Yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2015 mae gennych fwy o ddewis a hyblygrwydd nag erioed o’r blaen ynglŷn â sut a pha bryd y gallwch gymryd arian o’ch cronfa bensiwn. Cymrwch eich amser i ddeall eich dewisiadau a chael help a chyngor- bydd yr hyn y byddwch chi’n ei benderfynu yn awr yn effeithio ar eich incwm pensiwn am weddill eich oes.
Cymryd eich pensiwn o Ebrill 2015 ymlaen
?
Wyddech chi?
Rhaid i chi fod wedi cyrraedd yr oed pensiwn gofynnol arferol er mwyn medru hawlio’ch cronfa bensiwn – sef 55 oed ar hyn o bryd (neu cyn hynny os ydych mewn iechyd gwael neu fod gennych oed ymddeol a ddiogelir).
Bydd y newidiadau a gyflwynwyd o fis Ebrill 2015 yn rhoi rhyddid i chi ynglŷn â sut allwch chi ddefnyddio eich cronfa bensiwn (neu gronfeydd pensiwn) os ydych yn 55 oed neu’n hŷn a bod gennych chi bensiwn yn seiliedig ar faint a dalwyd i mewn i’ch cronfa (a elwir yn gynllun pensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio).
Pa un ai’ch bod yn bwriadu ymddeol yn gyfan gwbl, cwtogi’ch oriau’n raddol neu barhau i weithio am gyfnod hirach, gallwch yn awr deilwra pa bryd a sut i ddefnyddio’ch pensiwn – a pha bryd y byddwch yn rhoi’r gorau i gynilo ynddo – yn unol â’ch taith ymddeoliad.
Mae yna lawer i’w bwyso a’i fesur wrth benderfynu pa ddewis neu gyfuniad fydd yn cynnig incwm dibynadwy ac effeithlon o ran treth i chi a’ch dibynyddion trwy gydol eich ymddeoliad. Gofalwch ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise am ddim a gefnogir gan y llywodraeth i’ch helpu i ddeall eich dewisiadau neu i gael cyngor ariannol - gweler yr adran ddiweddarach ‘Cael help neu gyngor’.
Cip ar eich dewisiadau
?
Beth yw cronfa bensiwn?
Mae ‘cronfa bensiwn’ yn cyfeirio at fath o bensiwn a gronnwch gyda chyfraniadau pensiwn gennych chi a/neu eich cyflogwr. Bydd gennych chi un os oes gennych chi bensiwn â ‘chyfraniad wedi’i ddiffinio’ yn cynnwys cynlluniau pensiynau’r gweithle, personol a rhanddeiliaid.
Dan y rheolau hyblyg newydd gallwch ddewis a dethol unrhyw un o’r dewisiadau isod, gan ddefnyddio rhannau gwahanol o un gronfa bensiwn neu ddefnyddio cronfeydd ar wahân neu wedi eu cyfuno.
Ceir crynodebau o’r opsiynau isod. Dilynwch y dolenni ym mhob adran i ddarllen manylion llawn bob dewis, gan gynnwys y buddion, risgiau posibl a’r oblygiadau treth.
Ni fydd pob cynllun a darparwr pensiwn yn cynnig pob dewis – hyd yn oed os yw eich un chi yn eu cynnig gofalwch chwilio am y fargen orau.
Gadael eich cronfa bensiwn heb ei chyffwrdd
Efallai y byddwch yn gallu oedi cyn cymryd eich pensiwn ar ddyddiad diweddarach. Bydd eich cronfa bensiwn wedyn yn parhau i dyfu’n ddi-dreth, gan roi mwy o incwm i chi o bosib pan fyddwch yn ei defnyddio. Er mwyn cael trosolwg o’r manteision posibl a phethau i wylio amdanynt os byddwch yn ystyried oedi edrychwch ar ein canllaw Oedi cyn cymryd eich cronfa bensiwn.
Defnyddio eich cronfa i brynu incwm a warantir am oes – blwydd-dal
Fel arfer, gallwch gymryd hyd at chwarter (25%) o’ch cronfa bensiwn fel un cyfandaliad di-dreth ac yna trosglwyddo’r gweddill yn incwm trethadwy am oes a elwir yn flwydd-dal. Gall rhai polisïau hŷn eich galluogi i gymryd mwy na 25% fel arian parod di-dreth - gwiriwch gyda’ch darparwr pensiwn. Mae gwahanol ddewisiadau a nodweddion o ran blwydd-daliadau am oes i ddewis rhyngddynt sy’n effeithio ar faint o incwm y byddech yn ei gael.
Gallwch hefyd ddewis darparu incwm am oes i ddibynnydd neu fuddiolwr arall ar ôl i chi farw.
Defnyddio eich cronfa bensiwn i ddarparu incwm ymddeoliad hyblyg – tynnu pensiwn i lawr
Gyda’r dewis hwn gallwch fel arfer gymryd hyd at 25% (chwarter) eich cronfa bensiwn neu’r swm a ddynodir gennych i’w dynnu i lawr fel cyfandaliad di-dreth, ac yna ail-fuddsoddi’r gweddill mewn cronfeydd a gynlluniwyd i roi incwm trethadwy rheolaidd i chi.
Rydych chi’n nodi pa incwm a ddymunwch, er y gall hyn gael ei addasu’n achlysurol yn ddibynnol ar berfformiad eich buddsoddiadau. Yn wahanol i flwydd-dal oes nid yw eich incwm wedi ei warantu am oes – felly mae’n rhaid i chi reoli eich buddsoddiadau yn ofalus.
Cymryd symiau bach o arian o’ch cronfa
Gallwch ddefnyddio eich cronfa bensiwn gyfredol i gymryd arian ohono fel y mynnwch a gadael y gweddill heb ei gyffwrdd lle gall barhau i dyfu yn ddi-dreth. Bob tro y byddwch yn tynnu arian mae’r 25% (chwarter) cyntaf yn ddi-dreth a’r gweddill yn cyfrif fel incwm trethadwy. Efallai y codir ffioedd bob tro y tynnwch arian allan a/neu gyfyngiad ar sawl gwaith gewch chi dynnu arian allan bob blwyddyn.
Gyda’r dewis hwn ni ail-fuddsoddir eich cronfa mewn cronfeydd newydd a ddewiswyd yn benodol i dalu incwm rheolaidd i chi ac ni fydd yn darparu ar gyfer dibynnydd ar ôl i chi farw. Mae rhagor o oblygiadau treth hefyd i’w hystyried na gyda’r ddau ddewis blaenorol.
Cymryd eich cronfa gyfan fel arian
Gallech gau eich cronfa bensiwn a chymryd y cyfan fel arian yn un swm os dymunwch.
Byddai’r 25% (chwarter) cyntaf a dynnir yn ddi-dreth a threthir y gweddill ar eich cyfradd dreth uchaf – drwy ei ychwanegu at weddill eich incwm.
?
Wyddech chi?
Ni fydd tynnu’ch cronfa bensiwn allan fel arian yn rhoi incwm diogel i chi yn eich ymddeoliad. Ceisiwch gyngor gan Pension Wise a chyngor ariannol cyn i chi ymrwymo.
Mae llawer o risgiau yn gysylltiedig â throi eich cronfa gyfan yn arian. Er enghraifft, mae’n debygol iawn y byddwch yn cael bil treth mawr, ni fydd yn talu incwm cyson i chi nag unrhyw ddibynyddion ac, heb gynllunio gofalus iawn, gallech fynd heb arian a chael dim byd i fyw arno yn eich ymddeoliad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor ariannol cyn troi eich cronfa gyfan yn arian.
Cymysgu eich opsiynau
Nid yw’n ofynnol i chi ddewis un opsiwn wrth benderfynu sut i ddefnyddio eich pensiwn – gallwch ddewis a dethol fel y mynnwch, a chymryd arian ac incwm ar wahanol adegau yn ôl yr angen. Gallwch hefyd barhau i gynilo i mewn i bensiwn os dymunwch hynny, a chael gostyngiad treth hyd at 75 oed.
Bydd pa opsiwn neu gyfuniad sy’n iawn i chi yn dibynnu ar:
- pa bryd y byddwch yn gorffen gweithio neu yn lleihau’ch oriau
- eich amcanion o ran incwm a’ch agwedd tuag at risg
- eich oed a chyflwr eich iechyd
- maint eich cronfa bensiwn a chynilion eraill
- unrhyw bensiwn neu gynilion eraill sydd gan eich priod neu’ch partner, os yw hynny’n berthnasol
- a oes gennych chi ddibynyddion ariannol
- a yw’ch amgylchiadau’n debygol o newid yn y dyfodol.
Cewch eich tywys drwy’r holl opsiynau yn ystod eich apwyntiad Pension Wise – gweler isod.
Mynnwch gymorth neu gyngor
I gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau, gweler ein Hofferyn opsiynau incwm ymddeol.
Os ydych yn 50 oed neu hŷn ac yn ystyried cymryd y cyfan neu ran o’ch pensiwn, gallwch ddefnyddio Pension Wise, gwasanaeth am ddim a gefnogir gan y llywodraeth, i’ch helpu i ddeall yr holl ddewisiadau sydd gennych. Mae’n wasanaeth diduedd sydd ar gael ar-lein, ar y ffôn, neu wyneb yn wyneb.
Cewch wybod am eich holl ddewisiadau a sut i archebu apwyntiad Pension Wise yn pensionwise.gov.uk.
Ar ôl i chi ddeall eich dewisiadau, rydym yn argymell y dylech siarad â chynghorydd ariannol a fydd yn gallu argymell pa ddewis (neu gyfuniad) sydd orau i chi a’ch helpu i ganfod y cynhyrchion mwyaf cystadleuol.
Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr ariannol cofrestredig yr FCA sy’n arbenigo mewn cynllunio ar gyfer ymddeoliad yn ein
Cyfeirlyfr cynghorydd ymddeoliadopens in new window.