Wyth ‘galwad sgam’ bob eiliad

Dydd Mawrth 20 Hydref 2015

  • Mae mwy na chwech o bob 10 (63 y cant) o bobl Prydain wedi cael galwad amheus dros y 12 mis diwethaf
  • Ar gyfartaledd, mae galwad sgam yn parhau am 46 eiliad cyn i’r derbynnydd ddeall nad yw’n ddilys
  • Ac eto mae 7% neu 3.5 miliwn o bobl Prydain wedi dioddef twyll dros y ffôn ers 2010

Gwelwyd cynnydd brawychus mewn twyll dros y ffôn gydag wyth galwad ffug yn digwydd bob eiliad1 o’r dydd, yn ôl ymchwil a wnaed gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Aeth twyll dros y ffôn mor gyffredin fel bod mwyafrif defnyddwyr y Deyrnas Unedig wedi cael eu targedu. Derbyniodd mwy na chwech ym mhob 10 (63 y cant) alwad amheus dros y 12 mis diwethaf, gyda mwy na phedwar ym mhob 10 (43%) wedi eu targedu yn ystod y mis diwethaf yn unig, yn ôl y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Mae’r twyllwyr yn ceisio twyllo dioddefwyr i drosglwyddo arian yn uniongyrchol i gyfrifon y troseddwyr neu drosglwyddo cardiau banc, gwybodaeth bersonol a rhifau PIN dros y ffôn neu i gludwyr.

Mae’r twyllwyr yn honni eu bod yn cynrychioli nifer o gwmnïau a sefydliadau cyfarwydd – fel yr Heddlu, banciau neu gwmnïau cyfleustodau. Ymhlith yr holl oedolion dros y flwyddyn ddiwethaf, mae bron i un o bob pump (19 y cant) wedi derbyn galwad ffug pan oedd rhywun yn cymryd arnynt i fod yn sefydliad gwirioneddol a dywedodd un o bob 20 (6 y cant) bod yr alwad wedi dod gan yr un rhif â’r sefydliad yr oeddynt yn ceisio ei ddynwared. Gelwir hyn yn ‘driciau ffôn’ – sef pan fydd twyllwyr yn defnyddio meddalwedd i ddynwared rhif y sefydliad y maent yn ei ddynwared, gan fanteisio ar y ffydd y mae dioddefwyr yn ei roi yn draddodiadol mewn rhifau ffôn penodol (e.e. eu banc).

Dros y 12 mis diwethaf, mae mwy na thraean (36 y cant) wedi derbyn ‘galwad ffôn awtomatig amheus’ a oedd mor gredadwy fel bod un o bob 10 (13 y cant) wedi symud ymlaen i gael sgwrs gyda’r gwasanaeth awtomatig cyn sylweddoli nad oedd yn llais gwirioneddol y pen arall. Yn y triciau ‘vishing’ yma, mae troseddwyr yn aml yn defnyddio systemau awtomatig (IVR) a Llais dros IP (VoIP) mewn ymgais i gasglu gwybodaeth bersonol sensitif. Mae VoIP yn awr yn eithriadol o hawdd ei ddefnyddio i dwyllwyr gan ei gwneud yn haws nag erioed i ‘ddynwared’ rhifau ffôn.

Ymhlith holl bobl Prydain, mae mwy nag un ym mhob 20 (6 y cant) yn dweud bod rhywun wedi ceisio ennyn eu ffydd trwy ofyn iddynt ffonio’r rhif ar gefn eu cerdyn debyd neu gredyd. Gelwir hyn yn dwyll ‘peidio â rhoi’r ffôn i lawr’ pan fydd y twyllwyr yn cadw’r llinell yn agored, yn dynwared rhif deialu ac mae cydymaith y twyllwr yn ateb ac yn dynwared pwy bynnag y mae’r dioddefwr yn ei feddwl y mae’n ceisio ei ffonio. Ar yr un pryd mae chwarter pobl Prydain (25 y cant) yn dweud eu bod wedi derbyn galwad yn dweud eu bod wedi ennill gwobr mewn cystadleuaeth nad oeddent wedi rhoi eu henwau iddi ac un o bob 20 (5 y cant) wedi ateb galwad ffug gan rywun a ofynnodd iddynt drosglwyddo arian o’u cyfrif i gyfrif arall “am resymau diogelwch”.

Ymhlith y rhai a dderbyniodd alwad ffug ers 2010, er bod y mwyafrif llethol (93 y cant neu 47 miliwn) yn rhoi’r ffôn i lawr ac yn diweddu’r alwad ar ôl 46 eiliad ar gyfartaledd, fe wnaeth yn agos i un ymhob deg (7 y cant) neu 3.5 miliwn o oedolion gael eu twyllo.

O’r rhain, aeth mwy nag un o bob 20 (6 y cant) ymlaen i drosglwyddo arian, trosglwyddo gwybodaeth bersonol (6 y cant) a throsglwyddo manylion banc (4 y cant). Ar ôl i’r manylion gael eu trosglwyddo, mae’r twyllwyr yn gwagu eu cyfrif, neu mewn rhai enghreifftiau, yn darbwyllo’r dioddefwyr i fynd i’w banc, tynnu eu pensiwn neu gynilion allan a’u trosglwyddo i gludwr sy’n cyrraedd at eu drws yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Amcangyfrifir bod cyfanswm yr arian a gafwyd trwy dwyll ar y ffôn yn hanner cyntaf 2015 wedi dyblu mewn cymhariaeth â’r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf2. Collwyd cyfanswm o £24miliwn trwy dwyll yn 20143.

Yn ôl Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol4, collodd llawer o ddefnyddwyr symiau sylweddol o arian i dwyll ‘vishing’ a pheidio â rhoi’r ffôn i lawr. Mewn sawl achos mae hyn yn ddegau o filoedd o bunnoedd. Roedd y 185 o gwynion oedd yn cynnwys y twyll ‘peidio â rhoi’r ffôn i lawr’ y gwnaeth yr ombwdsmon eu datrys rhwng canol 2012 a diwedd 2014 yn cynnwys colledion o hyd at £4.3 miliwn5.

Er y gall twyll ddigwydd i unrhyw un ohonom, mae twyllwyr yn targedu rhai o’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas – yn arbennig y rhai hŷn a’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain, gyda’r rhai dros 55 yn fwyaf tebygol o gael eu twyllo. Yn ôl y canfyddiadau mae defnyddwyr y Rhyngrwyd sy’n hŷn yn dargedau haws oherwydd eu bod yn rhoi mwy o ffydd mewn swyddogion sy’n honni eu bod yn ffonio o’r banc, ac yn llai ymwybodol o’r dechnoleg sydd ar gael a’r tactegau a ddefnyddir gan dwyllwyr6.

Fel arfer mae mwy nag un unigolyn yn ymwneud ag unrhyw dwyll, gan fod siarad â gwahanol unigolion yn tawelu meddyliau’r dioddefwyr. Mae gan lawer o’r twyllwyr acenion penodol fel acen Albanaidd, Gymreig neu’r Gogledd Ddwyrain, gan eu bod yn cael eu hystyried yn rhai y gellir ymddiried ynddynt, tra bydd gan eraill acenion Indiaidd gan fod y cyhoedd yn gyfarwydd â gweld rhannau o’r gwasanaeth yn cael ei redeg o dramor7.

Y cyfrifon mwyaf tebygol o gael eu targedu yw cardiau credyd/debyd, yn syml oherwydd bod llawer mwy o drafodion yn mynd trwyddynt ac mae’n fwy credadwy gweld y byddai rhywun wedi camddefnyddio’r rhain8.

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, dywed Nick Hill, Arbenigwr Ariannol yn y Gwasanaeth Cynghori Ariannol: “Mae’r ymchwil yn dangos bod nifer frawychus o bobl yn profi twyll dros y ffôn, gyda llawer yn ei chael yn anos pennu a yw galwad yn un dilys. Er nad yw twyll ffôn yn ffenomenon newydd, mae technolegau modern yn ei gwneud yn haws i dwyllwyr dargedu a manteisio ar ddioddefwyr. Mae’r troseddwyr yma yn glyfar a chreadigol, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddynwared sefydliadau gwirioneddol. Gallant herwgipio rhif ffôn banc yn ogystal â defnyddio sgriptiau a systemau y mae banciau yn debygol o’u defnyddio – sy’n golygu ei bod yn anos nag erioed adnabod galwad ffug.

“Gall defnyddwyr eu diogelu eu hunain trwy fod yn wyliadwrus. Os byddwch yn derbyn galwad annisgwyl a bod yr unigolyn ar y pen arall yn gofyn am wybodaeth bersonol byddwch yn ddoeth a rhoi’r ffôn i lawr. Mae’n well rhoi’r ffôn i lawr ar alwad ddilys a gwneud eich gwaith ymchwil na pheryglu eich manylion personol a cholli eich arian oherwydd twyll. Dyma rai awgrymiadau i osgoi twyll dynwared rhifau:

  1. Os byddwch yn amheus rhowch y ffôn i lawr
  2. Os byddwch yn teimlo bod arnoch angen ffonio yn ôl, arhoswch o leiaf 10 munud cyn ffonio yn ôl ar rif swyddogol
  3. Peidiwch byth â rhoi eich manylion personol na throsglwyddo arian i rywun sydd wedi eich ffonio yn annisgwyl

Ychwanegodd Caroline Wayman, Prif Ombwdsmon o Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. “Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn esbonio mai atal yw’r ffordd orau o ymladd yn erbyn twyll ar y ffôn. Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan, trwy siarad â pherthnasau a chymdogion a all fod yn fwy bregus ac esbonio beth i fod yn ofalus ohono. Ond peidiwch ag amau, mae’r dulliau twyllo yma yn gweithio oherwydd eu bod yn rhad ac effeithiol – a gall unrhyw un gael ei dwyllo.”

Am ragor o wybodaeth a chyngor ewch i moneyadviceservice.org.uk.

Os byddwch yn dod o hyd i dwyll neu’n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, cysylltwch ag Action Fraud, a’r ganolfan i roi adroddiad am droseddau. Gallwch eu cyrraedd dros y ffôn ar 0300 123 2040, neu defnyddiwch yr offeryn adrodd ar-lein Action Fraud.

-DIWEDD-

NODIADAU I OLYGYDDION

Ymchwil a gwblhawyd gan Opinium ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori Ariannol ym mis Hydref 2015 ymysg 2,014 o oedolion yn y Deyrnas Unedig dros 18+.

Yn ychwanegol at hynny, lluniodd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol ynghyd â’r cyfreithiwr technoleg a’r troseddegwr Dr Stefan Fafinski, o Brifysgol Surrey, bartneriaeth i edrych ar y tactegau a’r dechnoleg fodern a ddefnyddir gan dwyllwyr a dynodi unrhyw dueddiadau o ran pwy sy’n cael ei dargedu, pryd y cysylltir â nhw a sut, ac am beth y gofynnir.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i amlygu ble y mae help a chyngor ar gael, ac yn y pendraw maent yn helpu rhagor o bobl i osgoi dod yn ddioddefwyr.

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â:

Sinead Meckin, Dan Thompson neu Georgia McDonald yn Third City ar 0203 657 9773 neu moneyadviceservice@thirdcity.co.uk.

Sut i nodi twyll

Gall gwybod am y triciau cyffredin mae twyllwyr yn ceisio eu defnyddio i ddwyn eich arian olygu’ch bod yn osgoi cael eich cafflo.

Mae twyll yn mynd yn fwy a mwy soffistigedig ac mae’n talu gwybod beth sydd angen i chi fod yn wyliadwrus ohono. Bydd twyllwyr yn cysylltu â chi dros y ffôn, trwy e-bost, trwy neges testun, neu hyd yn oed yn ymddangos ar eich trothwy.

Mae rhai arwyddion cyffredinol a ddylai eich rhybuddio pryd bynnag y byddwch yn eu gweld. Byddwch yn wyliadwrus:

  • os cewch alwad, neges testun, e-bost neu lythyr annisgwyl
  • os bydd yr un sy’n galw yn ceisio eich dychryn trwy danlinellu eich bod mewn perygl
  • os na fydd yr un sy’n galw yn gwybod eich enw nag yn dweud o ba sefydliad ariannol y mae’n ffonio
  • os gofynnir i chi roi manylion personol neu gyfrineiriau – ni fydd eich banc fyth yn gofyn am gyfrineiriau llawn, na’ch cod PIN
  • os nad ydych erioed wedi clywed am y gystadleuaeth y dywedir eich bod wedi ei hennill
  • os gofynnir i chi dalu ymlaen llaw
  • eich bod yn cael eich gwthio i wneud penderfyniad cyflym – nid yw twyllwyr am roi amser i chi feddwl
  • os dywedir wrthych am ei gadw yn gyfrinach
  • os dywedir y byddant yn galw i gasglu cardiau yr effeithiwyd arnynt

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Sefydliad annibynnol yw’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Mae’n rhoi cyngor ariannol diduedd, am ddim ar-lein yn moneyadviceservice.org.uk, dros y ffôn ar 0300 500 5000, ac wyneb yn wyneb ledled y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd y Gwasanaeth gan y Llywodraeth a thelir amdano gan dreth statudol ar y diwydiant gwasanaethau ariannol, a godir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ei nodau statudol yw gwella dealltwriaeth a gwybodaeth y cyhoedd am faterion ariannol (gan gynnwys system ariannu’r Deyrnas Unedig); a gwella gallu’r cyhoedd i reoli eu materion ariannol eu hunain.

1 Yn ôl ONS, mae 50,909,000 miliwn o oedolion dros 18 oed.

Ffynhonnell: ons.gov.uk

Derbyniodd 43% o oedolion alwad amheus yn ystod y mis diwethaf gyda’r alwad yn parhau am 46 eiliad ar gyfartaledd. Mae hyn yn golygu bod 21 miliwn o alwadau yn cael eu gwneud yn y mis arferol a 700,000 y dydd. Mae 86,400 o eiliadau mewn diwrnod. Felly mae 8 galwad yn cael ei wneud bob eiliad.

2 Ffynhonnell: Yn ôl ystadegau a ryddhawyd gan Financial Fraud Action UK

3 Ffynhonnell: Yn ôl adroddiad gan Financial Fraud Action UK

4 Ffynhonnell: financial-ombudsman.org.uk

5 Ffynhonnell: Yn ôl Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

6 Ffynhonnell: Criminologist

7 Ffynhonnell: Criminologist

8 Ffynhonnell: Criminologist