Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Daeth 1.5 miliwn yn rhagor o bobl yn hunangyflogedig rhwng 2001 a 2017 a bellach mae tua un o bob chwech o bobl yn ennill eu bywoliaeth drwy wneud hynny. Os ydych yn ystyried mynd amdani, cofiwch y gall godi ofn ar sawl un. Mae angen i chi ystyried strwythur eich busnes, cyllidebu a thalu eich treth eich hun. Yn y canllaw hwn gallwch ddarganfod beth yw manteision ac anfanteision gweithio i chi eich hun, sut i gadw cofnodion cywir a pha help sydd ar gael os dewiswch fynd yn hunangyflogedig.

Beth i’w ystyried wrth ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Tip blaen

Y gyfrinach i weithio i chi eich hun neu gychwyn busnes llwyddiannus yw cynllunio, cynllunio eto a chynllunio eto fyth.

Gall gweithio i chi eich hun roi llawer o foddhad i chi:

  • Gwnewch rywbeth sydd o ddiddordeb i chi neu’n teimlo’n angerddol yn ei gylch.
  • Dewiswch eich oriau gweithio.
  • Gallwch weithio oriau sy’n rhoi mwy o amser i chi ymrwymo i bethau eraill, fel amser gyda’ch plant.
  • Cewch fwy o reolaeth dros eich incwm.

Ond mae yna rai anfanteision hefyd:

  • Gweithio oriau hir ac ar benwythnosau.
  • Delio ag incwm afreolaidd.
  • Gorfod gwneud eich gwaith cyfrifo a’ch ffurflenni treth eich hun.
Prin neu ddim buddion cyflogaeth fel gwyliau â thâl.

Mae’r HMRC wedi creu Canllaw rhyngweithiol hawdd ei ddefnyddio i unrhyw un sy’n dymuno cychwyn busnes newydd yn y DU.

Dysgwch fwy am sefydlu’ch busnes eich hun a mynd yn hunangyflogedig ar Gov.uk.

Pa help sydd ar gael os byddwch yn mynd yn hunangyflogedig

Wrth lwc, pan fyddwch yn dechrau’ch busnes eich hun, mae digon o gymorth a chyngor ar gael.

Bydd gwasanaethau cynghori sy’n cael cymorth y llywodraeth ledled y DU yn eich helpu gydag unrhyw beth o greu cynllun busnes ac ymchwilio i’r farchnad, i ddod o hyd i gyllid a recriwtio staff.

Felly, gan ddibynnu ble rydych chi’n byw, y rheini ddylai fod eich man cychwyn.

Gwahanol fathau o fusnesau hunangyflogedig

Os ydych yn ystyried cychwyn eich busnes eich hun neu fynd yn hunangyflogedig, un o’r pethau cyntaf y bydd angen i chi ei ystyried fydd strwythur eich busnes.

Unig fasnachwr

Dyma’r strwythur busnes symlaf. Chi sy’n rhedeg eich busnes eich hun ac yn cadw unrhyw elw ar ôl talu treth.

Fodd bynnag, ni ystyrir fod eich asedau personol ac asedau busnes yn cael eu cadw ar wahân. Golyga hyn eich bod yn gyfrifol yn bersonol am unrhyw ddyledion sy’n gysylltiedig â’ch busnes. Gallwch leddfu’r broblem hon drwy yswiriant, neu drwy ddewis un o’r strwythurau busnes eraill a drafodir isod.

Fodd bynnag, peidiwch â chilio oddi wrth y syniad o fod yn fusnes. Unig fasnachwr yw hynny’n union – un person, sef chi, yn gweithio iddo’i hun. Nid oes angen i chi fod yn berchennog siop. Gallech fod yn yrrwr tacsi neu’n rhywun sy’n trin gwallt. Y term swyddogol yn unig yw bod yn fusnes.

I ddod yn unig fasnachwr, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru fel rhywun hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Dysgwch fwy am sefydlu eich hun fel unig fasnachwr ar wefan Gov.uk.

Partneriaeth

Fel yr awgryma’r enw, partneriaeth yw pan ewch i mewn i fusnes gydag un neu ragor o bobl, gyda’r cyfrifoldeb am y busnes hwnnw wedi’i rannu rhyngoch.

Mae’n bwysig i chi lunio cytundeb partneriaeth, er mwyn i bawb sydd ynghlwm wybod sut y rhennir yr elw.

Ymdrinnir â dyledion busnes dan yr hyn a elwir yn Atebolrwydd Cyd ac Unigol. Golyga hyn bod pob aelod o’r bartneriaeth yn gyfrifol am y dyledion, ar y cyd, neu fel unigolion, yn ddibynnol ar faint all bob un ohonynt ei fforddio.

Bydd pob partner yn gorfod cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer eu cyfran bersonol nhw o’r elw a bydd partner a enwebwyd yn gorfod cyflwyno ffurflen dreth bartneriaeth ar ran y busnes.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sefydlu partneriaeth ar wefan Gov.uk.

Cwmni cyfyngedig preifat (Cyf)

Mae cwmni cyfyngedig preifat (Cyf), yn endid cyfreithiol unigol ac yn bodoli hollol ar wahan i’r bobl sydd yn berchen arno ac yn ei redeg. Rhaid cofrestru’r cwmni (neu ei ymgorffori) gyda Thŷ’r Cwmnïau, fod ag enw addas a chyfeiriad.

Bydd gan y cwmni gyfarwyddwr (sef fel arfer yr unigolyn a sefydlodd y busnes), sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am redeg y cwmni ac o leiaf un cyfranddaliwr (a elwir hefyd yn aelod).

Bydd cwmni Cyf yn gorfod talu treth gorfforaeth ar unrhyw elw a rhennir unrhyw elw ar ôl treth rhwng y cyfranddeiliaid.

Bydd angen i’r cwmni gyflwyno ei gyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau a’i ffurflen dreth i HMRC. Bydd y cyfarwyddwr angen cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad hefyd, ond bydd yn talu treth ar yr arian a enillodd drwy redeg y busnes yn unig, nid ar yr elw.

Dysgwch fwy am sefydlu cwmni cyfyngedig preifat ar Gov.uk.
Er mai’r rhain yw’r hawsaf i’w sefydlu a’u deall, mae opsiynau eraill ar gael hefyd.

Partneriaeth gyfyngedig

Rhaid i bartneriaeth gyfyngedig gael o leiaf un partner cyffredinol ac un partner cyfyngedig. Y partner cyffredinol sy’n gyfrifol am redeg y busnes ynghyd â dyledion y bartneriaeth. Mae’r partner cyfyngedig yn atebol yn unig am y swm a fuddsoddodd ef neu hi yn y busnes yn wreiddiol.

Dysgwch fwy am bartneriaethau cyfyngedig ar wefan Gov.uk.

Partneriaethau ag atebolrwydd cyfyngedig (LLP)

Mae LLPs yn gyfuniad o bartneriaeth a chwmni cyfyngedig. Fel partneriaeth, gall un neu ragor o bobl ei sefydlu, ond fel Cyf, rhaid ei hymgorffori gyda Thŷ’r Cwmnïau, rhoi enw addas a chyfeiriad iddi a rhaid iddi fod yn endid cyfreithiol ar wahan o’r unigolion sy’n ei rhedeg.

Rhaid iddi hefyd gael o leiaf dau gyfranddaliwr (neu aelodau) ac mae pob cyfranddaliwr yn talu treth ar ei gyfran o’r elw. Cyfyngir atebolrwydd y partneriaid dros ddyledion y busnes i’r swm a fuddsoddwyd ganddynt.

Dysgwch fwy am Bartneriaethau ag Atebolrwydd Cyfyngedig.

Ydych chi’n ystyried prynu masnachfraint?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynd yn hunangyflogedig neu gychwyn eich busnes eich hun, ond ddim yn dymuno cychwyn o’r gwaelod, gallai masnachfraint fod yn rhywbeth i’w ystyried.

Ystyr masnachfreinio yw prynu trwydded gan berchennog busnes i ddefnyddio syniad busnes ac enw brand sy’n bodoli eisoes. Mae rhai o’r masnachfreintiau adnabyddus yn cynnwys allfeydd bwyd cadwyn McDonalds, Burger King a KFC, ond mae miloedd o gyfleoedd masnachfraint eraill ar gael gan enwau sy’n adnabyddus yn fyd-eang a gan sefydliadau lleol.

Gall y costau sefydlu fod braidd yn ddrud, ond byddwch yn prynu i mewn i frand sefydledig a dylai’r trefniant gynnwys hyfforddiant a chanllawiau i sefydlu, cynnal a thyfu eich masnachfraint.

Ond gwyliwch rhag sgamiau. Sicrhewch fod y brand yn un sefydledig a bod y masnachfreiniwr wrthi’n marchnata’r brand yn bwrpasol.

I gael gwybod rhagor am fasnachfreinio, trowch at wefan Cymdeithas Masnachfreinio Prydain.

Mae rhagor o wybodaeth am brynu masnachfraint ar wefan NI Business Info.

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud wrth gychwyn busnes a mynd yn hunangyflogedig

Pan fyddwch chi’n ystyried mynd yn hunangyflogedig neu sefydlu busnes, bydd llawer o bethau y bydd angen i chi eu hystyried. Nid rhestr gyflawn yw hon, ond mae’n cynnwys rhai o’r prif elfennau y dylech eu hystyried.

Mae rhagor o wybodaeth am sefydlu’ch busnes eich hun ar Gov.uk.

Lluniwch gyllideb

Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll mae’n debyg, lluniwch gyllideb. Bydd angen i chi feddwl am yr holl gostau fydd eu hangen i sefydlu’ch busnes ac i gychwyn arni. Gallai’r costau hynny gynnwys:

  • rhentu adeilad busnes neu flaen siop a’r costau ynghlwm â hynny gan gynnwys trydan a chysylltiad i’r rhyngrwyd.
  • prynu neu hurio cerbyd(au) a chost tanwydd a chynnal a chadw
  • offer gan gynnwys celfi, cyfrifiaduron a ffonau
  • sefydlu a chynnal gwefan
  • hysbysebu and deunyddiau marchnata
  • staff.

Ond cofiwch, efallai na fydd angen y cyfan o’r rhain arnoch. Gydag amryw o fusnesau llwyddiannus, nid oes angen adeilad pwrpasol arnynt, efallai bod llawer o’r offer angenrheidiol gennych yn barod ac efallai na fydd angen staff arnoch hyd nes i’r busnes sefydlu rhyw gymaint.

Fodd bynnag, bydd angen i chi hefyd ystyried eich costau personol fel rhent, morgais, biliau cyfleustodau, gofal plant a bwyd.

Yna bydd angen i chi ystyried faint o’ch arian eich hun allwch chi fforddio ei fuddsoddi er mwyn canfod a fydd angen i chi chwilio am fuddsoddiad neu fenthyciad busnes.

Dysgwch fwy am sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd.

Cynllun Busnes

Mae dau brif reswm dros ysgrifennu cynllun busnes:

  1. Am resymau busnes, er mwyn i chi fedru amlinellu’ch amcanion, datblygu syniadau a chynllunio ar gyfer y tymor byr a’r hirdymor.
  2. I’w gyflwyno i bobl y tu hwnt i’ch busnes, i fanciau a buddsoddwyr arfaethedig fel arfer, os ydych yn dymuno codi arian.

Waeth pwy yw eich cynulleidfa wrth gyflwyno’r cynllun, mae’n bwysig bod yn realistig ynglŷn â’ch costau a’ch gobeithion o ran incwm.

Os caiff ei ddarllen gan bobl y tu hwnt i’ch busnes, gwnewch yn siŵr ei fod yn edrych yn broffesiynol, wedi ei strwythuro’n dda ac yn cynnwys yr holl wybodaeth y byddai pobl yn disgwyl ei gweld.

Dysgwch fwy am gynllunio busnes a sut i ysgrifennu cynllun busnes ar Gov.uk.

Talu trethi

Os ydych yn ystyried sefydlu’ch busnes eich hun, bydd angen i chi hefyd gofrestru ar gyfer Hunanasesiad i dalu’ch trethi eich hunan.

Byddwch yn talu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich enillion hunangyflogedig fel ôl-daliadau. Golyga hyn na fydd unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych ar arian a enillwyd yn y flwyddyn dreth 2018/19 yn daladwy tan fis Ionawr 2020.

Golyga hyn y bydd angen i chi gynllunio sut fyddwch chi’n talu bil a allai fod yn swm sylweddol. Y newyddion da yw y bydd gennych chi argraff dda o faint o dreth fydd yn ddyledus gennych ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol, sy’n rhoi naw mis i chi baratoi.

Dysgwch fwy am gofrestru fel rhywun hunangyflogedig a chyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad.

Dysgwch fwy am dalu treth ac Yswiriant Gwladol fel rhywun hunangyflogedig.
Os ydych yn sefydlu cwmni preifat cyfyngedig (Cyf) neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP), bydd angen i chi dalu treth gorfforaeth hefyd ar elw eich busnes.

Dysgwch fwy am gofrestru ar gyfer treth gorfforaeth a’i thalu ar Gov.uk.

Cofrestru ar gyfer TAW

Os oes gan eich busnes drosiant trethadwy o £85,000 neu ragor, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW. Fodd bynnag, gallai fod o fudd i rai busnesau gofrestru hyd yn oed os yw eu trosiant yn is na hyn.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi godi TAW ar y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir gennych. Bydd angen i chi gwblhau llawer o waith papur ychwanegol hefyd.

Fodd bynnag, gallwch hawlio’r TAW a dalwch am nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’ch busnes, yn ôl.

Dysgwch fwy am gofrestru ar gyfer TAW ar wefan Gov.uk.

Gallwch ddysgu mwy hefyd am gofrestru ar gyfer TAW yn y canllaw rhyngweithiol hwn gan HMRC.

Cadw cofnodion

A wyddech chi

Os yw’ch trosiant blynyddol cyfunol yn llai na £150,000 y flwyddyn, gallwch ddefnyddio fersiwn symlach o dreuliau, sef ar sail arian parod.

Os na fuoch chi erioed yn hunangyflogedig o’r blaen, un peth y bydd yn rhaid i chi ddysgu ei wneud yn fuan iawn yw cadw cofnodion.

Bydd angen i chi gadw cofnod o’r hyn a godwch ar eich cleientiaid am nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal ag unrhyw dreuliau sy’n gysylltiedig â’r busnes.

Y math o gofnodion sy’n dderbyniol yw derbynebau, cyfriflenni banc, anfonebau a rholiau til.

Ni fydd angen i chi anfon eich cofnodion wrth gyflwyno ffurflen dreth, ond bydd angen i chi eu cadw am bum mlynedd ar ôl dyddiad cau dychwelyd y ffurflen dreth berthnasol. Er enghraifft, ar gyfer eich ffurflen dreth 2017/18, bydd angen i chi gadw’ch cofnodion tan 31 Ionawr 2023.

Dysgwch fwy am gadw cofnodion fel rhywun hunangyflogedig ar Gov.uk.

Dysgwch fwy am dreuliau derbyniol fel rhywun hunangyflogedig ar Gov.uk.

Cyfrifo traddodiadol vs arian parod

Os oes gennych chi drosiant blynyddol cyfunol o lai na £150,000 a’ch bod yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth, gallwch ddefnyddio cyfrifo ar sail arian parod yn hytrach na chyfrifo traddodiadol.

Gyda chyfrifo traddodiadol rydych yn talu treth a hawlio treuliau’n seiliedig ar yr anfoneb neu’r dyddiad bilio.

Os dewiswch gyfrifo ar sail arian parod, rydych yn talu treth a hawlio treuliau yn unol â pha bryd mae’r arian yn gadael neu’n mynd i mewn i’ch cyfrif.

Pam fod hyn o bwys? Wel, os ydych yn cael eich talu am waith yn fisol, yna mae’n debyg nad yw’n gwneud llawer o wahaniaeth. Ond, os cytunwch i anfonebu rhywun am waith rai misoedd cyn i chi gael eich talu yna gall hynny newid y flwyddyn y talwch dreth ar yr incwm hwnnw.

Er enghraifft, os defnyddiwch gyfrifo traddodiadol ac anfonebu rhywun ym mis Mawrth 2018, ond ni chewch eich talu tan fis Gorffennaf 2018, rhaid i chi ddatgan yr incwm hwn ar eich ffurflen dreth 2017/18 a thalu treth arno erbyn mis Ionawr 2019.

Os defnyddiwch y dull ar sail arian parod, byddai’n rhaid i chi ddatgan yr incwm hwn yn y flwyddyn dreth y cawsoch eich talu, sef 2018/19. Golyga hyn na fyddai’n rhaid i chi dalu treth arno tan fis Ionawr 2020.

Fodd bynnag, mae rhai anfanteision i gyfrifo ar sail arian parod. Er enghraifft, ni allwch wrthbwyso colledion yn erbyn eich incwm trethadwy, na hawlio mwy na £500 mewn costau llog, felly efallai y byddai’n syniad da i chi gael cyngor ynglŷn â beth fyddai orau i chi a’ch busnes.

Dysgwch fwy am gyfrifo ar sail arian parod yn Gov.uk.

A oes angen cyfrifydd arnoch chi?

Mae hwn yn gwestiwn anodd ac nid oes ateb pendant. Os yw’ch busnes yn gwbl newydd ac mae eich sefyllfa ariannol yn un syml, gallech roi cynnig ar reoli’r cyfan eich hunan, am y tro beth bynnag.

Fodd bynnag, gall talu cyfrifydd fod yn gam da gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn medru rhoi cyngor ar gynllunio ar gyfer treth a gwrthbwyso treuliau yn erbyn incwm. Ymhellach, nid yw o reidrwydd yn gostus.

Os ydych yn ystyried talu am gyfrifydd, gwnewch yn siŵr fod ef neu hi wedi cofrestru â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)ac yn aelod o gorff masnachu perthnasol fel y Sefydliad Cyfrifon Ariannol (IFA).

A oes angen cyfrif banc busnes arnaf?

Os ydych yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth, nid oes raid i chi gael cyfrif banc busnes. Fodd bynnag, gallai fod o fudd i chi gadw’ch arian busnes a phersonol ar wahan, yn enwedig os ydych mewn partneriaeth.

Os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig, yna mae angen i chi gael cyfrif banc busnes.

Fel gyda chyfrifon personol, mae amryw o nodweddion gwahanol ynghlwm â chyfrifon banc busnes. Gallwch gymharu gwahanol gyfrifon banc busnes yn:

Meddalwedd gwaith cyfrifo

Os hoffech gael ychydig o help gyda chadw cofnodion a gwaith cyfrifo, yna efallai yr hoffech chi edrych ar rai o’r cyflenwyr meddalwedd masnachol.

Mae rhai cyflenwyr yn medru cyflwyno rhannau o’ch ffurflen dreth yn awtomatig a rhestrir y rhain ar wefan HMRC.

Yswiriant personol a busnes

Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun, mae’n bwysig i chi gael yswiriant.

Byddwch yn sicr angen rhyw fath o yswiriant busnes, fel atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant offer, ond mae ystod eang o gynnyrch ar gael.

Dysgwch fwy am yswiriant busnes fel rhywun hunangyflogedig.
Gan nad oes gennych chi gyflogwr i ddibynnu arno i weithio yn eich lle os ewch yn sâl, neu yswiriant iechyd, efallai yr hoffech chi ystyried polisi yswiriant personol.

Dysgwch fwy am yswiriant personol fel rhywun hunangyflogedig.^

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth

Os buoch allan o waith ac yn hawlio budd-daliadau ers chwe mis o leiaf, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol a mentor busnes.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun Lwfans Menter Newydd, trowch at wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dysgwch am gymorth ymarferol ac ariannol i bobl ifanc (hyd at 30 oed) ar wefan Ymddiriedolaeth y Tywysogopens in new windowsy’n agor mewn ffenestr newydd.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?