Trosolwg
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn ymroddedig i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosib, waeth beth yw’r rhwystrau ar sail anabledd, galluogrwydd neu dechnoleg.
Rydym yn gwirio tudalennau’r wefan hefyd - pan wneir newidiadau i dudalennau cyfredol neu pan ryddheir tudalennau newydd - i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion hygyrchedd, ac rydym yn ymateb yn gadarnhaol i adborth ynghylch hygyrchedd unrhyw un o’n tudalennau a’n gwasanaethau.
Os cewch anhawster wrth gael mynediad i’r wefan yna mae croeso i chi gysylltu â ni.
Defnyddio’r wefan
Ein nod yw darparu’r profiad mwyaf hygyrch â phosibl ar gyfer ein hymwelwyr ac rydym wedi creu’r nodweddion hygyrch canlynol:
Llywio gyda bysellfwrdd
- Darperir llywio rhesymegol a chyson ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd.
- Amlygir dolenni ar ffocws bysellfwrdd.
- Mae ein logo’n cysylltu’n uniongyrchol â’r hafan.
- Gallwch neidio’n syth i’r prif gynnwys, y prif lywio (os yw’r dudalen yn cynnwys hyn) a’r dudalen hygyrchedd drwy bwyso’r fysell tab i lywio trwy’r dolenni wedi i’r dudalen lwytho, ac yna pwyso’r allwedd enter ar y ddolen briodol.
- Rhoddwyd cyfleusterau chwilio ar draws y safle.
Darllenydd sgrin a llywio technolegol a chymorth
Dyluniwyd y wefan i fod yn hygyrch ar gyfer amrywiaeth o ddarllenwyr sgrîn a theclynnau cymorth, yn cynnwys:
- Darllenydd Sgrîn JAWS Fersiwn 12.0 ac uwch;
- NVDA 2014 ac uwch
- Apple Voiceover (iOS 8 ac uwch)
- Dragon Naturally Speaking 11.5 ac uwch; a
- Chwyddwr Sgrîn ZoomText 9.1 ac uwch.
Sylwch bydd gorchmynion bysellfwrdd i ddefnyddio’r darllenydd sgrîn yn amrywio’n ddibynnol ar y teclyn/meddalwedd cymorth penodol a ddefnyddiwch. Efallai y cewch anhawster gyda hen fersiynau o’r cymwysiadau hyn neu dechnolegau cymorth eraill. Os profwch anhawster, bydd croeso i chi gysylltu â ni.
ARIA (Cymwysiadau Rhyngrwyd Hygyrch)
Mae ARIA yn fanyleb dechnegol i sicrhau bod strwythur y safle’n hygyrch. Cafodd ei defnyddio ar draws y wefan er mwyn gwella profiad defnyddwyr sydd â nam ar y golwg.
Drwy aseinio rolau a nodau ARIA i elfennau o’r we, rydym wedi gwella’r modd y gall defnyddwyr darllenydd sgrîn lywio a defnyddio’n gwefan a rhai o’n hoffer mewnol.
Newid lliw a ffont ar y sgrin
Er nad ydym yn cynnig amrywiaeth gwahanol o liwiau i’w harddangos ar y wefan, gallwch ddefnyddio’r nodweddion yn eich porwr i newid maint y testun neu’r lliw ar y sgrîn.
Chwaraewyr sain a fideo
Rydym yn defnyddio chwaraewr fideo YouTube ar hyn o bryd sy’n defnyddio’r modd HTML5 yn ddiofyn os yw porwr y defnyddiwr yn cefnogi hyn (Internet Explorer 11 neu fersiynau mwy diweddar, yn ogystal â’r fersiynau diweddaraf o Chrome, Safari a Firefox).
Rydym yn argymell defnyddio un o’r porwyr hyn gan fod y chwaraewr fideo HTML5 YouTube yn fwy hygyrch o ran llywio allweddell, a gydag arddulliau ffocysu cliriach ac elfennau ffurflen wedi eu labelu’n dda. Fodd bynnag, mae yna rai problemau o hyd gyda diffyg cyferbynnedd lliwiau a defnyddio’r chwaraewr gyda meddalwedd actifadu’r llais.
Os defnyddir porwr hŷn (Internet Explorer 10 neu gynharach, neu fersiynau hŷn o borwyr eraill) yna bydd y chwaraewr fideo YouTube yn llwytho mewn modd Flash, sy’n cynnwys nifer o broblemau hygyrchedd nodedig.
Mae gan yr holl gynnwys fideo ar ein safle isdeitlau ac/neu gapsiynau caeedig.
Gosodwyd sain a fideo i beidio â chwarae’n awtomatig.
Dolenni, ffenestri newydd a haenau
Mae dolenni yn cynnwys testun clir a gellir eu deall allan o gyd-destun ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin.
Bydd dolenni i dudalennau ar yr un wefan yn agor yn yr un ffenestr. Bydd dolenni i dudalennau ar wefannau allanol yn agor mewn ffenestr newydd. Nodir y dolenni allanol hyn gan eicon bach wrth ymyl y ddolen:
Er enghraifft: Canllawiau Hygyrchedd WCAG 2.0
Efallai y bydd rhai dolenni’n agor mewn haen newydd, fel “pop-up”, ar ben y dudalen sydd ar eich sgrîn.
Bydd dolenni i ddogfennau a ffeiliau y gellir eu lawrlwytho yn agor mewn ffenestr newydd er mwyn osgoi amharu ar dechnolegau cymorth.
Bydd y dolenni hyn yn defnyddio’r ffurf ganlynol:
Enw Ffeil (Math o Ffeil)
Gallwch agor dolenni mewn ffenestr newydd drwy ddefnyddio’r llwybr byr bysellfwrdd Shift + Enter ar y rhan fwyaf o borwyr modern. (gall y llwybr byr bysellfwrdd ar gyfer agor dolenni mewn ffenestr newydd fod yn wahanol yn ddibynnol ar y porwr a’r system weithredu.)
Ffeiliau i’w lawrlwytho
Rydym wedi sicrhau bod y ffeiliau ar gael i’w lawrlwytho mewn amryw o ffurfiau. Y rhai mwyaf cyffredin yw: Adobe Acrobat (.pdf), Microsoft Word (.doc), a Microsoft Excel (.xls).
Os na allwch chi agor y mathau hyn o ddogfennau, lawrlwythwch a gosodwch y fersiynau diweddaraf o feddalwedd y syllwr rhad ac am ddim:
Ystyriaethau offer symudol
Mae’r safle wedi ei adeiladu’n ymatebol, er mwyn iddo fedru addasu ar declynnau llai, gan alluogi’r defnyddiwr i weld a llywio drwy’r cynnwys yn hawdd. Mae’r safle ymatebol wedi ei ddatblygu gyda chyfeiriad at waith Consortiwm y We Fyd-Eang (W3C) sef Menter Hygyrchedd y We (WAI), gan ystyried Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG 2) ac Arferion Gorau y We Symudol (MWBP 1.0).
Mae gan ddyfeisiau iOS ac Android nifer o nodweddion cynorthwyol cynwysedig y gallai defnyddwyr fanteisio arnynt. Am ragor o wybodaeth gweler y dolenni canlynol:
Cyfyngiadau Hygyrchedd
Mae rhai technolegau a nodweddion yn debygol o achosi anawsterau hygyrchedd, megis
- Dogfennau i’w lawrlwytho fel Adobe PDF
- Dogfennau i’w lawrlwytho fel Microsoft Word ac Excel
- Dolenni ar ffurf botymau
Rydym yn ymdrechu’n galed i oresgyn y cyfyngiadau hyn drwy wella’u hygyrchedd a chynnig dulliau hygyrch amgenach. Os ydych yn dymuno fersiynau amgenach na’n dogfennau lawrlwytho (megis testun plaen neu braille), neu os profwch unrhyw anawsterau eraill o ran hygyrchedd gyda’n gwefan, cofiwch gysylltu â ni.
Gall peth ymarferoldeb gael ei ddarparu gan drydydd partïon. Nid oes gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol unrhyw reolaeth dros hygyrchedd y cymwysiadau hyn, fodd bynnag ceisiwn gynnig modd hygyrch amgenach.
Mae ymarferoldeb a ddarperir gan drydydd partïon nad yw’n hygyrch, neu’n rhannol hygyrch yn cynnwys:
- yr offeryn arolwg naid;
- gwe-sgwrs; a
- chwaraewr fideo YouTube.
Rydym yn defnyddio offeryn arolwg trydydd parti, sy’n cynnwys nifer o faterion hygyrchedd. Mae hyn wedi cael y briodwedd ‘aria-cudd’ i’w guddio rhag defnyddwyr darllenwyr sgriniau i leihau amhariad. Rydym yn bwriadu datblygu offeryn arolwg hygyrch yn y dyfodol agos.
Mae amryw o ddolenni wedi eu dylunio i edrych fel botymau. Dylai defnyddwyr meddalwedd adnabod llais fod yn ymwybodol o hyn wrth geisio adnabod a nodi dolenni a botymau ar dudalen
Canllawiau Hygyrchedd
Mae’r safle hwn wedi ei ddatblygu er mwyn iddo gydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG 2.0) Consortiwm y We Fyd-Eang (W3C). Y canllawiau hyn yw’r meincnod a gydnabyddir yn rhynglwadol ar gyfer adeiladu gwefannau hygyrch. Mae’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We yn egluro sut i wneud gwefannau’n fwy hygyrch ar gyfer pobl ag anableddau. Wrth gydymffurfio â’r canllawiau hyn daw gwefannau’n haws i’w defnyddio gan bawb hefyd.
Achrediad hygyrchedd
Cymaint yw ein hymroddiad i hygyrchedd, rydym wedi gofyn i’r Ganolfan Hygyrchedd Digidol archwilio’r safle hwn o ran hygyrchedd. Cwblhawyd yr archwiliad diwethaf at 7 Gorffennaf 2014. Mae’r safle’n cael ei wella’n barhaus er mwyn ceisio achrediad y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Am ragor o wybodaeth ynghylch archwilio hygyrchedd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol, ewch i wefan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.
Cydweddoldeb Porwr
Mae’r safle hwn wedi ei brofi ar draws llwyfannau ac ar draws porwyr ac ar hyn o bryd mae’n cydymffurfio â phorwyr byrddau gwaith modern yn cynnwys:
- Microsoft Internet Explorer 9+; a’r fersiwn ddiweddaraf o
- Mozilla Firefox
- Apple Safari
- Google Chrome
- Opera.
Mae’r safle’n cydymffurfio â phorwyr symudol modern yn cynnwys:
- Safari (iOS) fersiwn 6+
- y fersiwn ddiweddaraf o Chrome (iOS)
- Android Webkit (fersiwn 2.x a 4.x)
Adeiladwyd y safle’n defnyddio gwelliant cynyddol, felly dylai’r cynnwys fod ar gael i bob porwr. Serch hynny, efallai y cewch anhawster gyda hen fersiynau o’r porwyr hyn neu borwyr eraill o’r we. Os profwch anhawster, bydd croeso i chi gysylltu â ni.
Am ragor o fanylion am osodiadau hygyrchedd eich porwr, ewch i dudalennau cymorth a chefnogaeth gwerthwr y porwr.
Safonau a thechnolegau’r We
Datblygwyd y wefan hon er mwyn cydymffurfio â safonau Consortiwm y We Fyd-Eang (W3C) ar gyfer HTML (Iaith Arwyddnodi Hyperdestun) a CSS (Templedi Arddull Rhaeadrol).
Mae’r wefan hon yn dibynnu ar HTML a CSS i fedru darllen cynnwys. Mae technolegau ychwanegol wedi eu defnyddio yn cynnwys JavaScript, serch hynny, nid yw’r wefan hon yn ddibynnol ar y technolegau hynny gan eu bod yn cael eu defnyddio i wella ymarferoldeb yn unig. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y technolegau hyn mor hygyrch â phosibl.
Cysylltu a ni
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i roi cymorth i bobl gael y profiadau gorau o’r wefan hon. Os oes unrhyw wybodaeth y credwch y dylid ei chynnwys ar y dudalen hon, neu os profwch anhawster wrth gael mynediad i’r wefan yna mae croeso i chi gysylltu â ni ar:
Gallwch ddefnyddio eich nodwedd cymorth hygyrchedd amser real i adrodd unrhyw anawsterau hygyrchedd. Fe’i gelwir yn AccessIN ac mae i’w weld ar waelod pob tudalen ar ein gwefan.
Cewch gais i gwblhau ffurflen fer, syml fel rhan o’r broses. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn ein helpu i adnabod a chywiro’r broblem ar unwaith.

Cefnogir AccessIN yn llwyr gan y tîm yn y Ganolfan Hygyrchedd Digidol a byddant yn cydweithio â ni i ddatrys eich problem mor gyflym â phosibl.
Dyddiad cydymffurfio
Cyhoeddwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 21/08/2014 a’i ddiweddaru ddiwethaf ar 22/11/2018.
Ein nod yw adolygu’n datganiad hygyrchedd ar 23/03/2019, serch hynny byddwn yn diweddaru’r datganiad hygyrchedd pan ychwanegir nodwedd newydd sylweddol.