Mae’n bwysig deall nad yw tynnu incwm i lawr yn rhywbeth y sefydlwch neu geisio cyngor arno unwaith ac yna anghofio amdano.
Mae angen monitro’ch buddsoddiadau’n rheolaidd (unwaith y flwyddyn o leiaf) i sicrhau bod y cydbwysedd gorau o dwf cyfalaf ac incwm yn cael ei gynnal i gynhyrchu’r lefel o incwm angenrheidiol ar eich cyfer yn awr ac i’r dyfodol. Os bydd y marchnadoedd stoc yn gostwng neu gronfeydd penodol yn perfformio’n wael bydd angen cywiro pethau. Gallai hyn olygu newid cronfeydd neu, ambell waith, newid darparwyr tynnu incwm i lawr.
Ymhellach, wrth i’ch anghenion newid wrth i chi fynd yn hŷn, gall wneud synnwyr i addasu’r modd y buddsoddir eich arian er mwyn rhoi rhagor o ddiogelwch i chi. Gall hyn gynnwys newid i gynnyrch sy’n cynnwys incwm wedi ei warantu, fel blwydd-daliadau.
Oni bai eich bod yn arbenigwr ariannol, nid yw rheoli buddsoddiadau tynnu incwm i lawr yn rhywbeth i chi ei ysgwyddo eich hun: bydd cynghorydd ariannol yn cynnig y cyfan o’r uchod i chi fel rhan o’i wasanaeth.
Newid darparwyr tynnu arian i lawr
Os prynwch flwydd-dal, dyna ni – ni allwch newid eich meddwl na’ch darparwr. Fodd bynnag, gydag incwm tynnu i lawr mae’n bosibl newid i ddarparwr newydd os bydd angen i chi wneud hynny. Fodd bynnag, byddwch yn wyliadwrus, mae hyn yn debygol o fod yn gostus ac felly ni ddylid gwneud hynny heb ystyried yn ofalus.
Gallai ‘trosglwyddiad’ penodol eich cronfeydd gymryd rhai wythnosau sy’n golygu na fydd eich arian wedi ei fuddsoddi yn ystod y cyfnod hwnnw o bosibl. Efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi droi rhai neu’r cyfan o’ch cronfeydd yn arian parod a phrynu cronfeydd newydd gyda’ch darparwr newydd (oni bai bod trosglwyddiad uniongyrchol ar gael). Efallai y bydd costau gadael hefyd a godir gan eich darparwr presennol.
Felly, tra bod newid darparwyr yn bosibl, nid yw’n rhywbeth i’w ystyried oni bai eich bod o’r farn eich bod yn talu ymhell dros y pris teg ar gostau neu bod eich buddosddiadau’n perfformio’n wael iawn. Mae’n well cael pethau’n iawn y tro cyntaf – sef pam y gallai cymryd cyngor gan rywun proffesiynol a all roi cymorth i chi ar y dewis cymhleth hwn, arbed arian i chi yn yr hirdymor efallai.
Os ydych eisoes mewn tynnu incwm i lawr 'wedi’i gapio'
Os ydych eisoes yn cymryd incwm o gronfa bresennol ‘tynnu incwm i lawr wedi’i gapio’ (ar gau i ymgeiswyr newydd) a’ch bod yn tynnu mwy o incwm allan nag y caniateir gan y ‘cap’ tynnu i lawr, yna fe’ch ystyrir wrth fynd ymlaen i fod mewn ‘Tynnu i lawr mynediad hyblyg’. Allwch chi ddim newid eich meddwl a mynd yn ôl i dynnu i lawr wedi’i gapio unwaith y byddwch wedi mynd heibio’r cap ac mae’r gostyngiad treth a gewch ar gynilion cyfraniad a ddiffinir yn y dyfodol yn cael ei leihau – gweler yr adran ddiweddarach ar Dreth i ddeall rhagor.