Y ceir diogelaf i’w gyrru

Nid yw’n syfrdanol bod diogelwch yn bryder mawr i’r mwyafrif o brynwyr ceir. Yma rydym yn dangos pa geir oedd y gorau yn y dosbarth ym mhrofion diogelwch Euro NCAP 2018. Hefyd gallwch wirio a yw’r car rydych yn ei ystyried yn darparu’r lefel uchaf o ddiogelwch graddiad pum seren Euro NCAP.

Ymchwilio i ddiogelwch ceir

Mae diogelwch ceir wedi gwella mewn ffordd ddramatig dros y blynyddoedd, ond mae’n dal yn ystyriaeth bwysig wrth brynu car newydd neu gar ail-law.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob model newydd o gar basio profion penodol ynghylch diogelwch yn seiliedig ar safon statudol isaf o ddiogelwch. Mae Euro NCAP yn anelu at annog gweithgynhyrchwyr i ragori ar y gofynion lleiaf hyn.

Mae’n profi’r mwyafrif o geir newydd, gan ystyried diogelwch ar gyfer oedolion a phlant, cerddwyr, cymorth diogelu ac ystod o ffactorau diogelwch eraill.

Bob blwyddyn, mae Euro NCAP yn amlygu’r modelau sydd wedi cyflawni’r sgorau uchaf yn eu dosbarth priodol.

Ceir gorau yn eu dosbarth ym mhrofion diogelwch Euro NCAP 2018

Pob blwyddyn, mae Euro NCAP yn profi nifer fawr o gerbydau ar draws amrywiaeth o gategorïau.

Y ceir teulu mwyaf diogel yn 2018 oedd:

  • Peugeot 508 – Car mawr i deulu
  • Mercedes-Benz A-Class – Car bach i deulu
  • Audi Q3 – Car bach oddi ar y ffordd.

Mae ceir eraill a dderbyniodd raddiad diogelwch pum seren yn cynnwys:

  • Lexus ES
  • Volvo XC40
  • Audi A6
  • Volvo S60
  • Mazda 6
  • Hyundai NEXO
  • Hyundai Santa Fe
  • VW Touareg
  • Jaguar I-PACE
  • BMW X5
  • Nissan LEAF
  • Ford Focus

Gwiriwch y canlyniadau diogelwch ar gyfer eich car chi ar wefan Euro NCAPopens in new window.

Eich cam nesaf

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?