Treth Dir y Dreth Stamp: trosglwyddo perchnogaeth tir neu eiddo yn Lloegr a Gogledd Iwerddon

Gallech chi feddwl mai taliad untro yw Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) pan rydych chi’n prynu cartref ac na fydd rhaid ei thalu byth eto ar yr eiddo hwnnw. Ond os yw’r perchennog yn trosglwyddo eiddo i gyd neu ran ohono, yna gallai fod SDLT i’w thalu. Yn y canllaw hwn, byddwch chi’n dysgu pryd y gallai ac na allai SDLT fod yn ddyledus.

Pam gallai mwy o Dreth Stamp fod yn ddyledus?

Pwysig

Os ydych chi’n prynu eiddo preswyl yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon a bod gennych chi ddiddordeb mewn gwybod rhagor am y Dreth Stamp wrth brynu cartref, darllenwch ein canllaw ar bopeth sy’n rhaid i chi ei wybod am Dreth Stamp.

Heblaw am drafodiadau masnachol, gallai Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) fod yn ddyledus os:

  • yw’r eiddo cyfan neu ran ohono’n cael ei drosglwyddo i chi, a
  • bod gwerth beth sy’n cael ei drosglwyddo dros y trothwy SDLT.

Hyd 30 Mehefin 2021, band cyfradd dim SDLT yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yw £500,000.

O 1 Gorffennaf i 30 Medi 2021, y band cyfradd dim SDLT yw £250,000, ac o 1 Hydref 2021, mae’n £125,000.

Mae faint o SDLT rydych chi’n ei thalu yn dibynnu ar beth sy’n cael alw’n ystyriaeth daladwy.

Yr ystyriaeth daladwy yw’r pris a delir am yr eiddo. Roedd hyn fel arfer yn cynnwys taliad arian parod, gan gymryd atebolrwydd dros y cyfan neu ran o’r forgais sy’n weddill neu gyfuniad o’r ddau.

Fodd bynnag, mae’n gallu cynnwys unrhyw beth o werth ariannol, fel cynnig i dalu ffïoedd cyfreithiol neu drosglwyddo asedau eraill, fel tir neu eiddo arall, fel rhan o’r cytundeb.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o pryd gallai neu na allai SDLT fod yn ddyledus wrth drosglwyddo tir neu eiddo yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Pan fydd Treth Stamp yn daladwy

Pwysig

Ers 1 Mawrth 2019, mae gennych chi 14 diwrnod i gyflwyno adroddiad Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT), ac i dalu unrhyw SDLT sy’n ddyledus (Mae hyn wedi cael ei ostwng o 30 diwrnod).

Gallai Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) fod yn ddyledus os yw’r ystyriaeth daladwy dros y trothwy £500,000.

Ar gyfer eich prif eiddo, mae SDLT yn cael ei godi ar 5% o beth sydd rhwng £500,001 a £925,000 a 10% rhwng £925,001 ac £1.5 miliwn a 12% ar unrhyw beth uwchben £1.5 miliwn.

Os yw hyn yn ail eiddo, , yna byddwch chi’n talu 3% ychwanegol ar yr holl fandiau perthnasol os yw’n werth mwy na £40,000.

O 1 Gorffennaf 2021, mae’r trothwy SDLT yn gostwng i £250,000, ac o 1 Hydref 2021 mae’n gostwng i £125,000.

Dysgwch fwy am y newidiadau i’r trothwyau Treth Stamp.

Os bydd angen i chi dalu SDLT, yna bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth SDLT.

Dysgwch fwy am gyflwyno’ch ffurflen dreth SDLT ar-lein yn Gov.uk.

Trosglwyddo’r morgais sy’n weddill

Pwysig

Dim ond pan nad oes cytundeb cyfreithiol neu orchymyn llys mae hyn yn berthnasol, fel ysgariad, diddymiad, gwahanu cyfreithiol neu ddirymiad.

Efallai y bydd cyd-berchnogion yn cytuno i drosglwyddo perchnogaeth eiddo sydd ganddynt i un ohonynt yn unig. Er enghraifft, pâr dibriod sy’n gwahanu.

Os ydych yn cymryd perchnogaeth lwyr bydd angen i chi dalu SDLT ar gyfanswm yr ystyriaeth daladwy.

Er enghraifft, rhoddwyd gwerth o £400,000 ar dŷ, gyda £100,000 yn weddill ar y morgais a £300,00 mewn ecwiti.

Mae’r sawl sy’n cymryd y berchnogaeth:

  • yn talu £150,000 i’r llall am hanner arall y £300,000 o ecwiti yn yr eiddo a
  • daw’n gyfrifol am hanner arall y morgais sy’n weddill, sef £50,000.

Mae hyn yn creu ystyriaeth daladwy o £200,000.

Dan yr amgylchiadau hyn, a gan dybio nad ail eiddo ydyw, ni fyddwch yn talu dim SDLT a ni fydd angen i chi gyflwyno ffurflen SDLT.

Pan fo unigolyn wedi cymryd perchnogaeth o ecwiti mewn eiddo sydd â morgais, yna dim ond os yw’r ystyriaeth y codir tâl arno yn uwch na’r trothwy cyfredol o £500,000 y bydd treth stamp yn daladwy.

Bydd angen i chi hysbysu HMRC hefyd drwy gwblhau ffurflen dreth SDLT.

Mae’r trosglwyddiad dros y trothwy

Mae perchennog eiddo sy’n werth £500,000, gyda morgais yn weddill o £400,000, yn priodi.

Mae’n trosglwyddo hanner yr eiddo i’w bartner, sy’n cymryd cyfrifoldeb am hanner y morgais.

Mae gan yr unigolyn sy’n derbyn y trosglwyddiad ystyriaeth daladwy o £200,000, ond ni fyddant yn talu SDLT (gan dybio mai hwn yw ei hunig eiddo).

Os oes rhaniad anghyfartal

Os bydd cyd-berchnogion yn rhannu eiddo’n anghyfartal a bod y sawl sydd â’r gyfran fwyaf yn digolledu’r llall, gallai’r iawndal hwnnw fod yn destun SDLT os yw’n uwch na’r trothwy £500,000.

Er enghraifft, rhennir tŷ deulawr yn ddwy fflat, ond mae gan y fflat ar y llawr gwaelod, a dim ond y fflat honno, fynediad i’r ardd. Yn sgil hynny, mae’r fflat llawr gwaelod yn werth mwy o arian ac mae perchennog rhan hon o’r eiddo’n digolledu’r llall yn ariannol.

Os yw’r iawndal yn uwch na £125,000 bydd yn rhaid i’r sawl sy’n cael ei ddigolledu dalu SDLT ar y swm sydd dros y trothwy a chyflwyno ffurflen dreth SDLT.

Fodd bynnag, os bydd y perchennog yn penderfynu peidio â digolledu’r llall, neu caiff ei roi fel rhodd, nid oes ystyriaeth na SDLT i’w dalu.

Trosglwyddo tir neu eiddo i gwmni ac oddi wrtho

Pan gaiff eiddo ei drosglwyddo i gwmni, gallai SDLT fod yn daladwy ar ei werth ar y farchnad yn hytrach na’r ystyriaeth a roddir.

Er enghraifft, os oes gan eiddo werth ar y farchnad o £600,000 ond bod y cwmni ond yn talu ystyriaeth o £300,000, bydd yr SDLT yn daladwy ar £600,000.

Mae hyn yn berthnasol i’r sefyllfaoedd canlynol:

  • Mae’r unigolyn sy’n trosglwyddo’r eiddo yn ‘gysylltiedig’ â’r cwmni - mae’r diffiniad o unigolion cysylltiedig yn cynnwys perthnasau a phobl sydd ynghlwm â’r cwmni mewn rhyw ffordd.
  • Mae’r cwmni’n talu am yr eiddo gyda chyfranddaliadau yn y cwmni (yn rhannol neu’n llawn) i’r unigolyn sy’n gwneud y trosglwyddiad, gyda’r unigolyn hwnnw’n gysylltiedig â’r cwmni (ond nid y cwmni sy’n caffael o reidrwydd).

Pan na fydd Treth Stamp yn daladwy

Dan amryw o amgylchiadau, gellir trosglwyddo rhan neu’r cyfan o eiddo heb orfod talu Treth Stamp, er enghraifft os yw’r swm a drosglwyddir yn is na’r trothwy Treth Dir y Doll Stamp (SDLT) o £500,000.

Er enghraifft, mae eiddo’n werth £200,00, gydag ecwiti o £100,000 a morgais sy’n weddill o £100,000. Mae’r perchennog yn trosglwyddo hanner yr eiddo ac fe dalwch chi £50,000 mewn arian parod am yr ecwiti ac yn cymryd cyfrifoldeb am hanner gweddill y morgais.

Byddai hyn yn rhoi ystyriaeth daladwy o £100,000, sydd yn is na’r trothwy SDLT o £125,000.

Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi hysbysu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) serch hynny a chwblhau ffurflen dreth Treth Dir y Doll Stamp (SDLT).

Os mai rhodd yw’r trosglwyddiad

Os mai rhodd yw’r trosglwyddiad ac nid oes ystyriaeth, nid yw SDLT yn berthnasol gan amlaf.

Mae rhodd yn wahanol i drosglwyddiad gan nad oes trosglwyddiad o werth ariannol. Golyga hyn nad yw’r unigolyn sy’n cael yr eiddo’n talu unrhyw arian parod am ei gyfran, nid yw’n cymryd cyfrifoldeb am y morgais ac nid yw’n cynnig unrhyw ased yn gyfnewid, felly nid oes ystyriaeth daladwy.

Er enghraifft, mae perchennog tŷ yn priodi, yn cael partneriaeth sifil neu’n symud i mewn gyda’i bartner ac yn penderfynu trosglwyddo hanner yr eiddo i’w bartner. Os nad yw’r partner yn talu unrhyw beth mewn arian parod am hyn ac nid yw’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw forgais sy’n weddill, yna ystyrir hynny’n rhodd ac nid yw’n destun SDLT.

Dysgwch fwy am drosglwyddo eiddo fel rhodd ymaopens in new window.

Os etifeddwch yr eiddo mewn ewyllys

Os byddwch chi’n etifeddu tir neu eiddo dan delerau ewyllys, nid oes angen hysbysu HMRC ac ni fyddwch yn talu SDLT. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch chi’n ysgwyddo morgais sy’n weddill ar yr eiddo ar y dyddiad y bu farw’r person.

Os byddwch yn trosglwyddo eiddo yn sgil ysgariad, gwahanu neu ddiweddu partneriaeth sifil

Nid oes angen i chi dalu SDLT os ydych yn trosglwyddo budd mewn tir neu eiddo i’ch partner fel rhan o gytundeb neu orchymyn llys yn sgil un ai:

  • ysgariad
  • diddymu partneriaeth sifil

Mae hyn yn berthnasol hefyd os yw’r partneriaid un ai:

  • yn dirymu eu priodas
  • yn gwahanu’n gyfreithiol

Yn yr achosion hyn, nid oes angen hysbysu HMRC ynglŷn â’r trosglwyddiad, hyd yn oed os yw’r gwerth yn uwch na’r trothwy SDLT.

Os bydd cyd-berchnogion yn ddibriod ac nid mewn partneriaeth sifil pan fyddant yn trosglwyddo budd mewn tir neu eiddo o un cyd-berchennog i’r llall, efallai y bydd angen i chi dalu SDLT.

Os ydych yn rhannu eiddo sydd â chyd-berchnogaeth

Ceir sefyllfa fwy cymhleth os yw dau neu fwy o bobl yn cyd-berchnogion ar eiddo, un ai fel cyd-denantiaid neu denantiaid cydradd.

Os caiff yr eiddo ei rannu’n ffisegol (yn ddau gartref cwbl ar wahân) ac yn gyfartal (rhwng y cyd-berchnogion), yna ni fydd unrhyw Dreth Stamp yn daladwy.

Os na fydd yr eiddo’n cael ei rannu’n gyfartal rhwng y cyd-berchnogion, fe allech orfod talu SDLT.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?