GALLAI DWY RAN O DAIR O BOBL YNG NGHYMRU FOD YN PRYDERU AM IECHYD MEDDWL ANWYLYN OHERWYDD PRINDER ARIAN

18 Mai 2018

GALLAI DWY RAN O DAIR O BOBL YNG NGHYMRU FOD YN PRYDERU AM IECHYD MEDDWL ANWYLYN OHERWYDD PRINDER ARIAN

  • Yn gyffredinol, mae dau o bob tri o bobl yng Nghymru (66%) wedi cael rheswm dros bryderu am lesiant meddwl cyfaill, aelod o’r teulu neu gydweithiwr yn sgil straen ariannol
  • Mae’r arwyddion mwyaf cyffredin i ddangos y gallai rhywun fod yn dioddef o lesiant meddwl gwael yn cynnwys newid mewn hwyl a thymer (51%), gorwario’n fympwyol (36%), ac osgoi ateb y ffôn (29%).
  • Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon, mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn annog pobl i gadw llygad am yr arwyddion hyn yn bersonol ac ymhlith eraill, ac ystyried cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl a chynghori ariannol

Dywed dau o bob tri (66%) oedolyn yng Nghymru fod straen ariannol wedi effeithio ar iechyd meddwl neu lesiant rhywun maent yn ei adnabod.

Daw’r wybodaeth hon i law drwy ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, a ryddhawyd fel modd o gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Ymysg yr holl oedolion, mae amryw wedi pryderu am lesiant meddwl aelod o’r teulu (55%), partner (44%) neu gyfaill (44%). Yn ogystal, mae chwech o bob 10 (61%) o bobl yng Nghymru wedi profi pryderon am eu hiechyd meddwl neu lesiant eu hunain oherwydd pryderon ariannol ar ryw adeg yn eu bywydau, gyda mwy na chwarter (27%) ohonynt yn dweud eu bod yn dioddef o anhwylder iechyd meddwl ar hyn o bryd yn sgil eu sefyllfa ariannol.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu rhestr sy’n amlygu arwyddion i gadw llygad arnynt os ydych yn pryderu bod materion ariannol yn effeithio ar eich iechyd neu’ch llesiant meddwl chi neu rywun arall. Yn ôl yr ymchwil, mae’r arwyddion mwyaf cyffredin yn cynnwys newid mewn personoliaeth (51%), megis hwyl a thymer a gorwario’n fympwyol (36%), ac osgoi ateb y ffôn (29%).

Dengys yr arwyddion hefyd y modd y gall problemau ariannol a materion iechyd meddwl waethygu’r naill a’r llall – dywed un o bob pump (22%) fod anwylyn wedi bod yn bryderus am gysylltu â’u banc neu ddarparwr ariannol, tra mae 17 y cant wedi sylwi bod rhywun agos wedi bod yn rhy bryderus i agor y post neu filiau.

Pan fydd cyfeillion a theulu pryderus yn sylwi ar broblemau, mae amryw fodd bynnag yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb i gynnig help yn bersonol a heb neb arall. Dywed bron i dri o bob 10 (29%) iddynt gynnig benthyciad – sef yr ymateb mwyaf cyffredin, tra cynigiodd 24 y cant eu help anffurfiol eu hunain. Pan argymhellwyd cymorth o’r tu allan, rhoddodd un o bob pedwar (24%) anogaeth i anwylyn geisio cyngor ar ddyledion.

Adlewyrchir hyn yn y ffaith bod dyled (43%) yn cael ei hystyried fel yr elfen amlycaf a gysylltir â dioddef o broblemau iechyd meddwl yng Nghymru, tra bod yr anallu i ymdopi â chostau beunyddiol fel biliau (25%) yn ffactor arwyddocaol arall.

Roedd y pwysigrwydd o gael arian wedi’i gynilo hefyd yn glir – mae biliau annisgwyl (24%) a gostyngiad annisgwyl mewn incwm i’r cartref (22%) hefyd wedi’u crybwyll fel ffactorau ariannol sy’n dylanwadu ar broblemau iechyd.

Dengys ymchwil genedlaethol fod yna gysylltiad rhwng materion ariannol, straen a materion iechyd meddwl. Mewn adroddiad diweddar gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, ymysg sampl o 1,822 o ddefnyddwyr a geisiodd gyngor ar ddyledion, adroddodd 59% ohonynt eu bod wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl. Mae hyn yn llawer iawn uwch na’r cyfartaledd yn y DU o 17 y cant[i].

Dywedodd Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, “Weithiau, gall pryderon ariannol ddeillio o lesiant meddwl gwael; weithiau gall llesiant meddwl gwael ddeillio o bryderon ariannol. Dengys ein hymchwil bod mwy na chwech o bob 10 o bobl yng Nghymru wedi profi llesiant meddwl gwael yn sgil pryderon ariannol. A bu dau o bob tri ohonom yn pryderu am lesiant meddwl anwylyn yn gysylltiedig â phryderon ariannol.

“Pa un ai’ch bod yn cael anhawster gyda thasgau beunyddiol, fel cadw trefn ar filiau a chyfriflenni banc, neu’n canfod eich bod yn methu taliadau, mae help ar gael. Mae siarad â rhywun, a chymryd yr amser i ganolbwyntio ar eich llesiant eich hun, yn eithriadol o anodd ond mae’n gam cyntaf pwysig iawn. Mae yna ystod eang o ganllawiau ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys ein Hofferyn Canfod Cyngor ar Ddyledion. Neu gallwch gysylltu â’n partneriaid iechyd meddwl gan gynnwys MIND Cymru, llinell gymorth CALL, y Samariaid, y Sefydliad Iechyd Meddwl neu Mental Health UK.”

-DIWEDD-

NODIADAU I OLYGYDDION

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â:

Methodoleg

Oni nodir yn wahanol ar y troednodiadau, mae’r data’n seiliedig ar 2,004 o gyfweliadau ar-lein gydag oedolion o’r DU. Ymgymerwyd â’r gwaith maes rhwng 11 ac 14 Mai 2018. Cwblhawyd yr arolwg ar-lein a’i gomisiynu gan Opinium. Mae’r ffigyrau wedi eu pwysoli ac maent yn cynrychioli holl oedolion y Deyrnas Unedig (dros 18 oed). Mae’r sampl yng Nghymru’n cynnwys 96 o ymatebwyr.

Atodiad
Rhestr lawn o arwyddion y gallai rhywun fod yn profi salwch meddwl neu lesiant meddwl gwael yn sgil pryderon ariannol

  ARWYDD NIFER ACHOSION (fel canran o’r rhai yn y DU sy’n adrodd pryderon ariannol ac iechyd meddwl yn bersonol neu ymysg pobl eraill)
1 Newid mewn hwyl / tymer 36%
2 Mwy o flinder neu ddiffyg cwsg 31%
3 Bod yn bryderus, dan straen neu heb hyder i gysylltu â’r banc neu’r darparwyr gwasanaeth ariannol yn uniongyrchol 22%
4 Gwario mwy o arian nag sydd ar gael 21%
5 Ddim yn agor biliau na llythyrau 19%
6 Yn teimlo bod diffyg rheolaeth dros fy arian / arian rhywun arall 18%
7 Osgoi siarad am arian 17%
8 Bod yn bryderus am wario unrhyw arian er ei fod ar gael 16%
9 Siarad â chi neu eraill am eu pryderon iechyd neu lesiant meddwl neu faterion ariannol 15%
10 Osgoi ateb y ffôn 14%
11 Ddim yn gwirio fy / eu balans banc 13%
12 Anghofio talu biliau 12%
13 Newidiadau mewn ymddygiad gwario 11%
14 Osgoi gwneud penderfyniadau ariannol pwysig 11%
15 Anallu i ddeall a phrosesu gwybodaeth am arian 11%
16 Bod yn absennol o’r gwaith ar fyr rybudd 9%

Ymchwil berthnasol arall ar arian ac iechyd meddwl

  • Mae’r rhai sy’n cael cyngor ar ddyledion yn profi lefelau is o iselder, pryder a phyliau o banig o ganlyniad. Os ystyriwch hyn mewn termau ariannol, mae’n cyfateb i fudd cost i economi’r DU hyd at £145m y flwyddyn, yn sgil llai o gostau i’r gwasanaeth iechyd a gwelliant mewn safon byw ar draws y tri maes hwn. (Ffynhonnell: Adroddiad Effaith Economaidd Cyngor ar Ddyledion y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
  • Gwella galluogrwydd ariannol y rhai sy’n dioddef o salwch meddwl mewn twf o 9% a adroddwyd mewn lefelau o welliant personol (Ffynhonnell: The impact of problem debt on health – arolwg llenyddol gan Equity Action.)

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Sefydliad annibynnol yw’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Mae’n rhoi cyngor ariannol diduedd, am ddim ar-lein yn moneyadviceservice.org.uk, dros y ffôn ar 0800 138 0555, ac wyneb yn wyneb ledled y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd y Gwasanaeth gan y Llywodraeth a thelir amdano gan dreth statudol ar y diwydiant gwasanaethau ariannol, a godir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ei nodau statudol yw gwella dealltwriaeth a gwybodaeth y cyhoedd am faterion ariannol (gan gynnwys system ariannu’r Deyrnas Unedig); a gwella gallu’r cyhoedd i reoli eu materion ariannol eu hunain.

https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy

[1] Ffigurau’n seiliedig ar yr adroddiad 2016 outcome evaluation of debt advice funded by Money Advice Service, October 2017; ni ddylid gwneud cymariaethau uniongyrchol. Adroddodd 59% o’r cleientiaid yn yr arolwg eu bod wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl. Mae hyn yn llawer iawn uwch na’r hyn a fesurir mewn arolygon cenedlaethol ac mae’n arwydd o lefelau uchel o or-ddyled ymysg pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Gellir lawrlwytho’r adroddiad o wefan MAS.