Pethau i gadw llygad amdanynt gyda chwsmeriaid Credyd Cynhwysol
Gall rhai sefyllfaoedd godi lle y tybiwch y byddai cwsmer yn elwa o gael cymorth neu gyngor arbenigol. Dyma rai sefyllfaoedd i gadw llygad amdanynt ac awgrymiadau ynglŷn â lle y gall cwsmer fynd i gael cefnogaeth.
Llawer o Ddebydau Uniongyrchol a wrthodwyd.
Os yw cwsmer yn aml yn cael taliadau Debyd Uniongyrchol wedi eu gwrthod mae hyn yn debygol o fod yn arwydd bod angen cymorth arno gyda chyllidebu.
Gall y cwsmer un ai:
Mae’r cwsmer yn dymuno canslo pob taliad awtomatig
Os bydd cwsmer yn gwneud cais i’w holl daliadau awtomatig gael eu canslo gall hyn awgrymu bod angen cymorth arno i flaenoriaethu biliau a chyllidebu.
Gall y cwsmer un ai:
Nid oes gan y cwsmer gronfeydd ariannol
Os nad oes gan gwsmer arian yn ei gyfrif a dim modd o gael arian i fyw arno mae’n debygol bod angen cymorth arno ar frys.
Gall y cwsmer un ai:
Cwsmer yn defnyddio credyd drud neu anaddas
Os yw cwsmer yn gwario arian ar gredyd drud, gall fod angen canllaw a chefnogaeth i ganfod dewisiadau benthyca mwy addas yn y tymor byr a gwella’i sgiliau cyllidebu i’r hirdymor.
Gall y cwsmer un ai:
Mae’r cwsmer yn gwario cyfran sylweddol o incwm ar dalu dyledion neu mae’n cael sylw cyson gan gredydwyr
Os yw cwsmer yn cael anhawster cadw dau ben llinyn ynghyd gan fod y rhan helaeth o’i incwm yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu dyledion ac/neu ei fod yn cael ei boenydio gan bobl sydd wedi benthyca arian iddo, yn sicr mae angen cymorth ar frys gyda’i ddyledion.
Gall y cwsmer un ai:
Mwy yn 'Resources for Professionals Universal Credit Information for Finance Staff'