Treth ac Yswiriant Cenedlaethol pan ydych yn hunan-gyflogedig

Pan rydych yn hunangyflogedig, chi sy’n gyfrifol am dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich incwm. Mae’n bwysig cadw trefn ar eich cofnodion er mwyn cyfrifo hyn a chanfod faint sydd angen i chi ei dalu.

Gweithiwch eich statws gyflogaeth allan

Blwch testun: Bydd Dangosydd Statws Cyflogaeth yn dweud wrthych chi a ydych chi’n hunangyflogedig, neu’n gyflogedig. Sgroliwch i lawr am wybodaeth ynglŷn â’i ddefnyddio

I weithio allan faint o dreth ac Yswiriant Cenedlaethol y dylech dalu, yn gyntaf rhaid i chi sefydlu a ydych yn gyflogedig ynteu’n hunan-gyflogedig.

Mae hyn yn ddigon hawdd fel rheol, ond weithiau mae’n fwy cymhleth – er enghraifft gallech fod wedi eich cyflogi mewn un swydd tra bod yn hunan-gyflogedig mewn swydd wahanol.

Mae gan wefan Cyllid a Thollau EM (CThEM) declyn a enwir yn Ddangosydd Statws Cyflogaeth all weithio allan eich statws cyflogaeth ar eich cyfer yn seiliedig ar eich atebion i gyfres o gwestiynau. Mae’n gwbl anhysbys ac ni fydd yn gofyn am eich enw nac unrhyw fanylion personol eraill.

Awgrymiadau ar gyfer defnyddio’r Dangosydd Statws Cyflogaeth

Mae dwy dudalen i’w darllen cyn i chi gyrraedd y teclyn.

  1. Ar y dudalen gyntaf, darllenwch y wybodaeth a chliciwch “Agor y teclyn ESI a chanllaw pellach”.
  2. Ar yr ail dudalen, darllenwch y rhan ‘Amodau defnyddio’ ac os ydych yn cytuno, cliciwch “Rwy’n derbyn yr amodau defnyddio – ewch i’r teclyn ESI”.
  3. Atebwch y cwestiynau.

Mae’r teclyn yn defnyddio ychydig o iaith dechnegol, felly pan fyddwch yn ateb y cwestiynau cofiwch:

  • Chi yw’r ‘gweithiwr’
  • Person neu gwmni yr ydych yn gweithio iddo yw’r ‘ymrwymwr’
Defnyddiwch y Dangosydd Statws Cyflogaeth ar wefan HMRC.

Cofrestrwch gyda CThEM fel rhywun hunan-gyflogedig

Blwch testun: I sicrhau nad ydych yn methu unrhyw daliadau, mae’n well talu’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol trwy Ddebyd Uniongyrchol.

Rhaid i chi roi gwybod i CThEM cyn gynted ag y byddwch yn hunan-gyflogedig.

Y dyddiad olaf y gallwch gofrestru gyda CThEM yw Hydref 5 ar ôl diwedd y flwyddyn dreth a bydd angen i chi gyflwyno ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Os ydych yn cofrestru’n rhy hwyr gallech gael eich cosbi gyda ffi.

Gallwch gofrestru ar lein i dalu trethi ar wefan HMRC neu drwy alw Llinell Boeth HMRC ar gyfer staff hunan-gyflogedig newydd ar 0300 200 3504.

Faint o dreth ac Yswiriant Gwladol ydw i’n ei dalu fel rhywun hunangyflogedig?

Os ydych yn hunan-gyflogedig, mae’n debygol y bydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (a Dosbarth 4 o bosib) yn ogystal â Threth Incwm.

Os ydych yn hunan-gyflogedig, mae’n debygol y bydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol Rhan 2 yn ogystal â Threth Incwm. Mae’r cyfraniadau hyn yn talu am fuddion megis Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth, Lwfans Mamolaeth a Budd-dal Profedigaeth – os na wnewch chi sicrhau bod eich cyfraniadau’n gyfredol, neu os bydd eich taliadau’n hwyr, gall fod yn anoddach hawlio’r budd-daliadau hyn.

Yng Nghyllideb mis Mawrth 2016, cyhoeddodd y Canghellor y bydd NICs Dosbarth 2 yn cael eu dileu o fis Ebrill 2018. Ar hyn o bryd mae’r llywodraeth yn ystyried cynigion i newid NICs Dosbarth 4 i gynnwys cyfraniadau budd-dal. Nid yw’r manylion terfynol wedi eu cytuno hyd yma.

I sicrhau nad ydych yn methu unrhyw daliadau, mae’n well talu eich cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol trwy Ddebyd Uniongyrchol.

Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i rai pobl hunangyflogedig gofrestru ar gyfer TAW hefyd. Gall eraill elwa o gofrestru’n wirfoddol.

Dysgwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW yn y canllaw rhyngweithiol hwn gan HMRC.

Cadwch gofnodion da

I gyfrifo eich treth yn gywir bydd angen cofnodion da o’r arian sy’n dod i mewn ac allan o’ch busnes. Bydd yn llawer haws llenwi’ch ffurflen dreth os cadwch gofnodion wrth i chi fynd yn eich blaen yn hytrach na cheisio dod o hyd i’ch holl anfonebau a derbynebau ar ddiwedd y flwyddyn. Gallwch wynebu dirwy am beidio â chadw cofnodion.

Rhaid i’ch cofnodion sylfaenol gynnwys:

  • Eich holl werthiannau ac incwm
  • Eich holl bryniant a chostau

I gyfrifo’r rhain fe ddylech ffeilio unrhyw waith papur neu ddogfennau electronig yn ofalus sydd yn ymwneud â’ch busnes, gan gynnwys,:

  • Llyfrau arian
  • Anfonebau
  • Cofnodion teithio
  • Cyfriflenni banc
  • Derbynebau ar gyfer pryniant
  • Eich P60au os ydych yn gyflogedig hefyd

Os yw’r rhain ar ffurf electronaidd nid yw’n angenrheidiol i chi gadw copïau papur, ond dylech sicrhau eich bod yn cadw’r fersiynau electronaidd yn ofalus.

Llenwch ffurflen dreth bob blwyddyn a thalwch eich treth ar amser

Ym mis Ebrill bob blwyddyn bydd HMRC yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych chi am gwblhau ffurflen dreth ar- lein neu ar bapur, ar gyfer y flwyddyn dreth a aeth heibio.

Mae dyddiadau cau gwahanol ar gyfer cwblhau eich ffurflen dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus gennych.

Dyddiadau cau ffurflenni treth

  • Dychwelyd ffurflenni treth ar-lein: 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
  • Dychwelyd ffurflenni treth ar bapur: 31 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Mae’r flwyddyn dreth yn dechrau ar y 6 Ebrill ac yn gorffen ar y 5 Ebrill canlynol.

Dyddiadau cau taliadau

  • 31 Ionawr yw’r dyddiad cau ar gyfer talu’r balans o’r hyn sy’n ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Fel arfer byddwch wedi gwneud dau daliad ar y cyfrif ar gyfer y flwyddyn honno. Dyma’r dyddiad cau hefyd ar gyfer gwneud eich taliad cyntaf ar y cyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol.
  • 31 Gorffennaf yw’r dyddiad cau ar gyfer eich ail daliad ar y cyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Mae natur Hunanasesiad yn golygu y gall gymryd rhai misoedd cyn y bydd eich treth yn ddyledus. Mae’n arfer da darparu’n barhaus ar gyfer unrhyw dreth sy’n ddyledus.
Yn ansicr faint fydd rhaid i chi dalu? Cyllidebwch ar gyfer eich bil treth Hunanasesiad gyda theclyn canllaw cyflym Hunangyflogedig HMRC.
I siarad â chynghorydd a chael mynediad at weminarau ynglŷn â’ch ffurflen dreth hunanasesiad, ewch i Cymorth HMRC.