Mae prynu a rhedeg car yn draul fawr – i lawer o bobl mae’n ail i gost eu cartref yn unig. Felly cyn penderfynu prynu un, mae’n werth treulio ychydig o amser yn ystyried a ydych wir ei angen a buddion ffyrdd amgen o deithio o gwmpas. I weld pwyntiau i’w cofio a dolenni defnyddiol, darllenwch ymlaen.
A oes angen car arnoch?
?
Canfyddwch y ffeithiau
Wrth ystyried a oes angen car arnoch, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint y bydd gwahanol fathau o geir yn ei gostio i’w rhedeg.
I ganfod y costau hyn, rhowch gynnig ar ein hofferyn Cyfrifiannell costau car.
Mae bod yn berchen ar gar yn draul fawr – mae’n costio £3,500 y flwyddyn ar gyfartaledd i fodurwyr y DU redeg eu ceir ar ôl eu prynu (ffynhonnell: webuyanycar.com).
Felly os ydych yn ystyried prynu’ch car cyntaf neu amnewid hen gar, mae’n gwneud synnwyr i feddwl yn ofalus ynghylch a ydych wir ei angen.
Yn aml nid oes ond ychydig o ddewis neu ddim dewis o gwbl i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig gyda chludiant cyhoeddus gwael ond i ddefnyddio car.
Ond i rai ohonom, mae’n bosibl ei fod yn fwy i ymwneud â’r cyfleuster o neidio i mewn i’r car ta waeth pa mor fer yw’r daith, neu’n arfer yn unig.
Mae’r elusen Sustrans yn honni, pe byddai pedair o bob pum taith yn cael ei gwneud ar droed, beic neu gludiant cyhoeddus yn lle mewn car, gallai gyrwyr arbed £279 y flwyddyn mewn costau rhedeg – £8.5 biliwn ar gyfer holl yrwyr y DU.
Dewisiadau amgen yn lle defnyddio car
?
Mae’r RAC yn dweud y defnyddir tair miliwn o geir yn y DU lai nag unwaith yr wythnos.
Ymhellach, mae traean o’r ceir hyn bron yn newydd – yn flwyddyn neu ddwy oed ar y mwyaf.
Beicio
Yn ôl Sustrans mae pedair o bob deg o deithiau byr mewn car yn llai na dwy filltir – pellter sy’n hawdd ei feicio. Hefyd, beicio yw un o’r ffyrdd hawsaf i gynnwys ymarfer corff yn eich trefn ddyddiol, ac mae’n arbed arian ichi ac yn ecogyfeillgar.
Os yw rhiwiau serth ar eich llwybr yn eich rhwystro, beth am gymryd reid prawf ar feic trydanol? Yn dechrau am oddeutu £500, mae gan y mwyafrif ystod o 20–25 o filltiroedd ac maent i gyd yn cynnig cyflymder a buddion ynghylch ffitrwydd fel ei gilydd.
Rhannu Car
Os mai cymudo i’r gwaith yw’ch prif reswm dros fod yn berchen ar gar, mae’n bosibl y byddai’n werth ystyried rhannu’ch taith gyda chydweithiwr. Mae llawer o gyflogwyr mawr yn rhedeg cynlluniau rhannu car.
Ac os ydych yn rhiant sy’n arfer gyrru’ch plant i’r ysgol gallech drefnu rhannu’r daith i’r ysgol gyda rhieni eraill os nad yw’n ddiogel i’ch plant gerdded. Hefyd gall hyn helpu gyda phroblemau parcio ger ysgolion.
Clwb Car
Mewn gwirionedd mae’r rhain yn geir talu-wrth-fynd y gallwch eu rhentu yn ôl yr awr neu’r dydd. Mae gennych y cylfleuster o gar bob tro y byddwch ei angen, heb orfod talu am dreth car (a elwir hefyd yn dreth ffordd), gwasanaethu ac yswiriant car.
Canfyddwch fwy am glybiau car ar
Carplus.
Cludiant cyhoeddus
Mae’n fwy na thebyg y bydd cludiant cyhoeddus yn rhatach na char ar gyfer cymudo neu deithiau lleol byr.
Wrth gymharu costau, cofiwch, gyda char, fod angen ichi ganiatáu am eich costau rhedeg dros y flwyddyn heblaw am danwydd. Felly mae’n sicr ei fod yn werth prynu tocyn tymor wythnosol neu fisol ar gyfer bws, trên, tiwb neu dram yn lle.
Ar gyfer pellterau hwy ar y trên neu’r bws, gallwch wneud arbedion mawr drwy archebu tocynnau cyniliwr o flaen llaw.
Dysgwch fwy am eich opsiynau ynghylch cludiant cyhoeddus ar y gwefannau hyn:
Beic Modur
Mae beiciau modur a sgwteri’n costio llawer llai i’w rhedeg na char. Er enghraifft, bydd beiciau a sgwteri 125cc yn gwneud mwy na 100 o filltiroedd i’r galwyn, sy’n golygu y gallai taith cymudo ddyddiol o 20 milltir gostio cyn lleied â £5 yr wythnos mewn petrol.
Mae sgwteri trydanol yn arbennig o rad i’w rhedeg – cyn lleied ag 1c y diwrnod. Fodd bynnag, cyfyngir eu pellter i 40 milltir neu lai.
Cerdded
Os yw’ch taith yn ddim mwy na illtir neu ddwy, beth am wneud amser i gerdded? Os ydych yn cerdded i’r gwaith neu’n mynd â’r plant i’r ysgol, nid yn unig fydd hyn yn costio dim ichi ond hefyd mae’n torri ar lygredd a thagfeydd. Hefyd gall cerdded am ddim ond un filltir losgi 100 o galorïau.
Gweithio o’ch cartref
Gan fod llawer o gwmnïau’n cynnig gweithio hyblyg erbyn hyn, efallai y bydd yn werth siarad â’ch cyflogwr er mwyn canfod a yw’n bosibl – hyd yn oed os yw ar gyfer un diwrnod yr wythnos yn unig.
Eich cam nesaf