Beth yw tynnu incwm i lawr?
Mae tynnu pensiwn i lawr yn ffordd o ddefnyddio’ch cronfa bensiwn i roi incwm ymddeol rheolaidd i chi drwy ei ailfuddsoddi mewn cronfeydd a ddylunir ac a reolir yn bwrpasol ar gyfer hynny. Bydd yr incwm a gewch yn amrywio’n sylweddol yn seiliedig ar berfformiad y gronfa. Nid yw’n warantedig am oes.
Sut mae tynnu pensiwn i lawr yn gweithio
Fel arfer gallwch ddewis cymryd hyd at 25% (chwarter) o’ch cronfa bensiwn fel un cyfandaliad di-dreth. Gall rhai pensiynau eich galluogi i gymryd mwy na 25% felly mae’n werth gwirio gyda’ch darparwr pensiwn.
Yna rydych yn symud y gweddill i mewn i un neu ragor o gronfeydd sydd â Chynnyrch Incwm Hyblyg sy’n eich galluogi i gymryd incwm ar adegau sy’n gyfleus i chi.
Mae rhai pobl yn ei ddefnyddio i gymryd incwm rheolaidd.
Gall yr incwm a gewch gael ei addasu’n achlysurol yn ddibynnol ar berfformiad eich buddsoddiadau.
Mae dau brif fath o gynnyrch tynnu incwm i lawr:
-
tynnu pensiwn i lawr – a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2015, lle nad oes cyfyngiad ar faint o incwm allwch chi ddewis ei gymryd o’ch cronfeydd a dynnir i lawr.
-
tynnu i lawr a gapiwyd – ar gael cyn 6 Ebrill 2015 yn unig ac mae cyfyngiadau ar yr incwm allwch chi ei gymryd; os ydych eisoes yn y cynllun hwn mae yna reolau newydd ynglŷn â gostyngiad treth ar gynilion pensiwn os ewch i y tu hwnt i’ch cap incwm
Tynnu pensiwn i lawr – dysgwch ragor
Darllenwch ein canllaw isod i gael gwybod:
- sut mae tynnu pensiwn i lawr yn gweithio
- yr hyn ddylech chi ei ystyried wrth benderfynu beth sydd orau ar eich cyfer chi – yn cynnwys y goblygiadau treth a’r effaith ar ostyngiad treth ar gynilion pensiwn i’r dyfodol unwaith y byddwch yn dechrau cymryd incwm
- ble allwch chi gael cymorth neu gyngor i chi fedru penderfynu beth sydd orau ar eich cyfer chi.
Tynnu i lawr a gapiwyd – rheolau am ostyngiad mewn treth gyda phensiwn
Os ydych chi eisoes wedi symud rhan neu’r cyfan o’ch cronfa bensiwn i mewn i gynllun tynnu i lawr a gapiwyd, darllenwch ein canllaw isod i ddeall y rheolau newydd o fis Ebrill 2015 sy’n lleihau faint o ostyngiad treth a gewch ar gynilion pensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio os ewch dros eich cap incwm.
Os ewch dros eich cap bydd y rheolau ar gyfer tynnu pensiwn i lawr yn berthnasol o hynny ymlaen.
Darllenwch ein canllaw ar Dynnu i lawr a gapiwyd.
Mae penderfynu ai tynnu pensiwn i lawr yw’r opsiwn gorau i chi yn fater cymhleth. Argymhellwn i chi gael cyngor ariannol cyn ymrwymo i hyn.
Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr ariannol cofrestredig yr FCA sy’n arbenigo mewn cynllunio ar gyfer ymddeoliad yn ein
Cyfeirlyfr cynghorydd ymddeoliad sy’n agor mewn ffenestr newydd.
Eich dewisiadau incwm ymddeol eraill
Un o nifer o opsiynau sydd ar gael i chi yw tynnu pensiwn i lawr ar gyfer cymryd eich pensiwn.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?