Rhoi trefn ar ddyledion, cyngor am ddim ar ddyledion, gwella’ch sgôr credyd a benthyca am gost isel
Rhentu, prynu cartref a dewis y morgais cywir
Rhedeg cyfrif banc, cynllunio’ch materion ariannol, cwtogi ar gostau, arbed arian a rhoi cychwyn ar fuddsoddi
Deall eich hawliau cyflogaeth, delio â cholli swydd, hawliadau budd-daliadau a Chredyd Cynhwysol
Cynllunio’ch ymddeoliad, cofrestru awtomatig, mathau o bensiwn ac incwm ymddeol
Cael babi, ysgaru a gwahanu, beth i’w wneud pan fydd rhywun wedi marw, dewis a thalu am wasanaethau gofal
Prynu, rhedeg a gwerthu car, prynu arian tramor, ac anfon arian dramor
Amddiffyn eich cartref a’ch teulu gyda’r polisïau yswiriant cywir
Arweiniad Ariannol Coronafeirws - Arweiniad dibynadwy a dolenni i gefnogaeth
Ewch i'n canolfan gymorth
Pa un a ydych chi yn dechrau ar eich swydd gyntaf, hanner ffordd trwy'ch bywyd gwaith, yn agosáu at ymddeol neu wedi ymddeol, bydd y llinell amser hon yn eich helpu chi i ddeall buddion cynilo pensiwn hirdymor ac ymroi i reoli'ch arian i sicrhau bod gennych ddigon o arian i fyw arno am oes.
Mae pensiynau yn cynnig ffordd o gynilo yn ddi-dreth a chael treth yn ôl i'ch helpu chi i gronni pot o arian i chi fyw arno yn ddiweddarach yn eich oes. Y cynharaf y gallwch ddechrau pensiwn y mwyaf o dreth y byddwch yn ei harbed ac yn ei chael yn ôl a'r mwyaf y bydd eich pot pensiwn pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i weithio yn y pendraw.
Os bydd eich cyflogwr yn cynnig pensiwn gweithle i chi dyma'r ffordd hawsaf o ddechrau. Os na fyddan nhw neu os ydych chi'n hunangyflogedig, gallwch ddechrau pensiwn personol.
Mae rhagor o wybodaeth am bensiynau gweithle a phersonol ar gael yn
Am bob £80 y byddwch chi'n ei dalu i bensiwn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £20 o ostyngiad treth cyfradd sylfaenol (o fewn cyfyngiadau) a gall trethdalwyr cyfradd uwch hawlio'r ychwanegol yn ôl - felly mae'n talu i gynilo mwy.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell pensiynau gweithle i weld faint y gallwch chi fforddio ei gynilo
Mae pensiynau yn buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau felly dylech wirio yn rheolaidd sut y mae'ch pot yn perfformio a cheisio cyngor os ydych chi'n pryderu. Wrth i'ch cyflog gynyddu, fel arfer mae'n gwneud synnwyr cynilo mwy i'ch pensiwn, cyhyd â bod gennych ddigon o arian i fyw arno a bod unrhyw ddyledion dan reolaeth.
Peidiwch ag anghofio am eich potiau pensiwn - rhowch nodyn yn eich dyddiadur i wirio bob hyn a hyn a ydych chi ar y trywydd cywir i fodloni'ch anghenion a chymryd camau os oes angen.
Edrychwch sut i wirio cynnydd eich cynilion pensiwn
Gallwch dderbyn gostyngiad treth ar gynilion pensiwn o hyd at £40,000 y flwyddyn felly mae'n werth talu mwy pan allwch chi fforddio hynny - a gorau po gyntaf y byddwch chi'n ychwanegu ato gan y bydd eich pot pensiwn yn tyfu ynghynt.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell bensiynau i weld faint o incwm ymddeol y gallai gwahanol symiau o gyfraniadau eu cynhyrchu
Mae'n iawn cael pensiynau a chynilion eraill yn ogystal â dyled ond mae'n bwysig cadw'r cyfan dan reolaeth a gwybod beth i'w flaenoriaethu os bydd arian yn dynn.
Gwiriwch pa ddyledion y dylech eu clirio yn gyntaf a pham
Wrth gwrs, bydd gennych lawer o ymrwymiadau eraill yn ystod eich bywyd gwaith - edrychwch sut i gyllidebu a sicrhau bod eich arian yn mynd ymhellach wrth barhau i gynilo ar gyfer y pensiwn.
Read a beginner's guide to budgeting and managing money
Bydd newidiadau mawr mewn bywyd fel symud tŷ, ysgariad neu golli swydd yn effeithio ar eich cyllid -- os ydych chi'n pryderu manteisiwch ar y cyngor am ddim sydd ar gael neu siaradwch â chynghorydd ariannol.
Edrychwch ble i gael cymorth a gwybodaeth am ddim
Deallwch y gwahanol fathau o gynghorwyr ariannol a sut i ddod o hyd i un
Gallai ymddeoliad ymddangos ymhell i ffwrdd, ond yn awr yw'r amser i wirio a fydd eich potiau pensiwn yn darparu'r incwm yr ydych chi ei eisiau a deall eich opsiynau i gael mynediad atynt. Mae hefyd yn amser da i adolygu'ch dyledion, gwneud ewyllys os nad oes gennych chi un - ac i fynnu cyngor os oes angen hynny arnoch chi.
Mae'n bwysig gwirio a yw'ch buddsoddiadau pensiwn ar y trywydd cywir i roi'r incwm yr ydych chi ei eisiau - os oes diffyg mae angen i chi edrych ar ffyrdd o roi hwb i'ch cynilion.
I'ch helpu chi i gynllunio ymlaen, darllenwch am eich opsiynau ar gyfer cymryd eich pensiwn o flaenllaw a sut y gallent effeithio ar eich treth ac unrhyw fudd-daliadau’r wlad.
Dysgwch fwy a chwilio am gynghorydd ariannol yn agos atoch chi
Yn awr yw'r amser hefyd i adolygu'ch dyledion i sicrhau y byddan nhw wedi'u clirio erbyn yr amser y byddwch chi'n ymddeol.
Dysgwch ba fenthyciadau neu ddyledion i'w blaenoriaethu a chael cyngor ar sut i'w clirio yn gynt.
Os nad ydych chi wedi gwneud ewyllys eto dylech wneud hynny yn awr – i wneud yn siŵr bod eich arian, asedau eraill ac unrhyw gronfa bensiwn nad yw wedi'i defnyddio yn cael ei phasio i'r rheini yr hoffech chi iddynt eu derbyn.
Gallwch gael arweiniad di-duedd, am ddim o wasanaeth Pension Wise y llywodraeth ynglŷn â'r opsiynau ar gyfer defnyddio'ch pot pensiwn a'r effaith ar dreth a budd-daliadau.
Dysgwch fwy am Pension Wise a sut i drefnu apwyntiad ffôn neu wyneb yn wyneb
Bydd cynghorydd ariannol yn gwneud argymhellion ar sut y gallech chi addasu'ch cynilion pensiwn cyfredol i uchafu ar dwf, ar sail eich amgylchiadau personol ac agwedd at risg.
Dysgwch fwy a chwiliwch am gynghorydd ariannol
Dyma'r amser i gasglu'ch holl waith papur pensiwn ynghyd, adolygu'ch holl fuddsoddiadau pensiwn a gwneud addasiadau munud olaf i helpu i uchafu ar eich incwm ymddeol.
Bydd cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth yn dangos faint fyddwch chi'n ei gael pan fyddwch yn ymddeol - efallai y byddwch yn gallu ei gynyddu trwy ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Gofynnwch am gyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth a dysgu am ychwanegu at gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi colli golwg ar bensiwn gweithle, bydd y gwasanaeth olrhain pensiwn yn eich helpu i'w olrhain.
Edrychwch sut i olrhain pensiwn coll - defnyddiwch ein templedi llythyr i arbed amser
Gwiriwch ddyddiadau a gwerthoedd ymddeol ar gyfer pob pot pensiwn a pha un a ydych chi angen symud eich arian i gronfeydd llai peryglus - rydym yn argymell y dylech chi gael cyngor ariannol wrth wneud hyn.
Defnyddiwch ein Cyfeiriadur Cynghorydd Ymddeol i chwilio am gynghorydd ariannol yn agos atoch chi
Cyfrifwch eich incwm tebygol yn gyffredinol, gan ystyried treth a budd-daliadau, ac yna defnyddiwch ein cynllunydd cyllideb i sicrhau bod gennych ddigon o arian i fyw.
Defnyddiwch ein cynllun 6 cam i amcangyfrif eich incwm cyffredinol ar ôl i chi ymddeol, gan gynnwys yr effaith ar dreth a budd-daliadau
Pa un a ydych chi'n ymddeol yn llawn neu'n raddol, mae angen i chi lunio cynllun incwm ymddeol yn ystod y misoedd cyn hynny i sicrhau y bydd gennych ddigon o arian i fyw. Defnyddiwch hyn i gael arweiniad neu gyngor ariannol ar ba opsiynau a allai fod yn addas i ddefnyddio'ch pot pensiwn.
Ceisiwch ddyfynbrisiau gan eich darparwr/darparwyr pensiwn a gofynnwch a oes gennych gyfradd blwydd-dal gwarantedig -- os oes gennych chi, bydd hi'n anodd curo hynny. Ceisiwch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth os nad ydych chi wedi gwneud hynny hyd yma.
Ceisio rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Gwiriwch y bydd eich pensiwn ac incwm arall yn rhoi'r gymysgedd gywir o ddiogelwch a hyblygrwydd i fodloni'ch anghenion hirdymor ac unrhyw ddibynyddion - os na fydd, hwyrach y bydd angen i chi ymddeol yn hwyrach.
Defnyddiwch ein hofferyn opsiynau incwm ymddeol i ddeall eich opsiynau incwm a helpu i lunio cynllun incwm ymddeol.
Mae 25% cyntaf eich pot pensiwn yn ddi-dreth a byddwch chi'n talu Treth Incwm ar y gweddill ac ar eich Pensiwn y Wladwriaeth - cofiwch ystyried hyn wrth gyllidebu ar gyfer ymddeoliad.
Dysgu mwy am Dreth Incwm ar ôl ymddeol
Bydd y budd-daliadau cysylltiedig ag oed y mae gennych yr hawl iddynt ar ôl ymddeol weithiau yn dibynnu ar eich incwm - ac fe allai effeithio ar sut y byddwch chi'n dewis defnyddio'ch pot pensiwn.
Edrychwch pa fudd-daliadau y gallwch eu derbyn ar ôl ymddeol
Unwaith y mae gennych syniad clir o'ch incwm ymddeol tebygol defnyddiwch ein cynllunydd cyllideb i sicrhau y bydd gennych chi ddigon i fyw.
Creu cynllun cyllideb ymddeol ar-lein ac ar bapur
Os nad ydych chi wedi gwneud hynny hyd yma, manteisiwch ar arweiniad di-duedd, am ddim gan wasanaeth Pension Wise y llywodraeth.
Dysgwch fwy am arweiniad ar y ffôn ac wyneb yn wyneb gan Pension Wise
Os ydych chi'n ystyried blwydd-dal, rydych chi'n fwy tebygol o gael bargen well trwy edrych o gwmpas -- gallech chi roi cynnig ar hyn eich hun, ond ceisiwch gyngor ariannol cyn ymrwymo i unrhyw beth.
Dilynwch ein cynllun 4 cam ar gyfer edrych o gwmpas am flwydd-dal - yna ceisiwch gyngor
Oni bai eich bod chi'n sicr pa opsiwn incwm ymddeol sydd orau i chi, ceisiwch gyngor ariannol - bydd eich dewisiadau yn effeithio ar eich incwm am weddill eich oes ac efallai y bydd yn ddi-droi'n-ôl.
Defnyddiwch ein Cyfeiriadur Cynghorwyr Ymddeol i chwilio am arbenigwr
Mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi fyw ar lai pan fyddwch chi'n ymddeol felly mae'n bwysig cadw golwg ar eich ffynonellau incwm a chanfod ffyrdd o wneud i'ch arian fynd ymhellach. Bydd angen i chi hefyd gynllunio at yr annisgwyl pe bai eich iechyd chi neu'ch partner yn newid yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae'n debyg y bydd eich incwm yn gostwng ac y bydd eich patrymau gwario yn newid ar ôl i chi ymddeol - ond mae llawer y gallwch ei wneud i gynllunio ar gyfer hyn a helpu'ch arian i fynd ymhellach.
Cynghorion ar sut i wneud i'ch arian fynd ymhellach ar ôl ymddeol
Gall ymddeoliad bara am dros 30 mlynedd felly cofiwch wirio'n flynyddol bod unrhyw bot pensiwn sy'n weddill neu arian tynnu i lawr ar y trywydd cywir i fodloni'ch anghenion hirdymor - gall cynghorydd ariannol eich helpu chi i wneud hyn.
Crëwch rybudd dyddiadur blynyddol yn awr, ac yna chwiliwch am gynghorydd ariannol yn eich ardal chi
Wrth i chi dyfu'n hŷn mae angen i chi feddwl am sut y byddech chi'n ymdopi'n ariannol pe bai chi neu'ch partner angen gofal hirdymor - bydd deall pwy sy'n talu am beth yn eich helpu chi i gynllunio.
Edrychwch am gostau ac ariannu ar gyfer gofal hirdymor a chefnogaeth ariannol i ofalwyr
Wrth i chi dyfu'n hŷn mae'n ddoeth gosod mesurau a fydd yn caniatáu i rywun yr ydych chi'n ymddiried ynddo reoli'ch materion os na fyddwch chi'n gallu gwneud hynny eich hun - gelwir hyn yn caniatáu pŵer atwrnai.
Edrychwch am y mathau o bwerau atwrnai sydd i'w cael a sut i drefnu un
Erbyn i chi ymddeol bydd llawer o bethau wedi newid - yn awr yw'r amser i wirio a yw'ch ewyllys yn dal i gyfleu'r ffordd yr hoffech chi drosglwyddo'ch arian ac asedau eraill pan fyddwch chi'n marw.
Edrychwch sut i newid eich ewyllys
Mae'n ddrwg gennym, mae gwe-sgwrs ar gael ar borwyr rhyngrwyd JavaScript yn unig.
Ymddiheuriadau, nid yw’r we sgwrs ar gael, ein horiau agor yw *
Ddim ar gael
0800 138 0555
Ein cyfeiriad e-bost cyffredinol yw enquiries@maps.org.uk.
Fel rheol byddwn yn ymateb i’ch ymholiad o fewn 48 awr ar ôl derbyn.