Cynllun Busnes 2013-14 y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi cyhoeddi ei gynllun busnes ar gyfer 2013-14.
Mae angen i ni, dan Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 2010, gynhyrchu cynllun busnes blynyddol, yn cyflwyno ein hamcanion, blaenoriaethau a chyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ar ôl ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft gyda’r rhai hynny sydd â diddordeb yn ein gwaith, a gyda chymeradwyaeth derfynol y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, rydym wedi adlewyrchu’r argymhellion a wnaed. Mae’r cynllun yn amlinellu gweledigaeth y Gwasanaeth, gan weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill sy’n rhannu’r un uchelgais.
Byddwn yn:
- Parhau i ddatblygu ein gwasanaeth cyffredinol diduedd am ddim, yn darparu gwybodaeth a chyngor ar amrediad o bynciau ariannol i bobl ledled y Deyrnas Unedig, ar y we, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.
- Targedu pobl ifancach a theuluoedd ar incwm is yn benodol, gydag offer, gwybodaeth a chyngor addas a gynllunnir i geisio cael mwy o bobl i gynilo, rheoli eu dyledion yn well, paratoi’n well ar gyfer ymddeol, diogelu eu hasedau a darparu ar gyfer eu dibynyddion mewn tua 480,000 o achosion.
- Annog pobl i adolygu eu harian yn rheolaidd, gan roi cymorth i hyd at 400,000 o bobl wneud cynllun cyllideb.
- Parhau i roi cyllid grant ar gyfer darparu cyngor ar ddyledion, ei wneud yn gyflymach ac yn haws i’w gael, gan helpu 150,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr trwy gydol y flwyddyn, a mwy yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Rhoi cymorth i bobl ifanc ddeall arian yn well, gan gynnwys datblygu offer ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol a rhoi cymorth i rieni i addysgu eu plant am bwysigrwydd rheoli arian.
- Datblygu strategaeth newydd i’r Deyrnas Unedig ar gyfer gallu ariannol, gan ddarparu fframwaith i ddod â sefydliadau ynghyd i roi cymorth i bobl ledled y wlad i ddod yn fwy galluog ynghylch arian.
- Darparu gwasanaeth mwy effeithlon, gan gwtogi dros £2.5miliwn o’n cyllideb gyffredinol o gymharu â 2012/13.
- I wneud hyn oll mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy’n rhannu ein hymrwymiad tuag at reoli arian yn well.
Darllenwch Gynllun Busnes 2013-14 y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn ei gyflawnder (PDF)