Gall diogelwch incwm tymor byr, a elwir hefyd yn STIP, eich helpu wrth gadw i fyny â’ch rhent neu daliadau morgais a threuliau eraill os cewch eich diswyddo neu os ydych yn rhy sâl i weithio am gyfnod byr o amser. Darllenwch fwy i ganfod sut y gallwch eich diogelu eich hun yn y tymor byr.
Beth yw yswiriant diogelu incwm tymor byr?
Mae wedi ei gynllunio i dalu swm misol penodol ichi yn ystod cyfnod byr (12 mis fel arfer) pan na allwch weithio oherwydd damwain, salwch neu ddiweithdra.
Pan fyddwch yn hawlio, bydd rhaid i chi aros am nifer penodol o ddyddiau cyn y byddwch yn dechrau derbyn taliad misol. Mae’r taliadau’n parhau hyd nes eich bod yn dychwelyd i’r gwaith – ar gyfer cyfnod uchaf (fel arfer un neu ddwy flynedd).
Beth nad yw wedi’i gynnwys?
Mae nifer o sefydliadau nad ydynt wedi eu cynnwys gan STIP. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyfnod o amser – fel arfer 30 niwrnod – wedi i chi stopio gweithio a chyn i’ch taliadau gychwyn. Bydd angen ichi allu ymdopi eich hunan yn ystod y cyfnod hwn (neu ddewis polisi sy’n dechrau talu o’r diwrnod cyntaf pa na fyddwch yn gweithio)
- Rhai afiechydon – gwiriwch y rhestr yn eich polisi
- Cyflyrau a oedd yn bodoli eisoes (afiechydon yr ydych yn gwybod amdanynt yn barod)
- Anafiadau a wnaethoch i chi’ch hun
- Damwain neu salwch o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol
- Diweithdra, os oeddech yn gwybod ei fod yn debygol pan gymeroch y polisi
- Diswyddo gwirfoddol, diweithdra tymhorol ac ymddeol yn gynnar
A oes arnoch angen yswiriant diogelu incwm tymor byr?
Gallech ystyried prynu’r math hwn o yswiriant os oes gennych dreuliau hanfodol, fel rhent neu forgais, ac:
- Na allwch ddibynnu ar gynilion i’ch cynorthwyo trwy gyfnod o salwch neu ddiweithdra
- Rydych yn hunangyflogedig
- Nad oes gennych dâl salwch, tâl dileu swydd na buddion cyflogai yn gefn i chi
Cyn i chi brynu, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr adran ar fathau eraill o yswiriant i’w ystyried, i weld a oes cynnyrch arall yn cyd-fynd yn well â’ch anghenion.
Pwy sydd ddim ei angen?
Os gallech ymdopi ar eich cynilion, tâl salwch neu ddiswyddo, yna efallai y byddwn yn penderfynu bod gennych ddigon o sicrwydd i ddal ati yn y tymor byr. Fodd bynnag, os ydych yn cael eich bod yn methu gweithio am fwy o amser efallai y byddwch yn dechrau mynd i drafferthion. Gall cynnyrch diogelu incwm gynnig sicrwydd i chi os ydych yn cael eich bod yn ddi-waith yn hirach.
A oes angen yswiriant diogelu incwm arnoch?
Cost yswiriant diogelu incwm tymor byr
Os gallwch ei fforddio, gallech ddewis polisi â chyfnod hwy o fuddion. Mae’r un hwyaf ar y farchnad ar hyn o bryd yn parhau am ddwy flynedd.
Cyfrifir taliadau misol am bob £100 o yswiriant ac fel arfer byddant yn amrywio o 41c i £17 y mis. Mae ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar gost eich premiwm yn cynnwys:
- Yr yswiriant a ddewiswch (mewn geiriau eraill a ydych yn dewis yswiriant damwain a salwch, neu yswiriant diswyddo, neu’r ddau)
- Hyd y cyfnod aros (y cyfnod o amser cyn bod eich taliadau’n cychwyn)
- Hyd y cyfnod budd (am faint o amser y bydd y polisi’n dal i dalu )
- Eich oedran
Ffynhonnell: Defaqto (2011)
Mathau eraill o yswiriant i’w hystyried
?
Peidiwch â drysu rhwng yswiriant diogelu incwm tymor byr ac yswiriant diogelu incwm! Mae yswiriant diogelu incwm yn talu am gyfnod hwy o amser, ac fel arfer yn yswirio yn erbyn salwch neu analluogrwydd yn unig, nid diswyddo.
Mae nifer o wahanol fathau o yswiriant y gallwch eu defnyddio i’ch diogelu rhag problemau ariannol os byddwch yn sâl, wedi’ch anafu neu’n ddi-waith.
A oes angen yswiriant diogelu incwm arnoch? Mae hyn yn cynnwys ystod ehangach o salwch ac anableddau, ac yn rhoi taliadau rheolaidd nes byddwch wedi gwella digon i ddychwelyd i’r gwaith.
Oes angen yswiriant salwch difrifol arnoch? Mae’r math hwn o bolisi hirdymor yn darparu cyfandaliad di-dreth os ydych yn cael diagnosis o un o’r afiechydon difrifol sydd wedi eu cynnwys yn eich polisi.
A oes angen yswiriant diogelu taliadau arnoch? Bydd yswiriant diogelu taliadau yn eich helpu i ddal ati gyda’ch taliadau os na allwch weithio am eich bod yn sâl, wedi cael damwain neu gael eich diswyddo.
A oes angen yswiriant bywyd arnoch? Fel yr awgryma’r enw, bydd y math hwn o yswiriant yn talu os byddwch yn marw.
Darllenwch ein canllaw cyflym i ddysgu rhagor am y gwahaniaethau rhwng y gwahanol gynnyrch diogelu
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?