Yswiriant car – sut i gael y fargen orau
Yn chwilio am y fargen orau gydag yswiriant car? Bydd y canllaw hwn yn eich arwain drwy’r ffordd orau i gael yswiriant car rhad ac yn egluro sut i ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau, erthyglau sy’n trafod y bargeinion gorau a broceriaid yswiriant. Gallai ein canllaw pum cam arbed cannoedd o bunnoedd i chi ar yswiriant car.
1. Gostwng eich Risg
?
Chwilio am y fargen orau
Yn awr mae hi’n haws dod o hyd i’r fargen orau drwy rannu’ch gwybodaeth fancio. Dysgwch ragor am hyn yma.
Nid yswiriant car rhad yw’r yswiriant car gorau bob tro, ond mae yna nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i ostwng eich risg yswiriant a chael yswiriant car rhatach.
Gwneud eich car yn fwy diogel
?
Awgrym da
Ffoniwch BIBA (0870 950 1790) i gael dyfynbris yswiriant. Os oes gennych amgylchiadau arbennig y gallant helpu eich rhoi mewn cysylltiad â brocer arbenigol. Bob amser yn ceisio mwy nag un dyfynbris cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol.
- Parcio mewn modurdy neu dramwyfa os oes modd.
- Ffitio larwm neu lonyddwr cymeradwy.
- Gwneud yn siŵr fod dyfeisiau diogelwch wedi’u cymeradwyo gan Thatcham.
Gyrru model cyffredin
- Dewis gwneuthuriad a model o grŵp yswiriant isel am bremiwm is.
- Mae’n well gan yswirwyr fodelau poblogaidd nad ydynt mor ddrud i’w hatgyweirio.
Bod yn gywir am eich milltiroedd
- Isaf i gyd yw’ch milltiroedd blynyddol, isaf i gyd fydd eich premiwm. Fodd bynnag, peidiwch ag amcangyfrif eich milltiroedd yn rhy isel oherwydd gallai hynny annilysu’ch yswiriant pan gyflwynwch hawliad.
Gyrru’n ofalus
- Profwch eich bod chi’n yrrwr risg isel – bydd rhai yswirwyr yn rhoi disgownt ichi os ydych chi wedi cymryd Pass Plus neu gwrs gyrru uwch. Gallwch gael gwybod rhagor am Pass Plus ar wefan GOV.UK.
- Bydd hawliadau yswiriant neu bwyntiau ar eich trwydded yn cynyddu’ch premiwm.
- Ystyriwch gael polisi sy’n cynnwys asesiad o’ch gyrru gyda thelemateg (technoleg ‘blwch du’). Os gallwch brofi eich bod yn yrrwr gofalus, gallech gael premiwm is.
Ychwanegu ail yrrwr
- Lliniarwch y risg trwy ychwanegu ail yrrwr risg isel – hyd yn oed os nad ydynt yn defnyddio’r cerbyd rhyw lawer. (Bydd ychwanegu gyrwyr ifanc newydd gymhwyso’n cynyddu’r premiwm).
- Peidiwch â thorri’r gyfraith trwy esgus mai’r ail yrrwr yw’r prif yrrwr.
2. Gostwng y pris
?
Cynnydd mewn Treth Premiwm Yswiriant
Cyhoeddodd y Canghellor gynnydd mewn Treth Premiwm Yswiriant o 10% i 12% o fis Mehefin 2017.
- Mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud a allai ostwng pris eich yswiriant car.
- Weithiau bydd eich yswiriwr neu frocer yn ceisio gwerthu ychwanegiadau i chi, fel yswiriant costau cyfreithiol. Mae’n bosibl y gallech gael y rhain yn rhatach rhywle arall, neu efallai na fyddwch eu hangen o gwbl.
Talwch yn flynyddol, nid yn fisol
- Gwiriwch gyda’ch cwmni yswiriant oherwydd weithiau codir llog arnoch os byddwch yn talu mewn rhandaliadau.
Peidiwch â thalu am rywbeth nad oes arnoch ei angen
- Ystyriwch yr yswiriant sydd gennych o dan bolisïau yswiriant eraill neu mewn mannau eraill. Er enghraifft, mae rhai cyfrifon banc yn cynnwys yswiriant car yn torri i lawr.
Ystyried prynu yswiriant torri i lawr ar wahân
- Os caiff yswiriant torri i lawr ei gynnwys yn eich yswiriant car, gwiriwch bris a lefel y sicrwydd – efallai y gwelwch chi yswiriant gwell am yr un pris neu lai yn rhywle arall.
Diogelu neu gynyddu’ch bonws dim hawliadau
- Wrth newid yswirwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn trosglwyddo’ch bonws dim hawliadau.
- Ystyriwch dalu premiwm ychwanegol i ddiogelu’ch bonws dim hawliadau os nad ydych chi wedi gwneud hawliad am bum mlynedd neu’n fwy.
Ystyriwch ychwanegu tâl-dros-ben gwirfoddol
- Ychwanegwch dâl-dros-ben gwirfoddol at eich tâl-dros-ben gorfodol i ostwng eich premiwm.
- Cofiwch, byddwch chi’n cael llai yn ôl os byddwch chi’n gwneud hawliad (ar ôl i’r taliadau dros ben gwirfoddol a gorfodol cael eu didynnu) felly mae angen i chi allu ei fforddio.
Enghraifft
Dychmygwch eich bod yn bacio’n ôl i folard ac yn gwneud gwerth £300 o ddifrod i’ch car. Os ydy’ch tâl-dros-ben yn £150, bydd tâl o £150 yn cael ei wneud i chi. Ond os byddwch chi’n gwneud hawliad, byddwch chi’n colli’ch bonws dim hawliadau ac yn gwthio pris eich premiwm i fyny.
Ydych chi’n debygol o wneud hawliad?
Os nad ydych, byddai cystal i chi gynyddu’ch tâl-dros-ben (ar yr amod y gallwch fforddio hynny) a thalu llai am y polisi. Cofiwch hefyd, yn anffodus, hyd yn oed os na fyddwch yn gwneud hawliad, mae’n rhaid ichi ddweud wrth eich yswiriwr eich bod chi wedi cael damwain a gallai’ch premiwm godi o ganlyniad.
3. Chwiliwch am y fargen orau
Mwyaf i gyd o amser ac ymchwil a wnewch i gaffael dyfynbrisiau, y mwyaf tebygol ydych chi o gael gwell bargen. Mae hyn yn hynod bwysig os ydych chi dros 70 oed neu o dan 25 oed, ac wrth adnewyddu’r flwyddyn gyntaf pan fydd premiymau’n gallu codi’n sylweddol.
Os oes amser gyda chi, mynnwch ddyfynbrisiau o ddau safle cymharu o leiaf a defnyddiwch yswirwyr a broceriaid nad ydynt yn cael eu cynnwys ar safleoedd cymharu. Cofiwch, nid y rhataf yw’r gorau o reidrwydd. Mynnwch yr yswiriant iawn neu ni fydd eich polisi’n talu pan fydd arnoch ei angen.
Cymharwch debyg wrth ei debyg – os ydych ond yn chwilio am fargenion hollgynhwysfawr, gallwch ddefnyddio system gymharu Defaqto.
Rhowch gynnig ar frocer i weld a allant gael yr un yswiriant am bris is – gallwch ofyn am ddim.
Heb lawer o amser?
Defnyddiwch y tablau bargen orau i gymharu polisïau rhai yswirwyr dibynadwy.
O dan 25 mlwydd oed?
4. Gwiriwch y polisi
Darllenwch y dogfennau Ffeithiau Allweddol a Geiriad y Polisi. Fel arall, ni fyddwch yn gwybod ydych chi’n cael yr yswiriant iawn. Os ydych chi’n adnewyddu polisi gyda’r un yswiriwr, chi ddylai wirio a ydy’r amodau a thelerau wedi newid.
5. Gofynnwch am ddisgownt
Ewch nôl at eich yswiriwr presennol a gofynnwch iddynt guro’ch dyfynbris gorau.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?