Pecyn cymorth gwerthuso cyngor ynghylch dyled
Sut y datblygwyd y Fframwaith Gwerthuso
Fe wnaethom gasglu sylwadau am y canlyniadau a ddymunir i gleientiaid gan ystod eang o randdeiliaid ar draws darparwyr gwasanaeth rheng-flaen cyngor ynghylch dyled, sefydliadau aelodaeth, a chredydwyr. Dynodwyd nifer fawr o ganlyniadau a ddymunid i gleientiaid, gan adlewyrchu’r effaith yr oedd sefydliadau’n dymuno ei gyflawni o gynghori eu cleientiaid. Bu ein Fforwm Cynghori ynghylch Dyled yn ystyried adborth cyfunol yr holl sefydliadau hyn a rhoi sylwadau.
Comisiynwyd PFRC (Canolfan Ymchwil Cyllid Personol) i ddatblygu’r fframwaith ymhellach a mireinio’r canlyniadau a ddymunir i gleientiaid. Fe wnaethant ystyried pa ganlyniadau y medrid eu priodoli i gyngor ynghylch dyled, pa rai oedd yn sgil-gynnyrch derbyn cyngor, a pha rai oedd am y broses o roi cyngor yn hytrach na’r canlyniadau a geisid.
Paratôdd PFRC ddrafft fframwaith ac arolwg i fynd gydag ef y gellid ei ddefnyddio i fesur y canlyniadau cleient a ddynodwyd. Fe wnaethom wedyn gomisiynu DVL Smith i gynnal prawf trwyadl ar yr arolwg a’r canlyniadau i gleientiaid gan ddefnyddio ymyriadau cyngor ynghylch dyled wyneb i wyneb, dros y ffôn ac ar y rhyngrwyd yn unig. Defnyddiodd yr ymchwil yma ystod o fethodolegau gan arwain at esblygu’r arolwg a’r fframwaith gwerthuso ar hyd y treialu.
Gan gydweithio gyda PFRC, rhoddwyd ystyriaeth i ganfyddiadau’r cynllun peilot ac wedyn ddiwygio’r deunyddiau i baratoi fersiwn terfynol y fframwaith gwerthuso a’r arolwg sy’n mynd gydag ef.
Yr hyn sydd yn y pecyn cymorth
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys yr adnoddau dilynol y medrir eu lawrlwytho:
Mwy yn 'Pecyn cymorth gwerthuso cyngor ynghylch dyled'