Rydym yn newid ein enw i HelpwrArian
Cyn bo hir bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn dod yn HelpwrArian, y ffordd hawdd i gael help am ddim i’ch dewisiadau arian a phensiwn.
Rhoi trefn ar ddyledion, cyngor am ddim ar ddyledion, gwella’ch sgôr credyd a benthyca am gost isel
Rhentu, prynu cartref a dewis y morgais cywir
Rhedeg cyfrif banc, cynllunio’ch materion ariannol, cwtogi ar gostau, arbed arian a rhoi cychwyn ar fuddsoddi
Deall eich hawliau cyflogaeth, delio â cholli swydd, hawliadau budd-daliadau a Chredyd Cynhwysol
Cynllunio’ch ymddeoliad, cofrestru awtomatig, mathau o bensiwn ac incwm ymddeol
Cael babi, ysgaru a gwahanu, beth i’w wneud pan fydd rhywun wedi marw, dewis a thalu am wasanaethau gofal
Prynu, rhedeg a gwerthu car, prynu arian tramor, ac anfon arian dramor
Amddiffyn eich cartref a’ch teulu gyda’r polisïau yswiriant cywir
Arweiniad Ariannol Coronafeirws - Arweiniad dibynadwy a dolenni i gefnogaeth
Ewch i'n canolfan gymorth
Fel cyflogwr, rydych mewn sefyllfa unigryw i gynnig rhai ffyrdd a all helpu eich gweithwyr i reoli eu harian yn well. Mae rhai cynlluniau hefyd yn cynnig manteision trethiannol i chi fel cyflogwr.
A oes angen i chi gofrestru eich gweithwyr yn awtomatig ar bensiwn gweithle? Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud heddiw.
Gwahoddwch arbenigwyr fel eich darparwr pensiwn neu arbenigwr morgais eich banc lleol i drafod materion ariannol gyda’ch gweithwyr.
Holwch a yw busnesau lleol, fel campfeydd a bwytai, yn cynnig cynlluniau disgownt i weithwyr.
Ceisiwch leihau baich costau teithio i’r gwaith i’ch gweithwyr – helpwch gyda thocynnau teithio tymor neu cynigiwch gynllun beicio i’r gwaith.
Gweithio mewn partneriaeth gyda chwmnïau, er enghraifft Neyber, Salary Finance neu eich Undeb Credyd lleol sy’n darparu benthyciadau i gyflogeion ac yn casglu ad-daliadau’n uniongyrchol o’r gyflogres
Chwiliwch am ffyrdd i helpu gweithwyr reoli treuliau yn gysylltiedig â’r gwaith, fel cynnig cerdyn credyd corfforaethol.
Ystyriwch negodi yswiriant bywyd grŵp i’ch gweithwyr. Gall hyn gynnig polisi rhatach y gall eich gweithwyr dalu amdano. Bydd hyn yn cynnig sicrwydd ariannol i’w hanwyliaid petaent yn marw tra byddant yn gweithio i chi.
Darparu yswiriant diogelu incwm grŵp i’ch gweithwyr sy’n eu helpu os na fyddant yn gallu gweithio oherwydd anaf neu salwch tymor hir.
Gall yswiriant iechyd trwy’r gweithle gynnig buddion meddygol ychwanegol i’ch gweithwyr a’u hanwyliaid.
Gall rhaglen Cymorth i weithwyr gynnig gwasanaethau cynghori cyfrinachol i helpu eich gweithwyr i drafod problemau a all fod yn effeithio ar eu bywydau.
Cynnig mynediad i weithwyr at gynghorydd ariannol a reoleiddir Gallwch gynnig hyd at £500 o gyngor pensiwn y flwyddyn a chael rhyddhad ar gyfraniadau treth ac yswiriant gwladol.
Mae'n ddrwg gennym, mae gwe-sgwrs ar gael ar borwyr rhyngrwyd JavaScript yn unig.
Ymddiheuriadau, nid yw’r we sgwrs ar gael, ein horiau agor yw *
Ddim ar gael
0800 138 0555
Ein cyfeiriad e-bost cyffredinol yw enquiries@maps.org.uk.
Fel rheol byddwn yn ymateb i’ch ymholiad o fewn 48 awr ar ôl derbyn.