Nid yw pedwar o bob deg o oedolion Cymru yn gwybod beth yw balans eu cyfrif banc

cymru 18 November 2015

Nid yw pedwar o bob deg o oedolion Cymru yn gwybod beth yw balans eu cyfrif banc

Heddiw mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Bwrdd Galluogrwydd Ariannol y DU yn cyhoeddi canlyniadau ymchwil ar allu Cymru i reoli arian*. Ymysg y canlyniadau allweddol:

  • Ni all 15% o bobl Cymru ddarllen cyfriflen banc
  • Nid yw 38% yn gwybod beth yw balans eu cyfrif banc o fewn £50
  • Mae bron i chwarter y bobl (23%) yn dibynnu ar gredyd
  • Mae 1 o bob 5 o bobl Cymru mewn gor-ddyled**
  • Mae gan 3 o bob 10 o bobl nod ariannol a chynllun i’w helpu i’w gyflawni

Dengys yr ymchwil, a gwblhawyd ymysg bron i 800 o bobl ledled Cymru, bod sgiliau rheoli arian yng Nghymru yn parhau’n ystyfnig o isel. Yn gyffredinol dengys y canlyniadau bod gan bobl Cymru, yn unol â gweddill y DU, agwedd ‘byw am heddiw’ gydag arian yn hytrach na chynilo ar gyfer yfory. Mae bron i chwarter y bobl yn ddibynnol ar gredyd a nifer pryderus o uchel ohonynt ddim yn ymwybodol o faint o arian sydd yn eu cyfrif cyfredol.

Bu addysg ariannol yn uchel ar agenda’r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. I raddau adlewyrchir hynny yng nghanlyniadau ein harolwg; gall 85 y cant o bobl Cymru ddarllen balans cyfrif banc o’i gymharu â 78 y cant yn unig ledled y DU.

Defnyddir y canlyniadau o’r ymchwil heddiw i ategu Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru ac rydym yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein holl waith yn bwydo Strategaeth Cynhwysiant Ariannol diwygiedig y Llywodraeth sydd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Wrth ymateb i’r canlyniadau, dywedodd Lee Philips, Rheolwr Cymru’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol: “Mae’n wych i raddau gweld bod llythrennedd ariannol yng Nghymru’n gryfach na gweddill y wlad, ond yn gyffredinol dengys y canlyniadau hyn duedd sy’n achos pryder. Mae bron i chwarter ohonom yng Nghymru yn ddibynnol ar gredyd cylchol ac mae hanner ohonom yn blaenoriaethu ein hanghenion heddiw ar draul cynilo i’r hirdymor.

“Rydym yn gwneud cynnydd da yng Nghymru drwy addysg mewn ysgolion a chynlluniau fel Siarad, Dysgu, Gwneud: Rhieni, Plant ac Arian gan y Loteri Fawr fydd yn cychwyn yn fuan, ac rydym yn grymuso rhieni i ddysgu eu plant am Arian hefyd.” Rydym yn falch iawn y bydd canlyniadau heddiw yn chwarae rhan hanfodol wrth fwydo Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Cymru ac edrychwn ymlaen at gefnogi ymdrech Llywodraeth Cymru i annog y wlad i ddechrau siarad a meddwl am arian.”

Dywedodd y Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: “Er fy mod yn falch fod yr adroddiad hwn yn dangos bod pobl Cymru’n perfformio’n well na gweddill y DU mewn rhai elfennau allweddol o lythrennedd ariannol, gwyddom fod yna ragor o waith i’w wneud. Mae trechu allgáu ariannol yn neilltuol o bwysig yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl ledled Cymru i gael y sgiliau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i reoli eu materion ariannol yn dda.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru, a fydd yn ategu ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol diwygiedig. Edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio â’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol a’n partneriaid eraill er budd pawb yng Nghymru.”

Mae gwybodaeth am yr ymchwil Galluogrwydd Ariannol ar gael yn www.fincap.org.uk/wales_strategy

.

DIWEDD

Nodiadau Golygyddol

*****Cwblhawyd yr Arolwg Galluogrwydd Ariannol 2015 gan GfK ar gyfer Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Cwblhawyd y cyfweliadau ar-lein ac wyneb yn wyneb yng nghartrefi pobl rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2015. Data Cymru yn seiliedig ar 795 o gyfweliadau. Data’r DU yn seiliedig ar 3,461 o gyfweliadau.

**Yn seiliedig ar waith modelu gan CACI ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Hydref 2015

Ynglŷn â’r Bwrdd Galluogrwydd Ariannol Mae aelodaeth y Bwrdd Galluogrwydd Ariannol yn cynnwys uwch gynrychiolwyr a rhai dylanwadol o’r llywodraeth, rheoleiddwyr, y sector ariannol ac elusennau allweddol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a all, gyda’i gilydd, gyflawni’r effaith fwyaf posibl. Andy Briscoe sy’n cadeirio’r Bwrdd Galluogrwydd Ariannol ac mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn gweithredu fel ysgrifennydd y Bwrdd.

Aelodaeth:

  1. Andy Briscoe, Cadeirydd, y Gwasanaeth Cynghori Ariannol (Cadeirydd y Bwrdd)
  2. Jasper Berens, Pennaeth Cronfeydd y DU, JP Morgan
  3. Syr Sherard Cowper-Coles, Uwch Gynghorydd, HSBC a Chadeirydd y Comisiwn Cynhwysiant Ariannol
  4. Benny Higgins, Prif Swyddog Gweithredol, Tesco Bank
  5. Athro Elaine Kempson, Athro Emeritws, Prifysgol Bryste
  6. Lily Lapenna, Sylfaenydd a Chyd Brif Swyddog Gweithredol, MyBnk
  7. Phil Loney, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp, Royal London
  8. Eleanor Marks, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru
  9. Louise Macdonald OBE, Prif Swyddog Gweithredol, Young Scot
  10. Gwyneth Nurse, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ariannol, Trysorlys Ei Mawrhydi
  11. Steve Pateman, Cyfarwyddwr Gweithredol, Pennaeth UK Banking, Santander
  12. Caroline Rookes CBE, Prif Swyddog Gweithredol, y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
  13. Roger Sanders OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr, Lighthouse Group
  14. Syr Hector Sants, Cadeirydd, Grŵp Gorchwyl Archesgob Caergaint ac Elusen Ddyledion StepChange
  15. Otto Thoresen, Cadeirydd, National Employment Savings Trust
  16. Sian Williams, Pennaeth Gwasanaethau Cenedlaethol, Toynbee Hall
  17. Chris Woolard, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chystadleuaeth, Awdurdod Ymddygiad Ariannol
  18. Tom Wright CBE, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp, Age UK

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddfa’r Wasg y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

020 7947 5315 / pressoffice@moneyadviceservice.org.uk