Mae Credyd Cynhwysol yn cyflwyno ei siâr ddigon sylweddol o derminoleg a jargon. Dyma restr o rai o’r termau y tybiwn y gallech ddod ar eu traws a’u hystyr.
Diffiniadau Credyd Cynhwysol
Term
Ei ystyr
Trefniadau talu amgen
Pan fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn penderfynu naill ai i:
- dalu rhywun yn amlach nag yn fisol, efallai oherwydd maent yn profi anawsterau â chyllidebu
- rhannu taliad Credyd Cynhwysol rhwng rhywun a’u partner yn hytrach na rhoi taliad ar y cyd iddynt (er enghraifft oherwydd cam-drin ariannol), neu
- talu’r landlord yn uniongyrchol os na all y cwsmer reoli eu taliadau rhent eu hunain
|
|
Apelio
Os yw cwsmer yn anfodlon ar benderfyniad a wnaed am eu Credyd Cynhwysol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gallant ofyn iddo gael ei ailystyried ac, mewn rhai achosion, apelio i’r llysoedd i’w drafod eto.
Blaenswm Cyllidebu
Taliad blaenswm o Gredyd Cynhwysol i helpu rhywun i brynu dodrefn hanfodol neu offer at y tŷ, er enghraifft.
Benthyciad Cyllidebu
Yn cael ei ddisodli gan y Blaenswm Cyllidebu, mae Benthyciad Cyllidebu’n daliad ymlaen llaw o fudd-daliad i helpu rhywun gyda threuliau hanfodol.
Cyfalaf
Asedau ariannol cwsmer. Mae’n rhaid i gyfalaf rhywun fod yn is na lefel benodol i fod yn gymwys am Gredyd Cynhwysol. Mae cynilion a phethau fel eiddo’n cyfrif fel cyfalaf.
Elfen gofalwr
Swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol a ddyfarnir i rywun sy’n brif ofalwr i unigolyn ag anabledd difrifol.
Elfen plentyn
Swm o Gredyd Cynhwysol a ddyfarnir i rywun sy’n gyfrifol am blant.
Mae swm ychwanegol a elwir yr ‘ychwanegiad i blentyn anabl’ a delir ar gyfer pob plentyn anabl.
Elfen costau gofal plant
Swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol a ddyfarnir i rywun sy’n talu am ofal plant cofrestredig pan fyddant yn mynd i’r gwaith.
Ymrwymiad yr hawlydd
Dogfen bersonol sy’n cyflwyno popeth sydd angen i rywun ei wneud yn gyfnewid am dderbyn eu taliad Credyd Cynhwysol. I’r mwyafrif o bobl mae hyn yn golygu paratoi am waith a chwilio amdano.
Mae’n rhaid i’r cwsmer lofnodi’r ddogfen fel rhan o’r broses hawlio. Os yw cwpl yn gwneud hawliad i Gredyd Cynhwysol mae’n rhaid i’r ddau lofnodi ymrwymiad yr hawlydd ar wahân.
Didyniad
Swm o arian a dynnir oddi ar daliad Credyd Cynhwysol rhywun. Er enghraifft, didyniad oddi ar Gredyd Cynhwysol er mwyn ad-dalu gordaliad.
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Adran y llywodraeth sy’n rheoli cyflwyniad Credyd Cynhwysol
Taliad uniongyrchol
Pan y telir cymorth gyda chostau tai (neu Fudd-dal Tai) yn uniongyrchol i denantiaid, yn hytrach na’u landlordiaid.
Taliad Tai yn ôl Disgresiwn
Cymorth ariannol ar gyfer pobl sy’n cael trafferth talu eu rhent o ganlyniad i doriadau i’w Budd-dal Tai. Dyfarnir Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn gan yr awdurdod lleol.
Incwm a enillir
Enillion o gyflogaeth neu hunangyflogaeth.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Budd-dal a delir i bobl sydd â’u gallu i weithio wedi’i gyfyngu oherwydd salwch neu anabledd. Mae ESA yn seiliedig ar incwm yn cael eu ddiddymu’n raddol a’i ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.
Budd-dal Tai
Cymorth â’r rhent ar gyfer pobl ar incwm isel. Mae’n cael ei ddiddymu’n raddol a’i ddisodli gan elfen costau tai Credyd Cynhwysol.
Elfen costau tai
Swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol sy’n mynd tuag at gostau tai rhywun os ydynt yn talu rhent neu forgais.
Cymhorthdal Incwm
Cymorth ariannol i bobl heb incwm neu sydd ar incwm isel. Mae ar gyfer pobl nad ydynt yn gorfod llofnodi fel pobl ddi-waith, er enghraifft, oherwydd eu bod yn ofalwr. Mae’n cael ei ddiddymu’n raddol a’i ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.
Ganolfan Byd Gwaith
Rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n darparu gwasanaethau i geiswyr gwaith.
Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Budd-dal a delir i bobl sy’n ddi-waith, neu’n gweithio am lai nag 16 awr yr wythnos, ac yn chwilio am waith. Mae JSA sy’n seiliedig ar incwm yn cael ei ddiddymu’n raddol a’i ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.
Hawliad ar y cyd
Os yw cwpl yn gymwys am Gredyd Cynhwysol bydd angen iddynt wneud hawliad ar y cyd a byddant yn derbyn un taliad ar gyfer eu cartref.
Gallu cyfyngedig i weithio
Pan fydd gan rywun gyflwr iechyd neu anabledd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio.
Elfen gallu cyfyngedigi weithio
Os pennir rhywun â’u gallu i weithio wedi ei gyfyngu dyfarnir swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol iddynt.
Prawf modd
Mae rhai buddion yn amodol ar brawf modd. Mewn geiriau eraill, gall y swm o incwm a chyfalaf sydd gan gwsmer effeithio ar eu cymhwysedd.
Gordaliad
Pan delir mwy o Gredyd Cynhwysol i rywun nag y dylent ei dderbyn. Gweler Didyniad.
Lleoedd braenaru
Y lleoedd cyntaf ble mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno.
Hyfforddwr gwaith
Cynghorydd cymwysedig – fel arfer mewn Canolfan Byd Gwaith – sy’n rhoi cymorth dwys a chyngor i rywun wrth chwilio am swydd.
Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post (POCA)
Cyfrif a ddarperir gan Swyddfa’r Post a gynllunir ar gyfer pobl na allant gyrchu cyfrif banc i dderbyn budd-daliadau a phensiynau oddi wrth adrannau’r llywodraeth.
Ni ellir gwneud taliadau eraill i’r cyfrif hwn (e.e. cyflog) ac mae’n gyfrif heb drafodion felly ni ellir ei ddefnyddio i wneud taliadau awtomatig fel Debydau Uniongyrchol neu archebion sefydlog.
Sancsiwn
Os yw rhywun yn cael ei sancsiynu mae’n golygu bod eu Credyd Cynhwysol wedi’i dorri gan eu bod wedi methu â chwrdd ag un neu ragor o’r gofynion yn eu hymrwymiad fel hawlydd, er enghraifft nad ydynt wedi mynychu cyfweliad.
Taliadau rhanedig
Gweler Trefniadau talu amgen
Atal dros dro
Pan fydd Credyd Cynhwysol rhywun wedi’i atal gan fod amheuon ynghylch eu hawl.
Credydau treth
Mae credydau treth yn daliadau gan y llywodraeth.
- Os yw rhywun yn gyfrifol am o leiaf un plentyn gallent fod yn gymwys am Gredyd Treth Plant.
- Os ydynt yn gweithio ond maent ar incwm isel, gallent fod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith.
- Mae’r holl gredydau treth yn cael eu diddymu’n raddol a’u disodli gan Gredyd Cynhwysol.
|
|
Didyniadau trydydd parti
Mae’r rhain yn ddidyniadau oddi wrth Gredyd Cynhwysol rhywun i dalu am bethau fel ôl-ddyledion biliau tanwydd, neu ôl-ddyledion rhent.
Incwm nas enillir
Incwm o bethau fel pensiynau a mathau penodol o fudd-daliadau.
Paru Swyddi Cynhwysol
Gwasanaeth ar-lein y gellir ei ddefnyddio i baru pobl sy’n chwilio am waith gyda chyflogwyr sydd â swyddi ar gael.
Asesiad Gallu am Waith (WCA)
Y broses o gasglu gwybodaeth a thystiolaeth - weithiau’n cynnwys asesiad meddygol - er mwyn penderfynu a yw rhywun yn gallu gweithio.
Rhaglen Waith
Cymorth ychwanegol i bobl sydd angen rhagor o help wrth ddod o hyd i waith ac aros ynddo.
Grŵp cysylltiedig â gwaith
Mae pawb sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn cael ei aseinio i grŵp cysylltiedig â gwaith sy’n penderfynu beth sydd raid iddynt ei wneud i ddod o hyd i waith neu baratoi amdano.
Gofynion cysylltiedig â gwaith
Dyma’r pethau sydd raid i rywun eu gwneud i’w helpu i fynd yn ôl i’r gwaith, neu i ddod o hyd i ragor o waith neu waith a delir yn well. Fe’i rhestrir yn ymrwymiad yr hawlydd.