ddechrau cronni cronfa gynilion at argyfwng.
Gallwch hefyd gymryd camau i geisio atal eitemau rhag torri, neu brynu yswiriant sy’n rhoi sicrwydd i chi os aiff pethau o’i le.
Siarad am arian
Gall peidio â siarad am arian achosi problemau, gan fod pob rhan o’n bywydau yn cael eu heffeithio gan ein materion ariannol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Defnyddiwch ein canllaw i oresgyn y rhwystrau hynny a siaradwch â’ch ffrindiau, partner, perthnasau hŷn a phlant am arian.
Help gyda chostau byw
Os byddwch yn ei chael hi’n anodd talu am gostau byw o ddydd i ddydd, efallai bod gennych hawl i rai budd-daliadau.