Rhoi trefn ar ddyledion, cyngor am ddim ar ddyledion, gwella’ch sgôr credyd a benthyca am gost isel
Rhentu, prynu cartref a dewis y morgais cywir
Rhedeg cyfrif banc, cynllunio’ch materion ariannol, cwtogi ar gostau, arbed arian a rhoi cychwyn ar fuddsoddi
Deall eich hawliau cyflogaeth, delio â cholli swydd, hawliadau budd-daliadau a Chredyd Cynhwysol
Cynllunio’ch ymddeoliad, cofrestru awtomatig, mathau o bensiwn ac incwm ymddeol
Cael babi, ysgaru a gwahanu, beth i’w wneud pan fydd rhywun wedi marw, dewis a thalu am wasanaethau gofal
Prynu, rhedeg a gwerthu car, prynu arian tramor, ac anfon arian dramor
Amddiffyn eich cartref a’ch teulu gyda’r polisïau yswiriant cywir
Arweiniad Ariannol Coronafeirws - Arweiniad dibynadwy a dolenni i gefnogaeth
Ewch i'n canolfan gymorth
Mae’n gyfraith erbyn hyn y dylai’r rhan fwyaf o gyflogeion gael eu cofrestru ar gynllun pensiwn gweithle gan eu cyflogwr. Bydd y gyfrifiannell hon yn dangos faint fydd yn cael ei dalu i mewn i'ch pensiwn gennych chi a'ch cyflogwr.
Mae arnom angen gwybod eich oedran er mwyn i ni fedru cyfrifo’r cyfraniadau’n gywir – mae’r rheolau’n amrywio ychydig yn seiliedig ar oed. Eglurir hyn yn y llythyr a gewch gan eich cyflogwr am gofrestru awtomatig.
Rhaid i ni wybod eich rhyw oherwydd mae rheolau cyfrannu’n amrywio ychydig yn sgil gwahaniaethau presennol yn nyddiadau ymddeol Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a merched.
Rydych yn rhy ifanc i ymuno â phensiwn gweithle. Pan gyrhaeddwch 16 oed gallwch ofyn i’ch cyflogwr eich cofrestru. Os felly, bydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniadau.
Ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru yn awtomatig am bensiwn, ond gallwch ddewis ymuno.
Nid ydych yn gymwys i ymuno â phensiwn gweithle gan eich bod yn hŷn na’r uchafswm oed.
Ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru yn awtomatig am gynllun pensiwn gweithle, ond gallwch ddewis ymuno. Os felly, ni fydd yn ofynnol i'ch cyflogwr wneud cyfraniadau.
Ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru yn awtomatig am gynllun pensiwn gweithle, ond gallwch ddewis ymuno. Os felly, bydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniadau.
Sylwer: Mae eich enillion yn agos iawn at y trothwy lle nad oes raid i’ch cyflogwr gyfrannu at eich pensiwn os dewiswch gofrestru. Dylech wirio i gadarnhau a fydd eich cyflogwr yn cyfrannu neu beidio oherwydd mae’r trothwy hwn yn amrywio yn ddibynnol ar a ydych yn cael eich talu’n fisol, wythnosol neu bob 4 wythnos. Darllenwch fwy am y trothwyon cyflog ar gyfer pensiynau gweithle.
Sylwer: Mae eich enillion yn agos iawn at y trothwy cyflog cofrestru awtomatig. Dylech wirio gyda’ch cyflogwr i gadarnhau a ydych yn gymwys neu beidio i gael eich cofrestru’n awtomatig gan fod y trothwyon yn amrywio yn ddibynnol ar a ydych yn cael eich talu’n fisol, wythnosol neu bob 4 wythnos. Darllenwch fwy am y trothwyon cyflog ar gyfer pensiynau gweithle.
Rhowch eich cyflog cyn i’r dreth nag unrhyw ddidyniadau eraill gael eu tynnu. Gelwir hyn yn gyflog gros. Os oes gennych fwy nag un swydd (Yn agor mewn ffenestr newydd), bydd raid i chi roi pob cyflog ar wahân.
Gall eich cyflogwr ddewis os yw am wneud cyfraniadau ar ran o'ch cyflog (a elwir yn enillion cymhwyso i sioe help ) neu ar eich cyflog llawn. I gael gwybod pa un, bydd angen i chi wirio gyda’ch cyflogwr.
Enillion cymhwyso: Dyma’r rhan o’ch cyflog blynyddol fydd yn cael ei defnyddio i gyfrifo eich cyfraniad pensiwn dan gofrestru awtomatig. Sef eich enillion cyn treth (hyd at derfyn uchafswm o £50,000 y flwyddyn) - tynnu’r trothwy enillion isaf o £6,240.
Ar eich lefel enillion, bydd rhaid i chi wneud cyfraniadau yn seiliedig ar eich cyflog llawn.
Mae'n ddrwg gennym, mae gwe-sgwrs ar gael ar borwyr rhyngrwyd JavaScript yn unig.
A oes gennych chi gwestiwn? Bydd ein cynghorwyr yn eich arwain i'r cyfeiriad cywir. *
0800 138 0555
Ein cyfeiriad e-bost cyffredinol yw enquiries@maps.org.uk.
Fel rheol byddwn yn ymateb i’ch ymholiad o fewn 48 awr ar ôl derbyn.