Mae rheolau newydd a gyflwynwyd yn Ebrill 2015 yn rhoi mwy o ryddid ynglŷn â beth gewch chi ei wneud gyda’ch cronfa bensiwn. Gall penderfynu beth i’w wneud fod yn gymhleth.
Yn yr offeryn dewisiadau incwm yn eich ymddeoliad rydym yn esbonio beth y bydd angen i chi feddwl amdano. Mae hyn yn cynnwys pa incwm fydd gennych, faint fydd arnoch ei angen ac am ba hyd y bydd angen i’r arian barhau. Bydd arnoch hefyd angen ystyried risgiau i’ch incwm, treth ac etifeddiaeth.
Yna gallwch archwilio eich dewisiadau cronfa bensiwn a defnyddio ein hoffer i geisio rhoi tro ar wahanol sefyllfaoedd i weld beth sy’n iawn i chi.
Yn olaf, mae rhai camau ymarferol ac adnoddau i’ch helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad cyfforddus.