Y ffyrdd gorau i dalu biliau
Mae talu eich biliau yn brydlon yn sgil heriol ond hanfodol serch hynny i’w dysgu. Os na wnewch chi hynny, gallech wynebu ôl-ddyledion, gan effeithio ar eich statws credyd a hyd yn oed eich hatal rhag prynu cartref. Cymerwn olwg ar y ffyrdd gorau i dalu biliau a rhoi awgrymiadau ar beth i’w wneud os byddwch yn ei chael hi’n anodd i dalu’n brydlon.
Sut i dalu biliau yn brydlon
Gall fod yn anodd rheoli biliau, yn enwedig os ydynt yn dechrau cynyddu mewn nifer. Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau i roi cymorth i chi gadw rheolaeth ar eich arian.
-
Byddwch yn drefnus. Cadwch eich ffeiliau mewn ffolder bwrpasol. Os yw’ch biliau yn rhai digidol, rhowch nhw mewn ffeil ar eich cyfrifiadur. Cadwch lygad ar ba bryd y dylid eu talu.
-
Dewiswch gyfnod ad-dalu sy’n addas i chi. Debyd uniongyrchol yw’r dull rhataf a’r hawsaf gan amlaf i dalu biliau, ond mae yna opsiynau eraill. Cewch wybod mwy isod.
-
Gwiriwch eich biliau’n rheolaidd. Golyga hyn y byddwch yn sylwi ar unrhyw gamgymeriadau ac a fydd eich biliau yn cynyddu neu yn gostwng. Dewiswch ddyddiad bob mis a defnyddiwch galendr neu ap i sicrhau nad ydych yn anghofio. Gallwch wirio taliadau ar eich cyfriflenni banc.
-
Peidiwch â gadael i filiau eich trechu. Os ydych yn cael anhawster i dalu’ch biliau, peidiwch ag anwybyddu’r broblem, oherwydd byddai hynny’n gwaethygu’r sefyllfa. Darllenwch ragor isod am sut i ddelio â’ch ôl-ddyledion.
-
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n talu gormod. Darllenwch ein canllaw ar Sut i arbed arian ar filiau cartref, i dynnu cannoedd o bunnoedd oddi ar eich biliau.
Ffyrdd o dalu’ch biliau
?
Ceisiwch sefydlu cyfrif banc ar wahân ar gyfer eich biliau a throsglwyddo’r swm angenrheidiol iddo unwaith y cewch eich talu.
Debyd Uniongyrchol
Wrth dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol telir eich biliau’n brydlon, i sicrhau eich bod yn osgoi costau talu’n hwyr. Mae rhai cwmniau yn cynnig gostyngiadau i gwsmeriaid sy’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Talwch ar-lein neu drwy fancio dros y ffôn
Os ydych yn bancio ar-lein neu dros y ffôn gallwch dalu’ch biliau’n uniongyrchol. Mae’n sydyn ac yn hawdd a chi sy’n rheoli yn union faint i’w dalu a pha bryd. Ond mae’n rhaid i chi gofio talu’ch biliau’n brydlon.
Dulliau eraill o dalu
-
Trwy’r post – gallwch yn aml anfon siec am gyfanswm y bil i’r cyfeiriad a roddir gan y busnes. Cofiwch y gall gymryd hyd at bum diwrnod iddyn nhw brosesu’r siec a derbyn yr arian o’ch cyfrif.
-
Swyddfa’r Post – yn aml gallwch dalu bil gydag arian parod neu gerdyn yn Swyddfa’r Post. Weithiau bydd ffi am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
-
Mesurydd rhagdaledig – gellir talu am nwy a thrydan ymlaen llaw drwy ychwanegu arian at allwedd neu gerdyn a roddir yn eich mesurydd nwy neu drydan. Dyma un o’r ffyrdd mwyaf costus i dalu am ynni pan redwch allan o gredyd a phan fyddwch allan o gredyd byddwch allan o ynni.
A yw’ch biliau yn dechrau creu anawsterau i chi?
Os ydych yn cael anhawster talu eich biliau, siaradwch â’r bobl y mae arnoch arian iddynt cyn gynted â phosibl. Gallant gytuno i chi wneud taliadau llai hyd nes i’ch sefyllfa ariannol wella. Mae llawer o sefydliadau sy’n cynnig cyngor am ddim ar ddyledion sy’n gallu helpu.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?