Swyddi
?
“Ein gweledigaeth ni yw gwella bywydau pobl wrth iddynt fynd ati i reoli eu harian yn gwbl naturiol.”
Rydym yma i helpu pawb i reoli eu harian yn well. Yn ein barn ni, mae cyngor ariannol priodol yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac mae pobl yn gallu byw yn well drwy gymryd camau i reoli eu harian yn well.
Rydym yn helpu drwy roi cyngor ariannol diduedd, yn ogystal â dylanwadu ar bobl sy’n llunio polisïau a’r sector ariannol. Drwy ymuno â’n tîm, gallwch chi fod yn rhan o hyn a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Mae ein gwerthoedd yn disgrifio sut mae ein pobl yn gweithredu, maent yn sail i’n penderfyniadau ac yn disgrifio beth y gall ein cwsmeriaid ei ddisgwyl gennym ni. Dyma yw ein gwerthoedd:
-
Canolbwyntio ar gwsmeriaid - yn galluogi a grymuso cwsmeriaid i weithredu
-
Cydweithrediadol - yn gweithio’n adeiladol gydag eraill er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol (i bobl)
-
Agored - gonest, didwyll, ffyddiog a dibynadwy
-
Angerddol - gwaith a nodweddir gan ymrwymiad, gofal, a brwdfrydedd
-
Gwrando a dysgu - yn ceisio deall, gwella ac arloesi trwy’r amser
Hysbysebir yr holl swyddi fel rhai sydd ar gael yn gyfartal i bob patrwm gwaith ac nid ydynt yn gyfyngedig i waith llawn amser oni bai bod cyfiawnhad busnes cryf dros hynny.
Nodir y cyflogau ar sail llawn amser, a chânt eu haddasu ar gyfer y rhai sy’n gweithio llai o oriau na hynny.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn gyflogwr cyfle cyfartal ac nid yw’n gwahaniaethu ar sail hil, crefydd, rhywedd, oed, rhyw, adnabod rhywedd na gallu corfforol.