Dydd Iau 10 Mawrth 2016
- Y rhai sy’n rhentu, pobl ifanc a’r rhai sydd â theuluoedd mawr sydd fwyaf bregus o ran dyledion problemus
- Cartefi yn Sandwell, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful sydd â’r lefelau uchaf o ddyled
- De Ddwyrain Lloegr a’r Alban sydd â’r gyfran isaf o breswylwyr mewn dyled
Mae un o bob chwech o oedolion yn y DU yn byw mewn gorddyled broblemus.
Mae astudiaeth sylweddol, yn seiliedig ar fodel a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a CACI, yn amcangyfrif y lefelau o orddyled yn y DU. Am y tro cyntaf, mae’r model yn rhoi [i]tebygolrwydd ystadegol i bob oedolyn yn y DU o fod mewn gorddyled, yn seiliedig ar nifer o ffactorau a nodweddion – yn cynnwys tenantiaeth, oed, pwy sy’n byw yn y cartref ac incwm. Mae’r data hwn yn rhoi argraff o orddyled, gan ddynodi sut mae pobl un ai wedi bod o leiaf dri mis yn hwyr gyda’u biliau yn y chwe mis diwethaf, neu’n teimlo bod eu dyledion yn faich trwm.
Dengys y canlyniadau bod rhentu eiddo yn dynodi eich bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn gorddyled na’rrhai sy’n berchen ar eu cartref (25% o’i gymharu â 12%). Mae tua 16 miliwn o bobl yn y DU yn rhentu eu cartref gydag un o bob pedwar (4.1 miliwn) ohonynt yn byw â phroblemau dyledion. Ar gyfer y rhai sy’n rhentu eiddo tai cymdeithasol mae’r tebygolrwydd hwn yn cynyddu i un o bob tri (29% o’i gymharu â 21% yn rhentu’n breifat).
Oedolion ifanc rhwng 25-34 oed yw’r grŵp oed sydd fwyaf tebygol o fod yn byw â phroblem ddyled. Ymysg rhai 25-34 oed, mae un o bob pedwar yn byw â phroblemau dyledion (2.1 miliwn) – y tebygolrwydd uchaf o’r holl fandiau oed. Dengys yr ymchwil bod y tebygolrwydd o broblemau dyledion ar ei uchaf yn yr oed hwn, ac nid yw’n lleihau’n sylweddol hyd nes cyrraedd y band oed 55-64.
Tra bod cael plant yn cynyddu’r tebygolrwydd o broblemau dyledion fwy na 50%[ii], awgryma’r dadansoddiad bod cysylltiad cryf iawn rhwng dyled a chael tri neu ragor o blant. Tra bod 19% o blant gydag un neu ddau o blant mewn gorddyled, mae hyn yn cynyddu i 26% ymysg oedolion sydd â thri neu ragor o blant.
Ar yr un pryd, amcangyfrifir bod un o bob pedwar (28% neu 1 miliwn) o rieni sengl yn y DU yn byw â dyledion problemus. Mae hyn bron ddwywaith y gyfartaledd genedlaethol, ac unwaith a hanner yn fwy tebygol na gyda theuluoedd dau riant.
Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Pennaeth Cyngor ar Ddyledion, Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol: “Mae’r ymchwil hwn yn torri tir newydd, gan roi cipolwg cyfredol iawn ar y lefelau o ddyled problemus ledled y DU. Amcangyfrifwn fod 8.2 miliwn o oedolion yn y DU yn dioddef o bryderon ariannol — gydag oedolion ifanc, teuluoedd mwy a rhieni sengl yn amlwg mewn mwy o berygl.
“Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid cyflawni* i sicrhau bod cyngor ar ddyledion yn rhwydd ei gael ledled y DU, yn enwedig mewn ardaloedd mwy bregus fel Cymru a Gogledd Iwerddon — ond er mwyn i hyn lwyddo i greu’r effaith orau, rhaid i ni sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn ymwybodol bod y cymorth hwnnw ar gael.
“Gwyddom fod cyngor ar ddyledion yn gweithio, ond ar hyn o bryd un o bob pump o bobl yn unig sydd ag anawsterau ariannol sy’n ceisio cyngor. Heddiw rydym yn galw ar bawb sydd â phroblemau dyledion neu bryderon ariannol, bach neu fawr, i geisio cyngor rhad ac am ddim cyn gynted â phosibl.”
Gall pobl a hoffai gael cymorth i roi trefn unwaith eto ar eu materion ariannol ddefnyddio’r Offeryn Canfod Cyngor ar Ddyledion i ganfod cymorth diduedd a rhad ac am ddim yn lleol.
I gael yr adroddiad A Picture of Over-Indebtedness yn llawn, sy’n cynnwys crynodeb o’r canlyniadau fesul awdurdod lleol, ewch i’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn www.moneyadviceservice.org.uk/pictureofdebt.
[i]I wneud hyn, cymharwyd 16,000 o oedolion i adnabod nodweddion gwahanol rhwng y rhai a oedd mewn gorddyled a’r rhai nad oeddynt. Defnyddiwyd y ffactorau hyn i greu model y gellid ei ddefnyddio ar gyfer poblogaeth y DU.
[ii] Mae cael plant yn cynyddu’r tebygolrwydd o broblemau gyda dyledion fwy na 50% o 13% ar gyfer y rhai sydd heb blant, i 20% ar gyfer oedolion sydd ag un plentyn o leiaf
-DIWEDD-
Tabl 1. Y 10 awdurdod lleol mwyaf orddyledus
Ranc |
Awdurdod lleol |
Rhanbarth o’r DU |
Canran o’r bobl yn yr ardal hon sydd mewn dyled |
1 |
Sandwell |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
24.7% |
2 |
Blaenau Gwent |
Cymru |
24.3% |
3 |
Merthyr Tydfil |
Cymru |
24.1% |
4 |
Newham |
Llundain |
23.8% |
5 |
Derry a Strabane |
Gogledd Iwerddon |
23.8% |
6 |
Barking a Dagenham |
Llundain |
23.0% |
7 |
Belfast |
Gogledd Iwerddon |
22.9% |
8 |
Tower Hamlets |
Llundain |
22.9% |
9 |
Kingston upon Hull |
Swydd Efrog a’r Humber |
21.9% |
10 |
Rhondda Cynon Taf |
Cymru |
21.9% |
DDIM AR GAEL |
DDIM AR GAEL |
Cyfartaledd y Deyrnas Unedig |
16.1% |
Tabl 2. Y 10 awdurdod lleol lleiaf orddyledus
Ranc |
Awdurdod lleol |
Rhanbarth o’r DU |
Canran o’r bobl yn yr ardal hon sydd mewn dyled |
1 |
Dwyrain Swydd Renfrew |
Yr Alban |
10.0% |
2 |
Dwyrain Dorset |
De-orllewin Lloegr |
10.1% |
3 |
Dwyrain Swydd Dunbarton |
Yr Alban |
10.1% |
4 |
Elmbridge |
De-ddwyrain Lloegr |
10.2% |
5 |
Dyffryn Mole |
De-ddwyrain Lloegr |
10.3% |
6 |
De Swydd Buckingham |
De-ddwyrain Lloegr |
10.6% |
7 |
Chiltern |
De-ddwyrain Lloegr |
10.6% |
8 |
Epsom ac Ewell |
De-ddwyrain Lloegr |
10.6% |
9 |
Swydd Aberdeen |
Yr Alban |
10.7% |
10 |
Hart |
De-ddwyrain Lloegr |
10.7% |
DDIM AR GAEL |
DDIM AR GAEL |
Cyfartaledd y Deyrnas Unedig |
16.1% |
*Rhoddir cyngor ar ddyledion gan y partneriaid canlynol:
Cymru a Lloegr
- Cyngor ar Bopeth
- East Midlands Money Advice
- Capitalise
- Money Advice West
- Greater Merseyside Money Advice
Yr Alban
- Scottish Legal Aid Board (SLAB)
Gogledd Iwerddon
- Adran Fentergarwch a Masnach Gogledd Iwerddon
Partneriaid ychwanegol
- Elusen Dyledion StepChange
- Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol
Bu i’n canlyniadau perfformiad Q3 (Hydref – Rhagfyr 2015) adrodd bod 89,000 o bobl wedi derbyn cyngor ar ddyledion drwy ein partneriaid a ariennir ledled y DU. Yn flynyddol, cynyddodd sesiynau cyngor ar ddyledion 35 y cant a bu i 79,000 o’r 89,000 o bobl a geisiodd gyngor ar ddyledion gymryd camau cadarnhaol er mwyn rheoli eu dyledion yn well. Cafwyd cynnydd o 38 y cant yn y nifer o gamau i reoli dyledion yn well yn flynyddol.
Fel rhan o’n cynllun busnes 2016/17 ein nod yw:
- Rhoi cymorth ariannol i 425,000 o bobl sydd mewn gorddyled (15% yn fwy na 2015/16) a rhoi mwy o gapasiti yn y sector cyngor am ddim ar ddyledion drwy ariannu llinell gymorth dros y ffôn.
- Erbyn 2020 byddwn yn dyblu’r gyfran o bobl sydd mewn dyled sy’n ceisio cyngor ar ddyledion o 17% i 34%.
- Byddwn yn cynnal cyfres o brofion gyda grwpiau targed penodol o bobl sydd mewn gorddyled i’w hannog i geisio cyngor cyn i’w dyledion ddatblygu’n broblem difrifol.
Methodoleg:
Comisiynodd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol CACI i greu model a fyddai’n amcangyfrif y lefel o orddyled ledled y Deyrnas Unedig yn gywir.
I wneud hynny, cymerodd CACI sampl o oedolion a oedd yn hysbys fel rhai mewn gorddyled, ac adnabod nodweddion sy’n eu gwahaniaethu o oedolion nad ydynt mewn gorddyled. Yna defnyddiasant y nodweddion hyn i greu model a all ragweld pa mor debygol yw rhywun i fynd i orddyled. Yn olaf, gweithredwyd y model ledled y wlad i greu amcangyfrifon cenedlaethol a rhanbarthol o orddyled.
Cymerwyd y sampl o bobl mewn gorddyled o amryw o arolygon ymchwil, a daeth y data a ddefnyddiwyd yn y model o gronfa ddata Ocean sy’n perthyn i CACI. Mae Ocean yn cynnwys gwybodaeth demograffig, ymddygiadol a ffordd o fyw ar gyfer 50 miliwn o oedolion yn y Deyrnas Unedig.
Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â:
Ynglŷn â’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Sefydliad annibynnol yw’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Mae’n rhoi cyngor ariannol diduedd, am ddim ar-lein yn moneyadviceservice.org.uk, dros y ffôn ar 0800 138 7777. Darperir cyngor ar ddyledion drwy amrywiaeth o bartneriaid ledled y DU hefyd. Sefydlwyd y Gwasanaeth gan y Llywodraeth a thelir amdano gan dreth statudol ar y diwydiant gwasanaethau ariannol, a godir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ei nodau statudol yw gwella dealltwriaeth a gwybodaeth y cyhoedd am faterion ariannol (gan gynnwys system ariannu’r Deyrnas Unedig); a gwella gallu’r cyhoedd i reoli eu materion ariannol eu hunain.