Dylech fod yn ymwybodol y gall y gwasanaethau a restrir ar yr offeryn hwn fod wedi eu hamharu neu fod yr amseroedd aros yn hwy oherwydd cyfarwyddyd diweddar y llywodraeth am COVID-19. Mae gwasanaethau wyneb yn wyneb a lleol yn benodol yn debygol o fod wedi eu heffeithio. Gweler isod am ragor o fanylion.
Ble i gael cyngor am ddim ar ddyledion
Os ydych yn cael anhawster gyda dyledion, gall fod yn anodd gwybod ble i droi.
Serch hynny, gyda llawer iawn o wasanaethau cynghori rhad ac am ddim ar gael
ledled y DU, gallwch ddod o hyd i gymorth sy’n addas ar eich cyfer chi.
Ar y dudalen hon cewch hyd i:
Mae’r holl wasanaethau isod am ddim, yn gyfrinachol ac â chod safonol neu aelodaeth wedi ei achredu gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
Wasanaethau cyngor ar ddyledion ar-lein
Mae gwasanaethau ar-lein yn ddiogel a gallwch gael cymorth personol ar unwaith.
Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd.
-
-
Debt Advice Foundation
-
www.debtadvicefoundation.org
-
Mae'r Sefydliad Cyngor Ar Ddyled yn elusen cyngor ar ddyled ac addysg cenedlaethol sy'n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy'n poeni am ddyled.
Gwasanaethau cyngor ar ddyledion dros y ffôn
Gallwch siarad â chynghorydd arbenigol yn uniongyrchol.
Fel arfer mae gwasanaethau dros y ffôn ar gael yn ystod yr wythnos, gyda’r nos ac ar Sadyrnau.
-
-
Debt Advice Foundation
- www.debtadvicefoundation.org
- 0800 622 61 51
Mae'r Sefydliad Cyngor Ar Ddyled yn elusen cyngor ar ddyled ac addysg cenedlaethol sy'n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy'n poeni am ddyled.
-
Gwasanaethau wyneb yn wyneb a lleol
Chwiliwch am wasanaeth cyngor ar ddyledion yn lleol i chi. Yna gallwch drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb a siarad â chynghorydd arbenigol yn bersonol.
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n rhedeg busnes bach a’ch bod mewn dyledion personol neu fusnes, cysylltwch â’r gwasanaeth rhad ac am ddim yn eich ardal: Llinell Ddyled Busnes (Cymru a Lloegr) a Llinell Ddyled Busnes (yr Alban) neu Gwasanaeth Dyled Busnes NI (Gogledd Iwerddon).
Wedi sylwi ar wall? Gadewch i ni wybod.
Mae’r holl wasanaethau am ddim, yn gyfrinachol ac yn cynnal safon a achredir gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
Nid yw’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac yn atebol am unrhyw gyngor
a roddir gan drydydd partïon.