Ymddiriedolaethau Uned a Chwmnïau Buddsoddi Penagored (OEICs)

Cronfeydd buddsoddi ar y cyd a reolir gan weithwyr proffesiynol yw Ymddiriedolaethau Uned a Chwmnïau Buddsoddi Penagored. Mae rheolwyr yn cyfuno arian gan lawer o fuddsoddwyr ac yn prynu cyfranddaliadau, bondiau, eiddo neu asedau arian parod a buddsoddiadau eraill. Mae’r canllaw hwn yn cwmpasu OEICs ac ymddiriedolaethau uned mewndraeth, hynny yw a leolir yn y DU.

Pryd y gallai ymddiriedolaeth uned neu OEIC fod yn addas i chi?

Os nad ydych yn deall cynnyrch ariannol, ceisiwch gyngor ariannol annibynnol cyn i chi brynu.

Gallai’r rhain fod yn addas ar eich cyfer chi:

  • os ydych am fuddsoddi mewn cyfranddaliadau, neu asedau eraill ond nid oes gennych yr amser, y diddordeb na’r arbenigedd i wybod pa gyfuniad i’w ddewis
  • os ydych yn deall y gallwch gael llai yn ôl na’r swm a fuddsoddwyd gennych, a’ch bod yn fodlon â hynny
  • os gallwch gynilo o leiaf £25 y mis neu fuddsoddi cyfandaliad o £500

Sut maent yn gweithio

  • Byddwch yn prynu cyfranddaliadau (mewn Cwmni Buddsoddi Penagored) neu unedau (mewn ymddiriedolaeth uned).
  • Bydd rheolwr y gronfa yn cyfuno eich arian chi gydag arian gan fuddsoddwyr eraill ac yn ei ddefnyddio i fuddsoddi yn asedau sylfaenol y gronfa.
  • Bydd pob cronfa yn buddsoddi mewn cyfuniad gwahanol o fuddsoddiadau. Bydd rhai ond yn prynu cyfranddaliadau mewn cwmnïau ym Mhrydain, tra bydd eraill yn buddsoddi mewn bondiau neu mewn cyfranddaliadau cwmnïau tramor, neu fathau eraill o fuddsoddiadau.
  • Rydych yn berchen ar gyfran o’r ymddiriedolaeth uned neu gwmni buddsoddi penagored cyfan - os bydd gwerth yr asedau sylfaenol yn y gronfa yn cynyddu, bydd gwerth eich unedau neu gyfranddaliadau yn cynyddu. Yn yr un modd, os bydd gwerth yr asedau sylfaenol yn gostwng, bydd gwerth eich unedau neu gyfranddaliadau yn gostwng.
  • Bydd maint y gronfa gyffredinol yn cynyddu ac yn lleihau wrth i fuddsoddwyr brynu neu werthu.
  • Mae rhai cronfeydd yn eich galluogi i ddewis rhwng ‘unedau incwm’ neu ‘gyfranddaliadau incwm’, sy’n gwneud taliadau rheolaidd o unrhyw ddifidendau neu log a enillir gan y gronfa, neu ‘unedau cronni’ neu ‘gyfranddaliadau cronni’ a gaiff eu hailfuddsoddi’n awtomatig yn y gronfa.

Darllenwch ragor am gronfeydd ar wefan y Gymdeithas Fuddsoddi.

Risg ac elw

  • Gall gwerth eich buddsoddiadau ostwng yn ogystal â chynyddu ac mae’n bosibl y cewch lai yn ôl na’r swm a fuddsoddwyd gennych.
  • Mae rhai asedau’n peri mwy o risg nag eraill. Ond mae mwy o risg hefyd yn cynnig y potensial i ennill adenillion uwch. Cyn buddsoddi, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall pa fath o asedau y mae’r gronfa yn buddsoddi ynddynt a ph’un a yw hynny’n addas ar gyfer eich nodau buddsoddi, eich sefyllfa ariannol a’ch agwedd at risg.
  • Mae ymddiriedolaethau uned a chwmnïau buddsoddi penagored (OEIC) yn eich helpu i ledaenu eich risg dros nifer o fuddsoddiadau heb orfod gwario llawer o arian. Darllenwch fwy am arallgyfeirio.

Cael gafael ar eich arian

  • Mae’r mwyafrif o ymddiriedolaethau uned ac OEICs yn caniatáu ichi werthu eich cyfranddaliadau neu eich unedau ar unrhyw adeg. Er y bydd rhai cronfeydd ond yn delio ar sylfaen fisol, chwarterol, neu ddwywaith y flwyddyn. Gallai hyn fod yn wir os ydynt yn buddsoddi mewn asedau fel eiddo, a all gymryd mwy o amser i’w werthu.
  • Fodd bynnag, cofiwch fod hyd y cyfnod y dylech fuddsoddi ynddo’n dibynnu ar eich nodau ariannol a’r hyn y mae eich cronfa yn buddsoddi ynddo. Os bydd yn buddsoddi mewn cyfranddaliadau, bondiau neu eiddo, dylech anelu at fuddsoddi am bum mlynedd neu fwy.
  • Gall cronfeydd yn y farchnad arian fod yn addas ar gyfer terfynau amser byrrach.

Taliadau

Pan fyddwch yn buddsoddi mewn cronfa mae nifer o daliadau a chostau y dylech eu hystyried. Mae’r taliadau yma yn bennaf yn talu am gostau rhedeg a rheoli’r gronfa.

Fel arfer bydd y rhain yn cael eu tynnu yn uniongyrchol o’r gronfa. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’ch cronfa berfformio yn ddigon da i roi elw i chi neu bydd gwerth eich buddsoddiad yn is o ganlyniad i’r tâl hwn. Gall taliadau amrywio rhwng cronfeydd neu hyd yn oed rhwng gwahanol ddosbarthiadau o gyfranddaliadau yn yr un gronfa.

Dylech bob amser holi am y taliadau cychwynnol a’r taliadau parhaus a’u cymharu ag opsiynau eraill.

Dyma rai o’r gwahanol ffioedd a thaliadau y gallech eu talu:

  1. Tâl cychwynnol: Mae’r gost o brynu cyfranddaliadau neu unedau newydd yn amrywio ond dylech ddisgwyl i’r gost gychwynnol nodweddiadol fod tua 2%. Er enghraifft, os bydd gennych £100 i’w fuddsoddi a bod y tâl cychwynnol yn 2%, byddwch yn cael cyfranddaliadau gwerth £98.
  2. Dosbarthiad prynu-gwerthu: Mae gan lawer o ymddiriedolaethau brisiau prynu (‘bid’ yn Saesneg) a phrisiau gwerthu (‘offer’ yn Saesneg) ar gyfer eu hunedau. Bydd y pris a gewch os byddwch yn gwerthu ychydig yn is na’r pris y byddwch yn ei dalu os byddwch yn prynu. Mae rhai OEICs (a rhai ymddiriedolaethau uned) yn dyfynnu pris unigol yn unig
  3. Ffigwr taliadau parhaus (TER)/Cymhareb Cyfanswm Costau (OCF): Mae’r ffigwr OCF, a elwid yn y gorffennol yn TER (sydd yn fras yn debyg i’r ffigwr OCF) yn rhoi syniad o gost buddsoddi yng nghronfa rheolwr. Mae’r OCF yn cynnwys y rhan fwyaf o’r ffioedd a’r taliadau a dynnwyd gan y gronfa gan gynnwys y tâl rheoli blynyddol, ffi cofrestru, ffi cadw ac unrhyw gostau dosbarthu. Nid yw’n cynnwys Taliadau Unwaith ac am Byth (e.e. mynediad, ymadael neu newid cronfa), Costau Achlysurol (e.e. ffioedd perfformiad) a Chostau Trafodion Portffolio (costau prynu neu werthu asedau i’r gronfa). Mae’r ffigwr OCF yn cynnig ffordd safonol o fesur costau blynyddol buddsoddi mewn cronfa ac mae’n seiliedig ar dreuliau ariannol y flwyddyn flaenorol.
  4. Tâl Rheoli Blynyddol (AMC): Tâl blynyddol am wasanaethau’r rheolwr. Gall fod yn hyd at 1.5% neu fwy o werth eich cyfranddaliadau, ond gall rhai cronfeydd sy’n buddsoddi ar sail rheolau awtomatig - fel cronfeydd tracio mynegeion - fod â ffioedd rheoli blynyddol llawer is.
  5. Tâl Ymadael neu Adbryniad: Y tâl am werthu cyfranddaliadau neu unedau, a godir fel canran o gyfanswm gwerth y gwerthiant. Nid yw llawer o ymddiriedolaethau uned ac OEICs yn codi ffioedd ymadael.
Darllenwch ein canllaw Deall ffioedd buddsoddi.

Diogel a sicr?

Caiff asedau cronfeydd eu dal yn ddiogel ar eich rhan gan ymddiriedolwr neu adneuwr. Os bydd cwmni buddsoddi awdurdodedig yn mynd yn fethdalwr, caiff eich asedau eu diogelu. Bydd eich buddsoddiad yn parhau yn eiddo i chi a chaiff asedau’r gronfa eu buddsoddi yn yr un ffordd ag o’r blaen.

Os caiff eich arian ei gamreoli – er enghraifft, mae’r rheolwr yn ei fuddsoddi mewn rhywbeth na ddylai’r gronfa fuddsoddi ynddo – yna byddai’n ofynnol i’r cwmni dalu iawndal i chi a buddsoddwyr eraill.

Pe na fyddai ganddo ddigon o arian ac, felly, y byddai ei fusnes yn dod i ben, yna byddai’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn ei gynnwys hyd at £50,000 yr unigolyn os byddai’n methu ar ôl 1 Ion 2010 ond cyn 31 Maw 2019.

Pe bai’r cwmni yn methu ar 1 Ebr 2019 neu ar ôl hynny, yna efallai y byddech yn cael eich cynnwys petai’r cwmni wedi rhoi:

  • cyngor camarweiniol
  • wedi rheoli buddsoddiadau yn wael, neu
  • cam-gynrychioli’r cwmni a roddodd y cyngor cychwynnol i chi sydd wedi methu ar ôl hynny

Wedyn byddech yn cael iawndal hyd at £85,000 i bob unigolyn neu gwmni.

Ni allwch hawlio iawndal yn syml am fod gwerth eich buddsoddiad yn gostwng islaw’r hyn y gwnaethoch ei dalu amdano. Mae pob buddsoddiad yn cynnwys risg.

Ble i brynu ymddiriedolaeth uned neu OEIC

Gallwch brynu ymddiriedolaeth uned neu OEIC:

  • yn uniongyrchol gan gwmni rheoli’r gronfa
  • drwy asiant sy’n gysylltiedig â’r rheolwr
  • drwy lwyfan cronfa ar-lein neu frocer gostyngiad
  • drwy gynghorydd ariannol annibynnol neu gynllunydd ariannol
  • drwy wasanaeth delio cyfranddaliadau neu frocer stoc ar-lein.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gronfa sy’n addas ar gyfer eich anghenion, mae’n syniad da siarad â chynghorydd ariannol annibynnol.

Treth ar logau a thaliadau difidend

Mae dosbarthiadau llogau o gronfeydd yn y Deyrnas Unedig yn cael eu talu gros. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw dreth wedi ei thynnu o’r taliad.

Os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau, gallech gael incwm ar ffurf difidendau. Mae difidendau yn gyfran o’r elw a wna’r cwmni a gyhoeddodd y cyfranddaliadau yr ydych wedi buddsoddi ynddynt. Telir difidend cronfeydd yn y Deyrnas Unedig hefyd fel taliadau gros.

Ym mis Ebrill 2018, cyflwynwyd Lwfans Difidend di-dreth o £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob trethdalwr. Nid yw difidendau sy’n dod dan eich Lwfans Personol yn cyfrif tuag at eich lwfans difidend. Trethir difidendau uwchben y lefel hon ar:

  • 7.5% (ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol)
  • 32.5% (ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd uwch)
  • 38.1% (ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd ychwanegol)

Nid oes raid i chi ddweud wrth CThEM os yw eich difidendau o fewn y lwfans difidend am y flwyddyn dreth. Os oes arnoch angen talu treth, mae sut yr ydych yn talu yn dibynnu ar swm yr incwm difidend a gawsoch yn y flwyddyn ariannol.

Treth ar Enillion Cyfalaf

Pan fyddwch yn troi eich cyfranddaliadau yn arian neu yn symud o un gronfa i un arall gallech dynnu atebolrwydd am Dreth Enillion Cyfalaf (CGT).

Treth ar yr elw y byddwch yn ei gwneud o werthu (neu ‘waredu’) rhywbeth (‘ased’) sydd wedi cynyddu yn ei werth yw Treth Enillion Cyfalaf. Yr enillion a wnewch, nid y swm o arian y byddwch yn ei dderbyn, sy’n cael ei drethu. Felly, efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn gwerthu eich buddsoddiad ac yn gwneud elw.

Y lwfans Treth Enillion Cyfalaf yn 2019-20 yw £12,000.

Y lwfans Treth Enillion Cyfalaf yw’r swm o elw y gallwch ei wneud cyn y bydd treth yn daladwy. Y gyfradd Treth Enillion Cyfalaf ar hyn o bryd yw 10% os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol a 20% os ydych yn talu’r dreth ar y gyfradd uwch neu ychwanegol.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, cewch drosglwyddo asedau i’ch gilydd heb i Dreth Enillion Cyfalaf gael ei chodi.

Opsiynau di-dreth

Os bydd pethau’n mynd o chwith

Mae unrhyw ddifidend neu daliadau llog a dderbynnir mewn pensiwn neu ISA yn parhau yn rhai di-dreth mewn gwirionedd.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?