Cyngor ariannol da i raddedigion
Ansicr sut y byddwch yn rheoli’ch arian ar ôl ichi raddio? Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau gwych i roi cymorth i chi gadw rheolaeth ar eich arian.
Pa un ai’ch bod yn penderfynu parhau i astudio, chwilio am swydd, neu fynd i deithio, mae’n bwysig i chi reoli’ch arian yn gywir. Mae hyn yn neilltuol o bwysig wrth i chi ddechrau gweithio – mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cyllidebu ar ôl bod yn fyfyriwr.
Yn syml, cliciwch yr adran sy’n cyfateb orau i’r hyn y dymunwch ei wneud i gael rhestr o awgrymiadau da.
Parhau ym myd addysg
- Cliriwch unrhyw filiau sy’n weddill
- Os ydych yn symud o’ch tŷ, hawliwch eich blaendal yn ôl gan eich landlord
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol gyda’ch cyfeiriad newydd fel y byddant yn eich rhoi ar eu cofrestr etholiadol
- Gwnewch yn siŵr bod eich banc a’ch darparwr ffôn yn gwybod eich bod wedi symud tŷ
- Os yw dyled yn peri pryder ichi, mynnwch gyngor ar unwaith. Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
- Os oes gwir angen ichi fenthyca arian, meddyliwch yn ofalus am eich opsiynau cyn gwneud hyn. Oes angen ichi fenthyca arian?
- Os ydych yn gyrru, meddyliwch a oes gwir angen ichi redeg car tra’ch bod yn rhoi trefn ar eich arian
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y darparwr ynni rhataf. Darllenwch ragor yn Arbedwch arian ar eich biliau nwy a thrydan
Mynd i deithio
- Talwch eich biliau terfynol fel myfyriwr
- Casglwch eich ernes yn ôl gan eich landlord
- Gwnewch yn siŵr bod eich banc a’ch darparwr ffôn yn gwybod eich bod wedi symud tŷ
- Os yw dyled yn peri pryder ichi, mynnwch gyngor ar unwaith. Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
- Os oes gwir angen ichi fenthyca arian, meddyliwch yn ofalus am eich opsiynau cyn gwneud hyn. Oes angen ichi fenthyca arian?
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau’ch cyfrif banc newydd i raddedigion. Darllenwch ein canllaw i gyfrifon banc myfyrwyr a graddedigion
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu yswiriant teithio a gwiriwch y telerau’n ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn yswirio’r holl bethau rydych am eu gwneud tra’ch bod i ffwrdd
- Rhowch wybod i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr os ydych yn mynd dramor am gyfnod hir o amser
- Cynlluniwch gostau fel fisâu a brechiadau
Cael swydd
- Manteisiwch ar unrhyw gyngor ar yrfaoedd sydd ar gael ichi
- Talwch eich biliau terfynol fel myfyriwr
- Casglwch eich ernes yn ôl gan eich landlord
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol gyda’ch cyfeiriad newydd fel y byddant yn eich rhoi ar eu cofrestr etholiadol
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau’ch cyfrif banc newydd i raddedigion. Darllenwch ein canllaw ar gyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
- Os ydych yn gyrru, meddyliwch a oes gwir angen ichi redeg car tra’ch bod yn rhoi trefn ar eich arian
- Cadwch eich opsiwn i aros i mewn neu ymunwch â chynllun pensiwn er bod oedran pensiwn yn ymddangos ymhell i ffwrdd. Dysgu ragor am Nodweddion sylfaenol pensiwn
- Gwiriwch gyda’ch cyflogwr eich bod ar y cod treth cywir
- Gwnewch yn siŵr y telir o leiaf yr isafswm cyflog ichi.
- Mae faint o amser sydd gennych i dalu’ch benthyciad yn ôl yn seiliedig ar eich incwm. Ond cofiwch: bydd y swm sydd arnoch yn gyfuniad o’ch ffioedd dysgu a’ch benthyciad cynhaliaeth.
- Byddwch yn barod am yr ysgytwad diwylliannol o fyd gwaith. Ar y dechrau mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo’n waeth eu byd yn ariannol nag oeddynt yn y brifysgol. Darllenwch am Gyllidebu ar gyfer eich swydd gyntaf
- Os yw dyled yn peri pryder ichi, mynnwch gyngor ar unwaith. Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
- Os ydych yn bwriadu bod yn hunangyflogedig, sicrhewch eich bod yn rhoi digon o arian i’r naill ochr i dalu’ch treth
Interniaethau
- Manteisiwch ar unrhyw gyngor ar yrfaoedd sydd ar gael ichi
- Deallwch eich hawliau wrth weithio fel intern
- Talwch eich biliau terfynol fel myfyriwr
- Casglwch eich ernes yn ôl gan eich landlord
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol gyda’ch cyfeiriad newydd fel y byddant yn eich rhoi ar eu cofrestr etholiadol
- Os oes gwir angen ichi fenthyca arian, meddyliwch yn ofalus am eich opsiynau cyn gwneud hyn. Oes angen ichi fenthyca arian?
- Os yw dyled yn peri pryder ichi, mynnwch gyngor ar unwaith. Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau’ch cyfrif banc newydd i raddedigion. Darllenwch ein canllaw ar gyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
- Os ydych yn gyrru, meddyliwch a oes gwir angen ichi redeg car tra’ch bod yn rhoi trefn ar eich arian
- Gwiriwch gyda’ch cyflogwr eich bod ar y cod treth cywir
- Mae faint o amser sydd gennych i dalu’ch benthyciad yn ôl yn seiliedig ar eich incwm. Ond cofiwch: bydd y swm sydd arnoch yn gyfuniad o’ch ffioedd dysgu a’ch benthyciad cynhaliaeth.
- Byddwch yn barod am yr ysgytwad diwylliannol o fyd gwaith. Ar y dechrau mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo’n waeth eu byd yn ariannol nag oeddynt yn y brifysgol. Darllenwch am gyllidebu ar gyfer eich swydd gyntaf
- Efallai na fydd eich rôl intern yn rhywbeth yr ydych am ei wneud yn yr hirdymor, ond gallai’r profiad eich helpu i gael eich swydd ddelfrydol.
Symud yn ôl adref
- Talwch eich biliau terfynol fel myfyriwr
- Casglwch eich ernes yn ôl gan eich landlord
- Cynilwch am flaendal ar gyfer eich cartref cyntaf os ydych yn rhentu neu brynu
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol gyda’ch cyfeiriad newydd fel y byddant yn eich rhoi ar eu cofrestr etholiadol
- Gwnewch yn siŵr bod eich darparwr ffôn a’ch banc yn gwybod eich bod wedi symud tŷ
- Os yw dyled yn peri pryder ichi, mynnwch gyngor ar unwaith. Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau’ch cyfrif banc newydd i raddedigion. Darllenwch ein canllaw ar gyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
-
Os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n parhau ym myd addysg gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y budd-daliadau cywir
- Os ydych yn gyrru, meddyliwch a oes gwir angen ichi redeg car tra’ch bod yn rhoi trefn ar eich arian
- Mae faint o amser sydd gennych i dalu’ch benthyciad yn ôl yn seiliedig ar eich incwm. Ond cofiwch: bydd y swm sydd arnoch yn gyfuniad o’ch ffioedd dysgu a’ch benthyciad cynhaliaeth.
- Byddwch yn barod am yr ysgytwad diwylliannol o fyd gwaith. Ar y dechrau mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo’n waeth eu byd yn ariannol nag oeddynt yn y brifysgol. Darllenwch am Gyllidebu ar gyfer eich swydd gyntaf
Symud allan o dŷ i fyfyrwyr
- Talwch eich biliau terfynol fel myfyriwr
- Casglwch eich ernes yn ôl gan eich landlord
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol gyda’ch cyfeiriad newydd fel y byddant yn eich rhoi ar eu cofrestr etholiadol
- Gwnewch yn siŵr bod eich darparwr ffôn a’ch banc yn gwybod eich bod wedi symud tŷ
- Os yw dyled yn peri pryder ichi, mynnwch gyngor ar unwaith. Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau’ch cyfrif banc newydd i raddedigion. Darllenwch ein canllaw ar gyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
- Os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n parhau ym myd addysg gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y budd-daliadau cywir
- Os ydych yn gyrru, meddyliwch a oes gwir angen ichi redeg car tra’ch bod yn rhoi trefn ar eich arian
Dod o hyd i rywle newydd i fyw
- Talwch eich biliau terfynol fel myfyriwr
- Casglwch eich ernes yn ôl gan eich landlord
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol gyda’ch cyfeiriad newydd fel y byddant yn eich rhoi ar eu cofrestr etholiadol
- Gwnewch yn siŵr bod eich darparwr ffôn a’ch banc yn gwybod eich bod wedi symud tŷ
- Os yw dyled yn peri pryder ichi, mynnwch gyngor ar unwaith. Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
- Os oes gwir angen ichi fenthyca arian, meddyliwch yn ofalus am eich opsiynau cyn gwneud hyn. Oes angen ichi fenthyca arian?
- Cynlluniwch sut y byddwch yn rhoi arian heibio i dalu am y Dreth Gyngor neu ardrethi, a pha ddull talu fyddwch yn ei ddefnyddio
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y darparwr ynni rhataf. Dysgwch ragor yn Arbedwch arian ar eich biliau nwy a thrydan
- Os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n parhau ym myd addysg gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y budd-daliadau cywir
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau’ch cyfrif banc newydd i raddedigion. Darllenwch ein canllaw ar gyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
- Os ydych yn gyrru, meddyliwch a oes gwir angen ichi redeg car tra’ch bod yn rhoi trefn ar eich arian
- Byddwch yn barod am yr ysgytwad diwylliannol o fyd gwaith. Ar y dechrau mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo’n waeth eu byd yn ariannol nag oeddynt yn y brifysgol. Darllenwch am Gyllidebu ar gyfer eich swydd gyntaf
Ddim yn gwybod
- Hyd yn oed os na wyddoch beth rydych am ei wneud, cymerwch reolaeth o’ch arian
- Talwch eich biliau terfynol fel myfyriwr
- Casglwch eich ernes yn ôl gan eich landlord
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol gyda’ch cyfeiriad newydd fel y byddant yn eich rhoi ar eu cofrestr etholiadol
- Os yw dyled yn peri pryder ichi, mynnwch gyngor ar unwaith. Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
- Os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n parhau ym myd addysg gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y budd-daliadau cywir
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau’ch cyfrif banc newydd i raddedigion. Darllenwch ein canllaw ar gyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
- Os ydych yn gyrru, meddyliwch a oes gwir angen ichi redeg car tra’ch bod yn rhoi trefn ar eich arian
- Mae faint o amser sydd gennych i dalu’ch benthyciad yn ôl yn seiliedig ar eich incwm. Ond cofiwch: bydd y swm sydd arnoch yn gyfuniad o’ch ffioedd dysgu a’ch benthyciad cynhaliaeth.
- Byddwch yn barod am yr ysgytwad diwylliannol o fyd gwaith. Ar y dechrau mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo’n waeth eu byd yn ariannol nag oeddynt yn y brifysgol. Darllenwch am Gyllidebu ar gyfer eich swydd gyntaf
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?