Ydych chi'n talu eich costau gofal eich hun ond nid oes arian ar ôl?

Os yw’r arian y buoch yn ei ddefnyddio i dalu am eich gofal hirdymor nawr yn brin, beth yw eich dewisiadau? At bwy allwch chi droi am gefnogaeth ariannol, a beth all ddigwydd i chi os ydych mewn cartref gofal? Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Cam cyntaf – gofynnwch am asesiad

Cyn i chi wneud dim, trefnwch asesiad gofal – mae’n bosib y gwelwch eich bod yn gymwys am gefnogaeth awdurdod lleol a/neu’r GIG.

Gall yr asesiad ddangos bod eich anghenion gofal yn datgan y dylech gael lle mewn cartref gofal.

Neu, fe allech gael cynnig pecyn gofal cartref, neu le mewn tai gwarchod neu lety tebyg.

Nesaf bydd angen i chi drefnu asesiad ariannol i weld a ydych yn gymwys am arian. Bydd hyn yn edrych ar eich incwm, cynilion ac asedau. Gall ddangos nad ydych angen ariannu eich gofal eich hun yn llawn mwyach.

Gan ddibynnu ar ganlyniad yr asesiadau, mae’n bosib y bydd angen i chi barhau i ariannu peth o’ch costau gofal, felly mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cael pob un o fudd-daliadau’r wladwriaeth a’r credydau treth y mae gennych hawl iddynt.

A ydych yn gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?

Wyddoch chi?

Gall cyllid Gofal Parhaus y GIG dalu am gostau llety os yw’r gofal hwnnw mewn cartref gofal sy’n darparu gofal nyrsio, neu gall gyfrannu at gostau gofal os ydych chi’n aros yn eich cartref.

Os oes gennych anabledd neu broblem feddygol gymhleth, efallai byddwch yn gymwys am ofal iechyd parhaus y GIG am ddim (CHC) os ydych yn oedolyn, neu ofal parhaus y GIG am ddim (CC) os ydych o dan 18 oed. Mae’n talu am gostau gofal iechyd, fel help gyda thasgau byw bob dydd, gofal nyrsio neu therapi arbenigol.

Gallai hefyd dalu am lety os yw’r gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, neu gymorth i ofalwyr os ydych yn cael gofal gartref.

Os mai’r rheswm am eich costau uwch yw dirywiad yn eich iechyd neu anaf, fe ellwch fod yn gymwys felly am y gefnogaeth rhad ac am ddim hon. Mae’n bosib hefyd y bydd y meini prawf cymhwysedd wedi newid ers eich asesiad diwethaf hefyd. Mae’n bosib na fyddech hyd yn oed wedi clywed am y math hwn o ariannu o’r blaen. Beth bynnag, mae’n werth cael sgwrs gyda’ch meddyg, gofalwr neu weithiwr cymdeithasol. Hyd yn oed os nad ydych chi’n gymwys nawr, mae’n werth cadw golwg ar y sefyllfa os bydd eich cyflwr yn gwaethygu.

Fyddwch chi’n gallu aros yn eich cartref gofal?

Peidiwch â dychryn

Nid oes neb yn ennill os yw’r arian yn dod i ben. Mae yna bob amser ddewisiadau i’ch cadw mewn lle sydd yn cwrdd â’ch anghenion.

Yn gyntaf rhaid i chi gael golwg ar eich cytundeb gyda’ch cartref gofal. Mae rhai darparwyr gofal yn caniatáu i chi aros tra byddwch yn gwneud cais am arian, ac fe allent dderbyn cyfradd lai gan eich awdurdod lleol fel nad oes angen i chi symud allan.

Y dyddiau hyn, mae’r cyfanswm y mae awdurdodau lleol yn ei dalu yn llawer iawn llai na chostau arferol cartrefi gofal. Os na fedrwch chi dalu’r gwahanaieth mewn rhyw ffordd, megis cael ffrindiau neu deulu i ychwanegu at y cyfraniad neu fod yna elusen neu gronfa a allai eich helpu, efallai y bydd yn rhaid i chi symud i ystafell lai neu rannu ystafell, neu symud i gartref gofal arall sydd yn derbyn arian yr awdurdod lleol fel taliad llawn. Mae gennych hawl i ddewis eich cartref gofal cyn belled â’i fod yn diwallu meini prawf yr awdurdod lleol ar gyfer eich anghenion a aseswyd. Tarwch olwg ar Daflen Ffeithiau FirstStop Advice 13 ‘Choice and Council Funded Care home Placements’.

Os ydych yn gymwys am arian gan awdurdod lleol, nid ydych yn cael ychwanegu at eich ffioedd cartref gofal eich hun o’ch cyfalaf. Byddwch wedi’ch asesu’n ariannol i dalu’r hyn y gallwch chi ei fforddio.

Os bydd yr awdurdod lleol yn awgrymu lle sy’n cwrdd â’ch anghenion ac rydych yn dal i ddymuno symud i gartref mwy drud, gallwch ofyn i drydydd parti (perthynas neu ffrind fel arfer) dalu’r swm ychwanegol. Gelwir hyn yn ‘gyfraniad trydydd parti’.

Cysylltwch â Turn2Us ar 0808 802 2000 i gael gwybod am elusennau neu gronfeydd lles all eich helpu i ychwanegu’r arian.

Beth os ydych chi’n berchen ar eiddo?

Os ydych yn berchen ar eich cartref, gall symud i gartref llai ryddhau’r arian sydd ei angen arnoch i dalu am eich gofal. Gall symud i rywle sydd yn cwrdd yn well â’ch anghenion wella eich safon byw hefyd a’ch gosod yn nes at ffrindiau a theulu. Neu gallwch chwilio am gynlluniau sy’n rhyddhau rhywfaint o’r cyfalaf yn eich cartref i dalu am eich gofal.

Gallwch ddefnyddio gwerth eich cartref i roi cymorth tuag at eich gofal mewn ffyrdd eraill hefyd, er enghraifft trwy ryddhau ecwiti, ac os felly ni fyddai angen i chi symud o gwbl.

Gall eich awdurdod lleol hefyd gynnig yr opsiwn i chi o ddal eich taliadau’n ôl fel nad oes rhaid i chi werthu’ch cartref i dalu am ofal mewn cartref gofal. Gelwir hyn yn ffioedd wedi’u gohirio. Yna bydd yr awdurdod lleol yn adennill yr hyn sy’n daladwy mewn ffioedd pan fyddwch chi’n gwerthu’ch cartref neu allan o’ch ystad ar ôl i chi farw.

Oes yna atebion tymor byr i’r broblem?

Os na all teulu neu ffrindiau ychwanegu at eich taliadau ac eich bod yn berchennog ar gartref o hyd ac wedi ei adael yn wag, gallwch ystyried y dewisiadau canlynol.

Rhentu eich cartref

Ochr yn ochr â’r cynllun ffioedd wedi’u gohirio, gallech ddewis rhentu eich cartref. Drwy wneud hynny, gallai’r incwm o’r rhent leihau’s swm bydd rhaid i chi ei fenthyg gan yr awdurdod lleol. Cofiwch fod gennych gyfrifoldebau ariannol os ydych chi’n rhentu eiddo.

Distyriaeth Eiddo 12-wythnos

Gall eich awdurdod lleol eich helpu o bosib gyda’r 12 wythnos cyntaf o ffioedd cartref gofal os daw eich cyfalaf, heb gynnwys eich cartref, i swm sy’n llai na’r trothwy cyfalaf ar gyfer gofal hir-dymor.

Cytundebau Taliad Gohiriedig

Wedi’r 12 wythnos cyntaf, gall unrhyw gymorth ariannol a ddaw gan eich awdurdod lleol gael ei drin fel benthyciad yn erbyn gwerth eich cyn gartref a’i ad-dalu o’r gwerthiant terfynol.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?