Ysgariad neu ddiddymiad DIY (ei wneud eich hun)

Os yw eich ysgariad neu ddiddymiad yn un ar delerau da a bod eich materion ariannol yn syml, dylech fedru cael trefn ar bopeth yn gymharol gyflym a rhad. Rhaid i chi fynd trwy’r broses gyfreithiol yr un fath â‘ch bod wedi ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yn gyfreithiol, ond efallai na fydd angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr drwy’r cyfan.

Beth yw ysgariad neu ddiddymiad DIY?

Dyna y gelwir sefyllfa pan fyddwch chi a’ch cynbartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) yn mynd trwy’r broses ysgaru neu ddiddymu heb fawr o help gan gyfreithiwr, neu ddim help o gwbl.

Mae’n bwysig gwybod beth mae rhywun yn ei olygu pan mae’n sôn am “ysgariad” neu “ddiddymiad”, yn enwedig os ydych yn dymuno trefnu’ch ysgariad neu ddiddymiad eich hun.

Yn aml defnyddir ysgariad neu ddiddymiad fel term cyffredinol i olygu popeth sydd ynghlwm â pherthynas yn torri i lawr. Bydd hyn yn cynnwys:

  • terfynu’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn ffurfiol
  • rhannu materion ariannol y teulu
  • gwneud trefniadau ar gyfer y plant

Yn swyddogol golyga ysgariad neu ddiddymiad y broses gyfreithiol o derfynu priodas neu bartneriaeth sifil yn ffurfiol. Rhaid dilyn gweithdrefn benodol. Gan amlaf mae hyn yn syml. Mae llawer o bobl yn trefnu eu hysgariad neu ddiddymiad eu hunain gydag ychydig neu ddim cymorth cyfreithiol.

Daw’r rhan fwyaf o’r anawsterau ynghylch ysgariad neu ddiddymiad wrth rannu materion ariannol y teulu. Gall negodi eich cytundeb ariannol eich hun, gyda neu heb gefnogaeth broffesiynol, fod y ffordd rataf i sicrhau setliad a gall ymddangos fel y ffordd fwyaf rhwydd. Fodd bynnag, gall fod yn broses gymhleth a bydd angen i chi a’ch gŵr, gwraig neu bartner ystyried amryw o bethau.

Gall fod o fudd cael un “gwiriad gofalus” gyda chyfreithiwr teulu arbenigol. Bydd hyn o gymorth i chi ddeall eich hawliau a goblygiadau llawn unrhyw gytundebau a phenderfyniadau a wnewch. Bydd yn sicrhau hefyd bod unrhyw gytundeb yn gyfreithiol rwym.

Yng Nghymru a Lloegr, os nad ydych wedi delio â phob mater – neu os gadewch hawliadau ariannol heb eu datrys – yna gall hyn eich baglu flynyddoedd ar ôl eich ysgariad neu ddiddymiad ac amharu’n ddiweddarach ar eich bywydau. Y rheswm am hyn yw oherwydd nid yw ysgariad neu ddiddymiad yn eich atal rhag cael gwneud hawliad yn erbyn eich cyn bartner (neu’ch cyn barter yn eich erbyn chi). Ymhellach, nid oes cyfyngiad amser ar gyfer gwneud hawliad ariannol. Mae’n hanfodol sicrhau bod gennych chi orchymyn llys rhwym sy’n sefydlu’r trefniadau ariannol yn glir – hyd yn oed os yw’r gorchymyn llys yn datgan yn syml nad yw’n fwriad gan y naill ohonoch gyflwyno hawliad yn erbyn y llall.

Yn yr Alban, mae’r sefyllfa’n wahanol. Ni allwch gyflwyno hawliad am ddarpariaeth ariannol ar ôl i chi ysgaru. Mae’n bwysig cymryd cyngor gan arbenigwr mewn cyfraith teulu o’r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau nad ydych yn colli’r hawl hwn.

Faint o amser mae’n ei gymryd?

Ni all ysgariad neu ddiddymiad DIY gymryd llai na chwe wythnos i’w gwblhau o pan fydd y broses gyfreithiol yn dechrau. Mae hynny’n ddeddf yng Nghymru a Lloegr ac mae’n annhebygol o gymryd llai na hyn yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon. Mewn gwirionedd, gall ysgariad neu ddiddymiad cyflym hyd yn oed gymryd rhwng pedwar a chwe mis.

Yn ddibynnol ar pa mor gymhleth yw’ch sefyllfa ariannol a pha broses a ddefnyddiwch i’w datrys, gellid cytuno ar setliad ariannol o fewn misoedd. Fodd bynnag, yn aml gall trafodion ariannol drwy’r llysoedd gymryd amser maith, yn enwedig yng Nghymru a Lloegr. Gall gymryd rhwng naw mis a dwy flynedd i roi trefn ar y materion ariannol os na allwch chi a’ch cyn bartner gytuno arnynt.

Ysgariad neu ddiddymiad DIY yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon

Gall unrhyw un ddewis ysgariad neu ddiddymiad DIY, ond nid yw hynny’n golygu ei fod yn addas i bawb. Fel canllaw, efallai y byddwch yn medru cael trefn ar eich ysgariad neu ddiddymiad a’ch arian eich hun os:

  • bydd eich cynbartner (eich cyn ŵr, wraig neu bartner sifil) yn cytuno ar ysgariad neu ddiddymiad neu eich bod wedi gwahanu ers pum mlynedd neu fwy
  • byddwch wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil am gyfnod cymharol fyr, fel ers llai na phum mlynedd, ond ers blwyddyn o leiaf yng Nghymru a Lloegr, neu am ddwy flynedd o leiaf yng Ngogledd Iwerddon
  • nad oes gennych blant neu eich bod yn medru cael trefn ar y trefniadau ar gyfer y plant
  • byddwch chi eich dau wedi byw yn yr un rhan o’r Deyrnas Unedig am flwyddyn o leiaf
  • eich bod yn medru trafod neu negodi sut y byddwch yn rhannu eich eiddo a’ch dyledion

Efallai na fydd ysgariad neu ddiddymiad DIY yn syniad da os oes gennych chi a’ch cynbartner blant dan 18 oed, cartref gwerthfawr a/neu bensiwn neu faterion ariannol cymhleth.

Ysgariad neu ddiddymiad symlach (DIY) yn yr Alban

Mae’r weithdrefn ysgariad neu ddiddymiad ‘symlach’ (DIY) ar gael yn gyfreithiol, ond nid yw’n addas i bawb. Er enghraifft, ni allwch ei defnyddio os oes gennych blant ifanc. Fel canllaw, rydych yn debygol o fedru datrys eich ysgariad neu ddiddymiad eich hun os:

  • byddwch wedi gwahanu am flwyddyn o leiaf a’ch bod eich dau yn cytuno i’r ysgariad neu ddiddymiad, neu eich bod wedi gwahanu am o leiaf ddwy flynedd
  • nad oes unrhyw blentyn dan 16 oed
  • nad oes yr un ohonoch yn dioddef salwch meddwl neu broblemau iechyd sy’n golygu na allwch wneud penderfyniadau am arian
  • nad ydych yn ymwneud ag unrhyw achos llys arall a all ddwyn eich priodas neu bartneriaeth sifil i ben
  • ydych yn cytuno sut y dylid rhannu eich eiddo a’ch meddiannau ac nad ydych yn gwneud hawliad ariannol yn erbyn eich gilydd

Peidiwch â defnyddio’r weithdrefn ‘syml’ os byddwch yn bwriadu hawlio yn erbyn eich cynbartner am gyfran o’i asedau ef neu hi neu am daliadau cyson. Os nad ydych yn siŵr sut y gallai’ch arian gael ei rannu, ceisiwch gyngor cyfreithiol i ddechrau cyn defnyddio’r ‘weithdrefn syml’. Neu, dilynwch y weithdrefn ysgariad neu ddiddymiad ‘arferol’. Wedi i chi ysgaru, ni allwch gyflwyno hawliad am gyfran o asedau’ch cyn bartner.

Llenwi a chyflwyno’r ffurflenni eich hun

Os dymunwch, gallwch gael, llenwi ac anfon ffurflenni’r llys eich hun. Dyma’r dewis rhataf gan mai dim ond y ffioedd llys y bydd yn rhaid i chi eu talu. Os ydych ar incwm isel, efallai na fydd raid i chi dalu’r ffioedd yma.

Yng Nghymru neu yn Lloegr, gallwch ddechrau arni trwy lawrlwytho ffurflen D8 – y ffurflen sydd arnoch ei hangen i ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil – a thaflen D183, a fydd yn esbonio’r hyn y bydd angen i chi ei wneud. Mae’r ddwy ar gael o wefan justice.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, hyd yn oed os byddwch yn dewis ysgariad neu ddiddymiad DIY, bydd raid i chi ymddangos ger bron barnwr fel ‘deisebydd personol’ mewn naill ai llys sirol neu Uchel Lys. Gallwch lawrlwytho’r ffurflenni i baratoi ar gyfer hyn o wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Gogledd Iwerddon.

Yn yr Alban, gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth am y weithdrefn ‘symlach’ DIY ar wefan Llysoedd yr Alban.

Trwy ddefnyddio gwasanaeth ysgaru neu ddiddymu DIY ar-lein

Mae gwahanol fathau o wasanaethau ysgaru neu ddiddymu ar-lein ar gael (er eu bod yn eithaf prin yng Ngogledd Iwerddon). Mae’r cwmnïau yma yn gwerthu pecynnau gwahanol, sy’n amrywio o ran pris ac sy’n cynnig lefelau gwahanol o help. Dylech wirio beth sydd ar gael: bydd y rhan fwyaf yn eich helpu gyda’ch gwaith papur ysgaru neu ddiddymu, ac nid gyda llunio setliad ariannol.

Er mwyn cystadlu mae llawer o gyfreithwyr y stryd fawr, erbyn hyn, yn cynnig ffi sefydlog am ysgariad neu ddiddymiad a byddant yn cynnig ffioedd sefydlog neu wedi eu capio i helpu i gael trefn ar eich materion ariannol.

Rhybudd: Os na fyddwch yn cael unrhyw gyngor cyfreithiol o gwbl, gallwch chi a’ch cynbartner gytuno i rannu eich arian mewn modd sy’n annheg iawn i un partner neu yn anodd iawn i chi eich dau neu un ohonoch gadw ato – ac efallai na fydd hyn yn amlwg ar yr adeg pan fyddwch yn gwahanu.

Eich cam nesaf

Ystyriwch beth sydd orau ar gyfer eich amgylchiadau yn Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol ar ysgariad a diddymiad.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?