Mae Credyd Cynhwysol yn fath newydd o gymorth sy’n disodli budd-daliadau penodol fel Lwfans Ceisio Gwaith, a’r holl gredydau treth. Mae’n cael ei gyflwyno’n raddol. Os ydych chi’n gweithio mewn banc neu gymdeithas adeiladu rydym wedi crynhoi’r hyn sydd angen ichi wybod amdano yn ein barn ni.
Beth yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol newydd i bobl sydd naill ai’n ddi-waith, neu’n gweithio ond ar incwm isel.
Ymhen hir a hwyr bydd yn disodli’r holl fudd-daliadau a chredydau treth dilynol:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Budd-dal Tai
Beth sy’n wahanol am Gredyd Cynhwysol?
Sut y telir Credyd Cynhwysol
Telir Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i gyfrif banc y cwsmer. Bydd yn derbyn taliad misol sengl ac mae hwnnw’n cynnwys yr arian mae angen i dalu ei rhent.
Budd-daliadau a chredydau treth cyfredol
Credyd Cynhwysol
Sut mae’n cael ei dalu
Os nad oes gan gwsmer gyfrif banc, gall ei daliad fynd i gyfrif cerdyn Swyddfa Bost neu – dan rai amgylchiadau – ar gerdyn Taliad Syml.
Telir Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd y cwsmer.
Pa mor aml mae’n cael ei dalu
Fel arfer telir budd-daliadau’n bob bythefnos ac fel arfer telir credydau treth yn wythnosol neu bob pedair wythnos.
Telir Credyd Cynhwysol yn fisol.
Nifer o daliadau
Telir pob budd-dal ar wahân.
Mae’r cwsmer yn cael taliad sengl o Gredyd Cynhwysol.
Help gyda rhent
Gellir talu Budd-dal Tai yn uniongyrchol i’r landlord.
Mae elfen costau tai Credyd Cynhwysol (cymorth gyda’r rhent) yn mynd yn uniongyrchol i’r cwsmer sy’n gorfod trefnu ei daliadau rhent ei hun i’w landlord.
Pwy sy’n derbyn yr arian
Mae rhai o’r budd-daliadau a chredydau treth yn cael eu diddymu’n raddol a gellir eu talu i’r naill bartner neu’r llall mewn cwpl ac mae rhai’n mynd i’r partner sy’n gwneud y rhan fwyaf o ofal plant.
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad sengl i bob cartref i gyfrif banc a enwebwyd. Os yw cwpl yn hawlio Credyd Cynhwysol gall y cyfrif banc fod yn enw’r naill bartner neu’r llall neu gall fod yn gyfrif ar y cyd gyda’r ddau enw.
Gwahaniaethau eraill gyda Chredyd Cynhwysol
Hefyd mae’r broses hawlio a’r hyn sy’n digwydd i daliadau rhywun pan fydd yn dechrau gweithio (neu’n cynyddu ei oriau) yn wahanol o dan Gredyd Cynhwysol.
Budd-daliadau cyfredol
Credyd Cynhwysol
Sut i wneud cais
Gall pobl hawlio budd-daliadau a chredydau treth trwy gwblhau ffurflenni papur, dros y ffôn, neu weithiau trwy lenwi ffurflen ar-lein.
Bydd y mwyafrif o gwsmeriaid yn gwneud eu hawliad am Gredyd Cynhwysol ar-lein, er y gall unrhyw un sydd ei angen gael cyngor wyneb yn wyneb neu gymorth dros y ffôn.
Gweithio a hawlio
Os yw rhywun yn gweithio 16 awr yr wythnos neu’n fwy, ni fyddant yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau mwyach.
Nid oes cyfyngiadau ar faint o oriau’r wythnos y gall rhywun weithio os yw’n hawlio Credyd Cynhwysol. Yn hytrach, bydd y swm o gredyd cynhwysol mae’n derbyn yn lleihau’n raddol wrth iddo ennill mwy.
Pryd mae Credyd Cynhwysol yn cychwyn?
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno mewn camau. Ni fydd y mwyafrif o bobl yn cael eu heffeithio ar y dechrau. Ar hyn o bryd, mae Credyd Cynhwysol yn effeithio ar bobl sydd newydd fynd yn ddi-waith mewn ardaloedd penodol o’r wlad yn bennaf.
Ewch i wefan Credyd Cynhwysol GOV.UK am ragor o fanylion ac i weld rhestr o’r ardaloedd Canolfan Waith lle mae Credyd Cynhwysol ar gael.